Cadw’r Heddwch

Mae myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen o Goleg Bannau Brycheiniog wedi bod yn gweithio’n galed yn adeiladu polion totem ar gyfer gardd leol yn Aberhonddu, a thema’r dyluniad yw ‘Heddwch’.

Mae’r myfyrwyr wedi treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn yn eu dosbarthiadau wythnosol yn paratoi’r polion fel rhan o gydweithrediad gyda Chymuned Hive Aberhonddu. Gyda chymorth myfyrwyr gwaith coed y Coleg, datgelwyd y polion totem yn y Gerddi Heddwch yn Aberhonddu a gwahoddwyd aelodau o’r gymuned a’r gymuned Hive i’r achlysur.

Dywedodd Jules Hore, aelod o gymuned Hive: “Mae’r Coleg yn rhan o’r gymuned. Mae’r ardd yn cynnig cyswllt rhwng y Coleg a’r dref. Mae’r myfyrwyr wedi chwarae rhan hanfodol wrth wneud i hyn ddigwydd.”

Cynlluniodd y disgyblion eu polion gyda symbolau o Gymru a Nepal, i ddangos y cysylltiad â phobl Nepal ac i ddangos gwerthfawrogiad o’r gwaith y maent wedi’i gyflawni yn yr ardd.

Dywedodd Ann Mathias, Maer Aberhonddu a ddadorchuddiodd y polion totem: “Mae’n hafan o dawelwch yn y dref ac rydyn ni mor lwcus i’w chael hi. Dylai pawb sy’n gysylltiedig fod yn falch. Mae’n bleser gwylio pawb yn mwynhau ac yn hyfryd i gwrdd â’r myfyrwyr o Goleg Bannau Brycheniog, ac i allu gweld eu brwdfrydedd dros y prosiect.”

Mae’r dadorchuddio yn rhan o agoriad yr ardd synhwyraidd newydd y tu mewn i’r Gerddi Heddwch. Dywedodd y darlithydd Astudiaethau Sylfaen, Sara Powell: “Mae hon yn ffordd wych o uno â’r gymuned a dod â phawb at ei gilydd. Mae’r myfyrwyr wedi gallu cael rhan weithredol i roi rhywbeth i’r gymuned ac ar hyd y ffordd wedi dysgu llawer o sgiliau, megis adeiladu tîm, dylunio prosiect a hyder.”

Bydd y polion totem yn ogystal â gosodweithiau eraill ar gael i aelodau o’r cyhoedd eu gweld yn y Gerddi Heddwch yn Aberhonddu.