Grŵp Colegau NPTC yw’r gorau yn y DU ar gyfer Plastro

Yn fuan ar ôl ennill Tlws Collino, mae’r adran plastro yng Ngrŵp Colegau NPTC unwaith eto wedi derbyn cydnabyddiaeth o ragoriaeth gan y Worshipful Company of Plaisterers, gan ennill tlws adnabyddus John G Robinson, a gyflwynir i’r coleg â’r perfformiad cyffredinol gorau yn y DU.

Y Worshipful Company of Plaisterers, yw un o gwmnïau lifrai hynafol Dinas Llundain. Mae’r Cwmni’n annog rhagoriaeth ym mhob agwedd ar blastro, gan gefnogi a hyrwyddo crefft plastro yn gryf drwy nifer o fentrau, gan gynnwys ‘Gwobrau Hyfforddiant ‘The Plaisterers’. Mae’r Gwobrau’n cydnabod cyfraniad colegau hyfforddi a darparwyr hyfforddiant annibynnol at bob agwedd ar hyfforddiant, addysg a dysgu gydol oes, sydd oll yn hanfodol i ddyfodol plastro a gwaith leinin sych o fewn diwydiant adeiladwaith y DU.

Bu tîm o arbenigwyr annibynnol yn goruchwylio’r broses feirniadu ym mhob categori a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn cinio gwobrwyo arbennig ar y 25ain o Dachwedd 2019.

Gwnaeth Ian Lumsdaine, Pennaeth yr Ysgol: Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig longyfarch y tîm am eu llwyddiant eithriadol, gan ddweud: “Mae ennill Tlws Collino ar gyfer y Coleg sy’n perfformio orau sy’n cyflwyno NVQ lefel 2 (categori Coleg mawr) yn gyflawniad sylweddol ynddo’i hun ond, mae cael ein cydnabod hefyd yn ffurfiol fel y Coleg sy’n perfformio orau yn gyffredinol o bob rhan o’r DU, yn dyst i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yr adran i lwyddiant myfyrwyr.

Yn wir, ar hyn o bryd, mae mwy o fyfyrwyr yn astudio plastro yng Ngrŵp Colegau NPTC na Choleg Adeiladu Leeds (yr unig goleg adeiladu penodedig yn y DU), sy’n dangos yr enw da sydd gan yr adran plastro yng Ngrŵp Colegau NPTC.”

 

Mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau plastro o fewn yr Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor