Grŵp Colegau NPTC yn Lansio ei Lu Cadetiaid Cyfun

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi dathlu lansiad swyddogol ei Lu Cadetiaid Cyfun newydd (CCF).

Cynhaliodd Academi Chwaraeon Llandarcy orymdaith arbennig yn cynnwys yr holl gadetiaid i nodi’r achlysur, a chroesawyd teuluoedd, aelodau o’r gymuned leol a phersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y gwestai anrhydeddus, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg.

Yna gorymdeithiodd y cadetiaid CCF, yn barod i’w harchwilio gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr D. Byron Lewis a benodwyd ym mis Mai 2008 gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Cafodd yr Arglwydd Raglaw hefyd y fraint o ddyfarnu medalau i’r cadetiaid cyntaf erioed i’w dyrchafu’n Is-gorporal. Mae’r ddau gadet, Cameron Brown a Kieran Ace, sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yn Academi Chwaraeon Llandarcy wedi mynd yr ail filltir o ran yr hyn a ddisgwylid ganddynt yn ystod eu hamser fel cadetiaid a dod yn fodelau rôl i’r cadetiaid eraill.

Dywedodd y cadét Cameron Brown, “Mae’n fraint cael bod yn un o’r cadetiaid cyntaf i gael fy nyrchafu yn Is-gorporal. Ymunais â’r CCF i wella fy CV, ond mae wir wedi cael mwy o effaith ar fy mywyd gyda mwy o hyder, sgiliau personol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu bod yn fwy disgybledig. Mae’r CCF yn beth gwych i unrhyw un i gymryd rhan ynddo – rwy’ wrth fy modd! ”

Mae ein myfyrwyr cyntaf wedi cael blwyddyn gyffrous iawn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel darllen mapiau, trin arfau a saethu, dril troed (gorymdeithio), sgiliau cyflwyno personol, ymgysylltu cymunedol (Sul y Cofio) yn ogystal â  gweithgareddau awyr agored megis cyfeiriannu, caiacio a beicio mynydd. Gorffennodd y cadetiaid y dydd drwy arddangos y sgiliau hyn i’w rhieni balch.

Mae’r CCF yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgol i fyfyrwyr gyda’r nod o ddatblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunanddisgyblaeth. Mae’r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y coleg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n gweithio i greu pobl ifanc cytbwys a llawn cymhelliant sy’n barod ar gyfer byd gwaith a gofynion pob math o gyflogwyr.

Yn ôl Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, braint oedd cael llywyddu dros y digwyddiad. Dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o fod yma heddiw i groesawu’r cadetiaid newydd i deulu Llu’r Cadetiaid Cyfun. Rwyf wedi gweld yn bersonol y gwahaniaeth y mae CCF wedi’i wneud i gadetiaid ac mae’n fraint cael bod yn rhan ohono. Rwy’n falch iawn o weld cymaint o deuluoedd balch yma.”