Ysbryd y Nadolig yng Ngholeg Castell-nedd

Mae myfyrwyr gwaith coed ac asiedydd Coleg Castell-nedd wedi bod yn gweithio’n galed i ledaenu hwyl yr ŵyl yn y gymuned.

Yn ogystal â phrynu anrhegion ar gyfer apêl Mr X fe wnaethon nhw babell a chastell allan o goed paled wedi’u hailgylchu ar gyfer plant ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin.

Dywedodd cydlynydd y cwrs, Ben Jones-Fowler ei fod yn falch o’r gwaith caled:

“Maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed ac yn defnyddio’r sgiliau y maen nhw’n eu dysgu yn dda. Bydd croeso mawr i’r rhoddion rwy’n siwr,” ychwanegodd.