Chwifio’r Faner

Mae Grŵp Colegau NPTC yn dathlu mis hanes LHDT drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws pob un o’i safleoedd gyda chymorth ei gynrychiolwyr myfyrwyr.

Cafodd y digwyddiadau eu cyd-drefnu gan gynrychiolwyr LHDT gyda chymorth gan Cath Elms, yr Uwch Swyddog Ymgysylltiad ac Amrywiaeth Myfyrwyr.

Roedd y sesiynau’n agored i unrhyw un sy’n LHDT+, sy’n gynghreiriaid i’r gymuned, neu sydd heb benderfynu/yn cwestiynu ac a fyddai’n hoffi dysgu rhagor.

Meddai Cath: “Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’n Hundeb Myfyrwyr i gynnal cyfres o ddigwyddiadau sy’n dathlu mis hanes LHDT. Mae digwyddiadau cymdeithasol yn bwysig i’n myfyrwyr LHDT+ i gwrdd â’i gilydd, gwneud ffrindiau newydd, ac ymgyrchu gyda’i gilydd ar y materion sydd o bwys iddynt. Mae codi ymwybyddiaeth o faterion LHDT+ i’n corff myfyrwyr a staff hefyd yn hanfodol bwysig, gan fod pawb yn y coleg yn chwarae rhan yn y gwaith o greu diwylliant cynhwysol a chroesawgar.”

Nod mis hanes LHDT yw cynyddu amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT), codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae pobl LHDT+ yn eu hwynebu o hyd, a galw ar bawb i gyfrannu at gymdeithas LHDT+ gynhwysol.

Mae’n cael ei ddathlu bob mis Chwefror, i goffáu diddymiad adran 28 yn 2003, deddf a gyflwynwyd yn 1988 a oedd yn gwahardd ysgolion a cholegau rhag portreadu bod yn hoyw mewn goleuni cadarnhaol.

Ymhlith y cynrychiolwyr LGBT mae Stephen Davies o Goleg Bannau Brycheiniog, Coleg Castell-nedd: Cori Collins a Monty Berzinis a Daniel Rees o Goleg Afan.