Dyfodol Disglair ym myd Busnes

Mae Thomas Moore, cyn-fyfyriwr, yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o fywyd fel myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC a lle y mae ei daith ddysgu wedi mynd ag ef ers gadael.

Ar hyn o bryd mae Thomas, 19 oed, yn astudio gradd mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Reading. Mae’n rhannu ei amser rhwng byw yn Reading yn ystod y tymor a dychwelyd adref i Bort Talbot i dreulio’r gwyliau. Mynychodd Thomas Ysgol Gyfun Dyffryn ac aeth ymlaen i astudio Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Busnes gyda Grŵp Colegau NPTC yng Ngholeg Castell-nedd.

Eglurodd Thomas pa gwrs a astudiodd a pham; “Dewisais astudio busnes am ei fod yn un o fy mhynciau gorau, roedd y cwrs a ddewisais yn y Coleg yn ganlyniad i’r darlithydd Daniel Tregoning ei werthu i mi yn dda iawn mewn diwrnod agored”.

Mae ei ddewis yn profi pam ei bod mor bwysig mynd ar drywydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi ym maes addysg. Adlewyrchwyd brwdfrydedd Thomas dros fusnes yn ei radd derfynol, Rhagoriaeth driphlyg 3 seren (D * D * D *), sy’n cyfateb i dri A * Safon Uwch.

Dywedodd Thomas hefyd, “Fy llwyddiant mwyaf yn y coleg oedd y radd a gefais ar y diwedd, allwch chi ddim curo’r marciau uchaf! ‘ ‘

Wrth i ni ofyn i Thomas am fywyd fel myfyriwr a’r hyn a fwynhaodd fwyaf oll am y Coleg, dywedodd:

“Y peth gorau am fod yn fyfyriwr yw’r agwedd gymdeithasol, cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau o wahanol ardaloedd”

Rydym yn cytuno! Mae’r naid o’r ysgol i’r Coleg yn wir yn un fawr, ond yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Mae’n amgylchedd cyffrous newydd lle y gallwch gwrdd â llawer o bobl newydd, sydd yn bendant yn helpu wrth ymgartrefu ar ddechrau’r tymor.

“Y peth gorau am y coleg oedd bod y  darlithwyr yn rhoi llawer mwy o barch i chi nag athrawon yn yr ysgol uwchradd a’r ysgol gynradd, gallech siarad â nhw fel cyfaill”

Pan fyddwch yn dechrau mynychu Coleg, mae darlithwyr yn deall eich bod chi yno o ddewis, i gael addysg yn eich dewis bwnc. Maen nhw yno i addysgu a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich taith gyfan drwy’r Coleg!

Ar ôl ennill y graddau gwych hynny yn y Coleg a sicrhau lle ym Mhrifysgol Reading, gosododd Thomas ei olygon ar redeg ei gwmni ei hun un diwrnod; “Ar ôl y brifysgol, mae gen i’r amcan o ddefnyddio fy ngwybodaeth busnes ynghyd â’m gwybodaeth dechnoleg i ddechrau busnes yn y maes hwnnw. O bosibl yn adeiladu/atgyweirio cyfrifiaduron neu rywbeth tebyg ”

Mae’r dyfodol yn ddisglair i Thomas! Mae cyfuno eich diddordebau yn ffordd sicr i weithio tuag at eich swydd ddelfrydol.

Os yw’r stori hon wedi eich ysbrydoli a’ch bod yn awyddus i gymryd rhan, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cyrsiau busnes yma: www.nptcgroup.ac.uk/cy/schools/busnes-twristiaeth-a-rheolaeth/