Myfyriwr ysbrydoledig, yn ei arddegau, i ddechrau ar y rheng flaen

Mae myfyriwr o Grŵp Colegau NPTC, Aiden Daniel, o Flaendulais wedi gwneud y penderfyniad dewr i ymuno â’r frwydr yn erbyn COVID 19 drwy ddod yn weithiwr cymorth gofal iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUH) yn 16 oed yn unig.

Mae gan y myfyriwr sy’n astudio cwrs lefel 3 mewn Chwaraeon a Thylino yng Ngholeg Afan freuddwydion i fod yn ffisiotherapydd neu’n therapydd chwaraeon, ond cyn dechrau ar gam nesaf ei hyfforddiant ar gyfer y cwrs lefel 4 mewn Therapi Chwaraeon, mae wedi dewis rhoi’r gorau i’w wyliau haf a neilltuo ei amser i ofalu am bobl eraill.

Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rhan hanfodol o dîm iechyd neu ofal cymdeithasol, trwy ddarparu gofal o ansawdd uchel a thosturiol i unigolion. Maent yn cyflawni dyletswyddau clinigol rheolaidd sydd wedi’u diffinio’n glir a hanfodion gofal hanfodol megis cymryd tymheredd, gwneud gwelyau, cynorthwyo cleifion, newid a gofalu am gleifion.

Pan ofynnwyd iddo pam y dewisodd wneud cais am y rôl esboniodd Aiden: ‘Penderfynais wneud cais am rôl HCSW gan fy mod wir wedi mwynhau’r lleoliad a dreuliais mewn ysbyty drwy gynllun Cadetiaid Nyrsio RCN (Coleg Nyrsio Brenhinol) y fyddin. Dwi bob amser wedi eisiau gweithio fel ffisiotherapydd, oherwydd i fi gael llawdriniaeth fawr yn naw oed a roedd rhaid i fi dreulio chwe wythnos yn yr ysbyty, ac roeddwn i’n edmygu’r holl staff yno a oedd yn gofalu amdana i. Dwi wastad wedi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl mewn unrhyw ffordd y gallwn i.’

Mae’r Cynllun Cadetiaid Nyrsio Tywysog Cymru a ddarperir gan yr RCN yn rhoi cyflwyniad i yrfaoedd posibl mewn nyrsio i aelodau ifanc o sefydliadau mewn lifrai.  Mae’r cynllun, a gefnogir gan ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn anelu at eu datblygu a’u paratoi ar gyfer bywyd a’u cefnogi i weithio ym maes nyrsio.

Ar ôl i’r Coleg orffen, ac ar ôl i’w rôl bresennol fel achubwr bywyd yn Nghanolfan Hamdden Freedom Ystradgynlais gael ei ohirio, doedd Aiden ddim am gael ei ddiflasu gartref, felly yn lle hynny, llwyddodd Aiden i ddod o hyd i’r swydd ar-lein, ac ar ôl cyfweliad llwyddiannus bydd yn dechrau ar y gwaith o hyfforddi naill ai yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot neu Ysbyty Treforys.

Ychwanegodd fod ei gyfnod yn y coleg, lle mae ef yn llysgennad myfyrwyr ac yn gynrychiolydd myfyrwyr, hefyd wedi siapio pwy ydyw heddiw: ‘Ers dechrau yn y Coleg dwi wedi ennill sut gymaint o hyder, gwybodaeth a phrofiad.  Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau a fedra i ddim credu pa mor lwcus ydw i i astudio rhywbeth yr wyf yn teimlo mor angerddol amdano.’

Roedd Gaynor Richards MBE, Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth Grŵp Colegau NPTC, wrth ei bodd i glywed y newyddion a dywedodd: “Dwi bob amser wedi bod yn hynod o falch i fod yn rhan o’r coleg a’r gymuned sy’n cael ei wasanaethu, ond dwi’n arbennig o falch o Aiden a holl fyfyrwyr eraill NPTC a fydd yn dechrau’n fuan gyda’r GIG a darparwyr gofal eraill yn ystod cyfnod eithriadol o dyngedfennol i’r wlad. ‘

Dywedodd yr Athro Donna Mead OBE sy’n aelod o Fwrdd y Gorfforaeth a Chadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yng Nghaerdydd, a enwyd hefyd yn un o’r 70 o nyrsys mwyaf dylanwadol yn ystod 70 mlynedd diwethaf y GIG: “Rwy’n teimlo’n ostyngedig wrth weld y gwaith a’r cyfraniad gan bawb sy’n gweithio yn y GIG yn ystod y clefyd pandemig hwn a’r boddhad o weld myfyrwyr ifanc fel Aiden eisiau cymryd rhan.  Mae e’n ddyn ifanc anhygoel ac yn ddiau bydd ganddo ddyfodol disglair iawn o fewn y sector iechyd. ”

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Mae profiad ymarferol yn elfen allweddol o’n holl gyrsiau ac felly gyda hyn mewn golwg rydyn ni’n hollol hyderus y mae ein myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda i roi help llaw pwysig i gefnogi’r GIG ac eraill ar y rheng flaen ar hyn o bryd.

“Dylai pob un o’n myfyrwyr deimlo’n hynod falch ohonynt eu hunain a gwybod bod Grŵp Colegau NPTC yma i’w cefnogi bob cam o’r daith.”