Dosbarth Meistr Rhithwir gyda’r Triniwr Gwallt Enwog Lee Stafford

Mae’r flwyddyn newydd wedi dod â phob math o heriau ond nid yw hynny wedi atal y tîm yn Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, gyda’r triniwr gwallt enwog yn cynnal dosbarth meistr rhithwir i fyfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Ysbrydolodd Lee Stafford ynghyd â Paul Watts, Aelod Tîm Dylunio Lliw Ewropeaidd JOICO, fyfyrwyr â dosbarth meistr torri byw ar-lein.  Dangosodd Paul un o ryseitiau Lee, y toriad gwallt graddedig byr, a rhoddodd gipolwg i’r myfyrwyr ar yr hyn sydd ei angen i lwyddo yn y proffesiwn trin gwallt.  Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i ofyn cwestiynau yn y dosbarth meistr rhyngweithiol ac maen nhw nawr yn edrych ymlaen at ymarfer y rysáit hon i baratoi ar gyfer eu hasesiadau.

Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford yw’r gyntaf o’i math a’r unig un yng Nghymru. Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae’r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff trin gwallt a gwaith barbwr. Mae myfyrwyr yn dysgu ‘ryseitiau’ sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ac sy’n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o’r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae hwn yn hyfforddiant na allwch ei gael yn unman arall, a gynhelir mewn salonau brand arbenigol yn Afan, Port Talbot, Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd ac mae’r Coleg yn anelu at wneud ei fyfyrwyr y mwyaf cyflogadwy yn y wlad.

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol y Coleg: “Cynhaliodd Lee y digwyddiad yn wych ac roedd cael Paul i gynnal yr arddangosiad hefyd wedi caniatáu i’r myfyrwyr anelu at lwyddiant Lee a Paul, gan ddarparu addysgu ysbrydoledig sy’n caniatáu i’n myfyrwyr ragori yn eu dysgu, eu dychymyg ac yn y pen draw yn eu cyflogaeth. ‘

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn gwallt, yna Grŵp Colegau NPTC yw’r lle i chi!  Mae ceisiadau ar agor i ddechrau ym mis Medi. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hystod lawn o gyrsiau Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol ar ein gwefan. Cliciwch Yma Am Mwy