Bwrdd iechyd yn gwella cydraddoldeb y gweithlu gyda’i Raglen Prentisiaethau

Mae Cymru iachach a mwy cyfartal wrth wraidd Rhaglen Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Wedi’i ymgorffori yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Bwrdd Iechyd yw’r nod i wella cydraddoldeb yn y gweithlu a bydd hyn yn cael ei yrru’n rhannol trwy recriwtio prentisiaid.

Ar hyn o bryd, ac er gwaethaf heriau recriwtio a ddaeth yn sgil pandemig COVID, mae gan y Bwrdd Iechyd 29 o brentisiaid a 18 yn aros i ddechrau.

Er 2016, mae wedi recriwtio 215 o brentisiaid, gan weithio mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC a darparwyr hyfforddiant eraill, ac mae bellach yn cynnig 17 Fframwaith Prentisiaeth ar Lefel 2 ac i fyny yn amrywio o Gymorth Patholeg i Beirianneg Electronig.

Mae’r ymrwymiad hwn i brentisiaethau wedi arwain at y bwrdd iechyd yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 mawreddog.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar Ebrill 29.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd prentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Academi Prentisiaid y Bwrdd Iechyd yn cynnig cyfle i ‘roi cynnig arni cyn ymrwymo’ lle gall dysgwr newid llwybr i gwrs mwy addas.

Dywedodd Abbie Finch, cydlynydd prentisiaid a datblygu staff: “Mae ein gwerth o ‘wella o hyd’ wedi’i wreiddio yn ein staff ac mae prentisiaethau’n helpu nid yn unig i greu gweithwyr mwy bodlon, ond gweithlu mwy diogel a sefydlog sy’n gwella gofal cleifion.”

Gan weithio gydag ysgolion a cholegau lleol, nod y Bwrdd Iechyd yw cynyddu cyfleoedd am brentisiaethau i’r rheini ag anabledd, o fewn y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhyw o fewn ei 12,500 o staff.

Mae diwrnodau cynefino misol, cyfarfodydd mentor bob dau fis, cyfweliadau mewnol gwarantedig, adolygiadau cyrhaeddiad a dilyniant chwarterol a phroses adolygu ymadael newydd i gyd yn rhan o becyn prentisiaeth y bwrdd iechyd.

Dywedodd Alec Thomas, rheolwr hyfforddiant Pathways gyda Grŵp Colegau NPTC:

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn enghraifft wych o sefydliad sydd wir yn dangos ei ymrwymiad i ddatblygu ei brentisiaid.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfa ac rwy’n falch iawn ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig yr ydym yn gwybod y mae mawr eu hangen ar fusnesau ar draws pob sector o’r economi yng Nghymru. Bydd hyn yn hanfodol wrth inni ddod allan o’r pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn rhoi cyfle gwych i ddathlu ac arddangos cyflawniadau pawb sy’n cymryd rhan, o’r prentisiaid gorau i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch holl gystadleuwyr y rownd derfynol a gyhoeddwyd ar gyfer y digwyddiad eleni a dymuno’r gorau i bawb yn y dyfodol.”