Parod i Addysgu!

Efallai rydym wedi bod yn euog o gymryd ein hathrawon yn ganiataol yn y gorffennol, ond i lawer o bobl mae addysgu gartref wedi bod yn brofiad dysgu sydd wedi golygu ein bod yn gwerthfawrogi rôl ein hathrawon yn fwy nag erioed.  I eraill efallai eu bod wedi darganfod cariad newydd at y rôl.  Yng Ngholeg y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) rydym yn cynnig Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TBAR) i’r rheiny â gradd mewn pwnc perthnasol sy’n dymuno ennill cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol i weithio ym maes addysg bellach a’r sector ôl-orfodol ehangach. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ymarfer llwyddiannus mewn Addysg Ôl-Orfodol a’ch hyder fel ymarferydd proffesiynol.

Mae’r myfyriwr Linda Williams sydd ar hyn o bryd wedi’i chyflogi yn yr adran Arlwyo yng Ngholeg y Drenewydd yn rhannu ei phrofiad o hynt a helynt y cwrs hyd yn hyn yn yr amgylchedd presennol.

Pan ddechreuodd Linda ar y cwrs, mae’n cyfaddef ei fod yn frawychus braidd.  Mae’n egluro: ‘Pan fyddwch yn cyrraedd ar eich diwrnod cyntaf rydych yn fwy na thebyg o fod ychydig yn nerfus, ond bydd aelodau eraill y grŵp yn teimlo felly hefyd. Mae gan bob un ohonoch nod cyffredin, a byddwch chi i gyd yn mynd trwy’r daith hynod amrywiol gyda’ch gilydd. Byddwch yn rhannu straen, pryderon, dyheadau a llwyddiannau; a byddwch yn dod yn asedau gorau eich gilydd, heb sôn am ddod yn ffrindiau gydol oes.

“Mae yna lawer o waith; ymchwil, aseiniadau, darllen, myfyrdodau, a bydd yn rhaid i chi gynnig tystiolaeth ar gyfer pob dim – neu felly mae’n teimlo! Ydy, mae’n teimlo’n llethol ar y dechrau, ond byddwch chi’n sicr yn cyrraedd y nod ac yn ei fwynhau. Dyma eich llwybr i fod yn athrawon gwell a bydd maint y dystiolaeth rydych chi’n ei darparu nid yn unig yn dangos eich bod yn athrawon da, ond bydd hefyd yn rhoi ymdeimlad o hyder a chyflawniad i chi.

“Y canlyniad mwyaf defnyddiol rydw i wedi’i ddarganfod yw datblygu fy sgiliau TGCh fy hun fel y gallaf rannu’r wybodaeth hon yn hyderus gyda myfyrwyr a gwneud y gorau o dechnoleg gan ddefnyddio sesiynau ar-lein.

“Mae hyblygrwydd a dull rhagweithiol ein haddysgu wedi golygu newid i ddarparu ar-lein ac er ei fod yn heriol, rwy’n credu y bydd hefyd yn bwysig buddsoddi mewn uwchsgilio athrawon yn y dyfodol er mwyn galluogi a datblygu hyn ymhellach.

“Rydyn ni wedi cael nifer o fodelau rôl yn ymuno â’n cyfarfodydd ar-lein.  Maent wedi
cynnwys aelodau amrywiol o staff o wahanol adrannau yn y Coleg yn rhoi cyflwyniadau fel gwasanaethau llyfrgell, menter a chyflogadwyedd, diogelu, sgiliau ysgrifennu academaidd, hyfforddiant sgiliau addysg uwch a’r rhaglen trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn ogystal, bu nifer o gyflwynwyr allanol gan gynnwys Mark Phipps o Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC); Helen Humphreys – Sgiliaith – Ymgorffori’r Gymraeg mewn addysgu; Spike Blackhurst (Syniadau Mawr Cymru) – yn siarad am ei gyrfa a sut mae cwblhau’r cwrs TAR / TBAR yn NPTC wedi gwella ei chyfleoedd busnes.”

Cyhoeddodd Linda ei bod wedi mwynhau’r trafodaethau gyda Spike Blackhurst o Big Ideas Wales yn arbennig. “Roedd hi’n berson hoffus, diddorol a thalentog iawn,” ychwanegodd.

Myfyriodd Linda ar ddysgu trwy’r pandemig gan nodi bod ‘y pandemig wedi caniatáu i rai o’r myfyrwyr mwy mewnblyg wneud cyfraniadau trwy’r teclyn sgwrsio, mewn rhai achosion yn fwy nag efallai y byddent wedi’i wneud mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.”

Aeth ymlaen i egluro rhai o’r pethau cadarnhaol ynghylch gweithio gartref a dywedodd: “Yn bersonol, rwyf wedi elwa ar y rhyddid o weithio gartref, h.y., llai o dagfeydd, mwy o amser i wneud ymarfer corff a mwy o hyblygrwydd o ran sut i drefnu fy amser, gan arwain at fwy o amser gyda fy nheulu. Fodd bynnag, er gwaethaf aros mewn cysylltiad â fy nghydweithwyr trwy blatfformau ar-lein, rwyf wedi gweld eisiau’r rhyngweithio un i un wrth sgwrsio yn y coridor a phicio i mewn i ystafelloedd dosbarth. Dydw i ddim yn credu y gall technoleg ddisodli hyn yn llwyr ond gobeithio y gallwn weithredu model cyfunol llwyddiannus. Yn gyffredinol, mae cydnerthedd ein staff a’n myfyrwyr wedi creu argraff dda iawn arnaf mewn ymateb i’r addasiadau sydyn i’n bywydau ni i gyd.”

Dywedodd y Darlithydd TAR / TBAR, Sarah Welch: “Mae’r cwrs yn waith caled ond yn werth chweil ac yn ogystal â chael cefnogaeth gan gymheiriaid ar y cwrs, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan diwtoriaid a mentoriaid. Mae dysgu ar-lein yn wahanol i’r hyn rydyn ni wedi arfer ag ef i bawb ar hyn o bryd, ond rwy’n siŵr y bydd yn chwarae mwy o ran wrth addysgu yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Sarah: “Hoffem ddiolch i’n holl fodelau rôl sydd wedi ymuno â ni ar-lein gan ddarparu gwybodaeth, ysbrydoliaeth ac arweiniad ychwanegol i ddysgwyr.”

I gael mwy o wybodaeth am y cymhwyster TAR, cliciwch yma