Seren o fyfyrwraig i dderbyn y Wobr Celfyddydau Gweledol Murillo-Rock Gyntaf

Yr artist ifanc Seren Harris, myfyrwraig Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio o Goleg Afan, yw’r artist cyntaf i dderbyn Gwobr Celfyddydau Gweledol Murillo-Rock.

Mae’r wobr, a sefydlwyd gan y cyn-fyfyriwr celf a dylunio, Neal Rock ynghyd â’i gyd-artist ac Enillydd Gwobr Turner 2019, Oscar Murillo, yn rhoi help llaw i artistiaid ifanc.

Mae Neal bob amser wedi bod yn eiriolwr enfawr i’r Coleg, yn aml yn rhoi gweithdai ysbrydoledig a sgyrsiau am y diwydiant i fyfyrwyr, ond yna penderfynon nhw gymryd hynny gam ymhellach a lansio Gwobr Celfyddydau Gweledol Murillo-Rock, sy’n cynnwys cyflwyno gwobr ariannol i fyfyriwr i’w helpu i ddilyn ei freuddwydion gyrfa o fewn y celfyddydau gweledol, yn benodol myfyriwr sy’n dod i ddiwedd ei astudiaethau ar y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Afan.

Wedi’i eni a’i fagu ym Mhort Talbot, mae Neal Rock yn deall pa mor anodd y gall fod i fyfyrwyr sydd am ddilyn y celfyddydau gweledol yn eu hardal leol a bydd y wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth a help llaw iddynt symud ymlaen yn y diwydiant Celfyddydau Creadigol.

“Rydym yn falch iawn o gynnig y wobr hon am ragoriaeth greadigol mewn celf weledol i fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC. Rydw i ac Oscar Murillo yn dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol ac roedd y Coleg yn ffurfiannol yn fy natblygiad cynnar. Gobeithiwn y bydd y wobr hon yn anogaeth i fyfyrwyr ddilyn eu huchelgeisiau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae Seren yn arlunydd rhyfeddol ac yn enillydd cyntaf haeddiannol iawn y wobr hon.  Fe wnaethon ni ddewis ei gwaith oherwydd yr ansawdd ac integreiddiad diddorol tecstilau a ffotograffiaeth.”

Gwaith Seren

Mewn seremoni rithwir lle roedd Neal Rock yn fyw o Virginia, roedd Seren wrth ei bodd i fod yn enillydd cyntaf Gwobr Celfyddydau Gweledol Murillo-Rock, gan ddweud:

”Rwy’n synnu, ond hefyd yn hapus iawn fy mod wedi ennill gwobr Celfyddydau Gweledol Murillo-Rock.  Rwy’n ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth a’r wobr a gobeithio y byddaf ryw ddydd hefyd mewn sefyllfa i helpu artistiaid ifanc”.

Mae Grŵp Colegau NPTC a Vicky Burroughs, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn hynod ddiolchgar i Neal Rock, sydd wedi rhoi cymaint o’i amser, egni ac arbenigedd i’r wobr hon a gobeithiwn y bydd Neal yn gallu parhau i weithio gyda ni a’n myfyrwyr Celfyddydau Gweledol yn y dyfodol.

“Rwy’n falch iawn mai Seren fydd y myfyriwr Celf a Dylunio cyntaf yn Afan i dderbyn Gwobr Murillo-Rock. Fel llawer o fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Seren wedi profi ei hymrwymiad i’w hastudiaethau a’i hymarfer fel artist tecstilau; gan weithio o amgylch yr aflonyddwch y mae’r cyfnodau clo wedi ei achosi, i gynhyrchu corff medrus o waith ar gyfer ei chwrs Celf a Dylunio Sylfaen. Mae ei thalent greadigol wedi bod yn amlwg o ddechrau’r cwrs ac mae staff wedi mwynhau helpu Seren i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a chysyniadol y bydd eu hangen arni wrth symud ymlaen gyda’i gyrfa. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi barhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd Seren yn ymuno â chriw helaeth o unigolion creadigol sydd wedi cychwyn ar eu gyrfaoedd ym Mhort Talbot. Mae’n wych bod artistiaid ifanc o’r ardal hon yn cael y gydnabyddiaeth y mae eu gwaith caled yn ei haeddu, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Neal Rock ac Oscar Murillo am eu diddordeb yn ein myfyrwyr creadigol a’u cefnogaeth iddynt.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Celf a’r Diwydiannau Creadigol? Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â ni, rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer ein holl gyrsiau celf a dylunio gan gynnwys y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Cliciwch Yma Am Mwy Ar Gyrsiau Celf a Dylunio