Y Prentis Ollie Leadbetter yn Rhan o Gwmni Arobryn Compact Orbital Gears

Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o glywed bod Compact Orbital Gears (COG) yn Rhaeadr wedi eu cyhoeddi fel enillwyr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae gan y cwmni hanes hir o weithio gyda Choleg y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) i gefnogi a hyfforddi prentisiaid newydd. Maent yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a datblygu datrysiadau geriau pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid awyrofod, modurol ac ynni glân.

Roedd y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn rhithiol yn arddangos 35 o gystadleuwyr yn y rownd derfynol sydd wedi rhagori, llawer yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod digynsail.

Y Prentis Hyfforddiant Pathways diweddaraf i ddilyn cyfres o leoliadau llwyddiannus yn Compact Orbital Gears (COG) yw Ollie Leadbetter.  Mae Ollie, sy’n 16 oed ac o Y Fan Llanidloes, yn astudio Diploma Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 y mae disgwyl iddo ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2021. Mae’n mynychu’r coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn gweithio yn COG fel Gweithredwr Peiriant Turnio dau ddiwrnod yr wythnos yn ystod y tymor a phum diwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau’r coleg. Bydd yn symud ymlaen i Beirianneg Fecanyddol Lefel 3 ym mis Medi eleni.

Mae ein hadran Hyfforddiant Pathways yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant mewn ystod eang o sectorau. Mae gan lwybrau prentisiaeth mewn Peirianneg opsiwn dilyniant i wneud y Diploma Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2, Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg ac yna ymlaen i Lefel Gradd.

Mae hwn yn llwybr cadarnhaol iawn i lawer sydd dros 16 oed, ac eisiau ennill cyflog wrth dderbyn buddion eraill gweithwyr mewn gyrfa o’u dewis.

Mae datblygu gweithlu aml-sgil a hyblyg wedi helpu Compact Orbital Gears i ddod yn enw blaenllaw mewn trawsyriant geriau arbenigol ers mwy na 50 mlynedd.

Cafodd y cwmni, sydd â gweithlu o 43 ei sefydlu yn y 1960au ac mae’n falch o’i weithlu medrus iawn, ethos teuluol a hanes hir o recriwtio prentisiaid o ganolbarth Cymru.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd gweinidog yr economi, Vaughan Gething:

“Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori trwy raglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail a heriol iawn hwn.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau adfer uchelgeisiol i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth inni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru sy’n dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy, cynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Dyna pam mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd prentisiaeth pellach dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn wlad fach, ond mae gennym uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gyflogwyr.”

Mae ffocws ar dyfu ei gronfa ei hun o beirianwyr medrus yn talu ar ei ganfed i Compact Orbital Gears ar adeg pan mae prinder yn y DU. Mae ei Raglen Prentisiaethau yn darparu hyfforddiant technegol, wedi’i gefnogi gan gyfarwyddyd arbenigol mewnol gyda gweithwyr profiadol yn rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth â phrentisiaid.

Dywedodd Tricia Evans, rheolwr ariannol Compact Orbital Gears: “Mae’n hanfodol i lwyddiant ein cwmni yn y dyfodol ein bod ni’n datblygu ac yn annog recriwtiaid newydd, wrth iddyn nhw ddod â dysgu newydd a syniadau ffres gyda nhw.”

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ein cydnabod fel Cyflogwr Busnes Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2021.  Mae rhaglen brentisiaeth yn hanfodol i sicrhau bod gweithlu medrus yn cael ei ddarparu yn Compact Orbital Gears. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarperir gan Grŵp Colegau NPTC, Coleg y Drenewydd a hyfforddiant Myrick i sicrhau bod ein rhaglen prentisiaethau yn diwallu anghenion y dysgwr a’r cyflogwr.” Rheolwr Cynhyrchu COG Rob Price

“Ar ran Hyfforddiant Pathways hoffwn longyfarch Compact Orbital Gears ar ennill Gwobr Prentisiaethau Cymru 2021.  Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chwmni sydd wedi dangos ymrwymiad i gefnogi prentisiaethau yn yr ardal ac mae’r wobr yn un haeddiannol iawn.  Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio yn y dyfodol.” Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Alec Thomas.

I ddarganfod rhagor am gyfleoedd prentisiaeth yn yr ardal gan gynnwys prentisiaethau Peirianneg Fecanyddol, cysylltwch â Grŵp Colegau NPTC yn prentisiaethau@pathwaystraining.co.uk neu dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan.

Cliciwch Yma Am Mwy