Llwyddiant ysgubol Therapi Harddwch yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru

Mae Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford wedi bod yn dathlu llwyddiant eu myfyrwyr Therapi Harddwch yn seremoni wobrwyo rithwir cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ddiweddar.

Yn ystod y ddwy rownd o Therapydd Harddwch (Dwylo ac Wyneb) ac ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) gwelwyd pedair medal yn cael eu dyfarnu i ddwy fyfyrwraig o Goleg Afan a dwy fyfyrwraig o Goleg y Drenewydd.

Cyflawnodd tair myfyrwraig NVQ Lefel 2 wobrau efydd ac arian yn y rhagrasys Therapydd Harddwch – Dwylo ac Wyneb.

Dyfarnwyd y fedal Arian i Rosie Newton o Goleg Afan, a nododd:

‘Rwyf wedi derbyn llawer o help a chefnogaeth gan fy nhiwtor Gemma. Rwy’n falch iawn o ennill medal Arian yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, ni allwn fod wedi ei wneud heb gefnogaeth Gemma!’

Ychwanegodd Gemma Davies, Tiwtor Therapi Harddwch yng Ngholeg Afan:

”Fel tiwtor Rosie, rwyf wrth fy modd gyda’i llwyddiant yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ennill medal Arian.  Gweithiodd yn galed trwy gydol y cyfnod clo, mae’n ymfalchïo’n fawr yn ei gwaith ac yn berffeithydd llwyr gyda thriniaethau! Da iawn Rosie!’

Roedd y ddwy enillydd efydd yn y rhagras hon yn fyfyrwyr o Golegau Afan a’r Drenewydd. Soniodd Aimee Nurse o Goleg Afan am ei phrofiad, gan ddweud:

”Diolch enfawr i’m tiwtor Alison am ei holl gefnogaeth trwy gydol y gystadleuaeth a’r flwyddyn gyfan. Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn ystod y cyfnod clo yn her, ond mwynheais y cyfle i brofi a datblygu fy sgiliau yn fawr. Rydw i mor falch fy mod i wedi ennill y wobr efydd’.

Ychwanegodd Alison Grattarola, tiwtor y cwrs a mentor, ‘Llongyfarchiadau ar eich gwobr a’ch holl waith caled wrth ymarfer yn dawel ond mor benderfynol, cydwybodol a phroffesiynol. Canlyniad gwych o ystyried eich bod wedi gorfod tynnu’r holl luniau eich hun yn ystod y cyfnod clo gyfer eich cais’.

Diolchodd enillydd y fedal Efydd arall, Ariyarnna Tidbury o Goleg y Drenewydd ei thiwtor cwrs Charlotte Smith am ei chefnogaeth.

‘Diolch i’m tiwtor Charlotte a wnaeth fy annog yn fawr a rhoi hyder imi gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd rhan gan ei fod yn gyfle anhygoel.

Ymatebodd Charlotte, ”Rwy’n falch iawn bod Ariyarnna wedi derbyn medal Efydd, mae’n gyflawniad gwych iddi yn ystod blwyddyn heriol iawn’.

Arweiniodd ail ragras y gystadleuaeth ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) at Lucy Lewis, myfyrwraig Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cymhwysol o Goleg y Drenewydd yn ennill medal efydd.

Dywedodd Lucy, ‘Rydw i ar ben fy nigon fy mod i wedi ennill medal am yr ail flwyddyn yn olynol yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru. Diolch enfawr i’m tiwtor, Lisa Brandon, sydd nid yn unig wedi dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i mi ond sydd hefyd wedi rhoi hyder i mi gystadlu mewn cystadlaethau fel hyn. Rwy’n edrych ymlaen at gystadlu mewn cystadlaethau yn y dyfodol.

Dywedodd Lisa Brandon, tiwtor cwrs a mentor Lucy yn ystod ei llwyddiant dros y ddwy flynedd, ‘Rwyf mor falch o gyflawniadau Lucy yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru gan ennill medal mewn Therapydd Harddwch ac Ymarferydd Harddwch dros ddwy flynedd.  Mae ei gwobrau yn dangos pa mor ymroddedig, medrus a thalentog yw hi fel therapydd ac mae’n gymaint o bleser i’w dysgu’.

Roedd Juliana Thomas, Pennaeth Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford wrth ei bodd â llwyddiant y myfyrwyr.  Dywedodd:

‘Rydw i wrth fy modd gyda llwyddiant y myfyrwyr yn enwedig o ystyried yr heriau maen nhw wedi gorfod eu goresgyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n dyst nid yn unig i ymroddiad, ansawdd a gwaith caled y darlithwyr therapi harddwch yma yn y Coleg ond hefyd yr ymrwymiad a ddangoswyd gan y myfyrwyr.  Rwy’n llawn cyffro i weld y myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i gymryd rhan yn WorldSkills.”