Lansio Pod Cymorth TGAU ym mis Medi

Mae Grŵp Colegau NPTC yn llawn cyffro i gyhoeddi ei fod wedi buddsoddi yn GCSEPod, y darparwr cynnwys ac adolygu digidol arobryn.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio ar unrhyw un o’r rhaglenni TGAU Saesneg a Mathemateg a Skills Forward yn cael mynediad i lyfrgell GCSEPod o ‘Pods’, fideos 3-5 munud i gyflwyno gwybodaeth mewn cyfnodau byr. Bydd yr adnodd deniadol a hwyliog newydd hwn yn helpu pob myfyriwr i fagu hyder, gyda nodweddion fel ‘Gwirio a Herio’ sy’n caniatáu iddynt ateb cwestiynau yn annibynnol ac yn darparu cefnogaeth trwy awgrymiadau, ail gynigion a datganiadau adborth. Gall GCSEPod hefyd nodi bylchau mewn gwybodaeth ac anfon adnoddau yn awtomatig at bob myfyriwr i helpu i gryfhau eu gwybodaeth.

Dywed Naomi Davies, Rheolwr Sgiliau Craidd Grŵp Colegau NPTC: “Mae hwn yn adnodd newydd gwych i’n myfyrwyr. Mae’r pandemig wedi dod â llawer o heriau i ddatblygiad llythrennedd a rhifedd a bydd ein partneriaeth â GCSEPod yn helpu myfyrwyr i bontio’r bwlch mewn unrhyw ddysgu y gallent fod wedi’i golli neu na allent ei ddatblygu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a hefyd i ymestyn a herio’r myfyrwyr hynny a oedd wedi yn gallu addasu.”

I rhoi blas ar yr hyn sydd i ddod, mae GCSEPod yn cynnig rhaglen myfyrwyr AM DDIM newydd gyffrous ac ysbrydoledig sydd wedi’i chynllunio i gefnogi myfyrwyr/rhieni gyda dysgu yr haf hwn. Bydd hyn yn rhoi cipolwg ar yr adnodd y bydd gan bob myfyriwr NPTC fynediad iddo ym mis Medi.

Cyrchwch y GSCEPod yma: www.gcsepod.com/summerpod