Gwobrwyo 24 o gyflogwyr Cymru am gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

Mae’n bleser gan Gymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Cadetiaid Cymru gyhoeddi bod 24 sefydliad anhygoel yng Nghymru wedi cyflawni Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2021.

Mae hyn yn dilyn sodlau eu cyhoeddiad diweddar o 10 gwobr ERS Aur ledled Cymru.

Mae Gwobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Y sefydliadau sydd wedi ennill y wobr ar gyfer 2021 yw:

  • Admiral Group Plc
  • A R C Academy UK Limited
  • C.B International Limited
  • Brightlink Learning Ltd
  • Camilleri Construction Limited
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • EA Inclusion
  • Enbarr Foundation CIC
  • Gatewen Training Services Limited
  • Hafal
  • K Sharp Ltd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Grŵp NPTC (Nedd Port Talbot)
  • Ollywood Ltd
  • Pathway Risk Management Limited
  • Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf
  • Portsec Security Ltd
  • Print Inc & Design Limited
  • Quadrant 4 Ltd
  • Rubicon Facilities Management Ltd
  • The VC Gallery
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Veterans Awards CIC
  • Woody’s Lodge

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:

“Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi profi eu cefnogaeth i’r gymuned Amddiffyn yn ystod cyfnod mor ddigynsail a heriol.

Mae’r ystod eang o’r rhai a gydnabyddir eleni yn dangos sut mae cyflogi cymuned y Lluoedd Arfog yn cael effaith wirioneddol gadarnhaol a buddiol ar bob cyflogwr, waeth beth fo’i faint, ei sector neu ei leoliad.”

Dywedodd y Pennaeth Recriwtio, Andrew Viazzani, Admiral:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn Gwobr Arian fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn eleni.

Rydym yn cydnabod y gwerth y mae personél sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gynnig i’n busnes ac rydym yn falch o fod yn gyflogwr sy’n cefnogi cydweithwyr sydd â chysylltiadau â’r Lluoedd Arfog, gan eu galluogi i ddilyn rôl Wrth Gefn, i bontio allan o’r Lluoedd Arfog, neu weithio yn hyblyg tra bod eu priod neu bartner milwrol i ffwrdd.”

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:

“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn parhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ac rydym yn falch o fod wedi ennill statws Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym yn cydnabod, yn deall ac yn cefnogi’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu’n parhau i wneud hynny fel rhan o’r Lluoedd Wrth Gefn, eu teuluoedd neu’r rhai sy’n Wirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda Llu’r Cadetiaid, i gael eu trin â thegwch a pharch yn y gymuned, y gweithle ac mewn cymdeithas.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi gweithlu amrywiol; mae’n ein gwneud ni’n gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud gwell penderfyniadau a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun felly rydym ni’n meithrin tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol mewn cymdeithas.”

O dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Lluoedd Arfog, mae’r cyflogwyr yn cefnogi personél y Lluoedd Arfog ac yn annog eraill i wneud hynny hefyd. Mae tair lefel i’r cynllun, Efydd, Arian ac Aur, i sefydliadau sy’n ymrwymo, yn dangos ac yn galw am gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog a phersonél Amddiffyn.

I ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Hefyd, rhaid iddynt fynd ati i sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl ym maes Amddiffyn o safbwynt Lluoedd Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Meddai Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y Gogledd:

“Rwy’n falch iawn y gallwn gyhoeddi bod 24 yn deilwng o wobr Arian ERS yn 2021 yng Nghymru.  Mae’r cyflogwyr hyn yn ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed.”

2021 yw wythfed flwyddyn y cynllun gwobrwyo. I ddysgu mwy am ERS a sut y gallai eich sefydliad gefnogi personél Amddiffyn yn y gweithle trwy Gyfamod y Lluoedd Arfog cysylltwch â:

  • Tony Fish, y Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer y Gogledd, wa-reed2@rfca.mod.uk  Swyddfa’r Wyddgrug. Ffôn: 01352 752782 Ffôn symudol: 07508 193902.
  • Audrey Hamilton-Nealon, y Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer y De, wa-reed@rfca.mod.uk Swyddfa Caerdydd Ffôn: 02920 375 734 Ffôn symudol: 07970 493086.

Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a sut y gall eich busnes elwa ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ar gael yma.