Gwobrau CIPD Cymru 2021

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau mawreddog CIPD Cymru 2021.

Mae’r gwobrau blynyddol yn arddangos ac yn dathlu’r goreuon mewn arferion adnoddau dynol a datblygu pobl ledled Cymru.  Wedi’u dyfarnu gan y corff proffesiynol ar gyfer datblygu pobl, eu cefnogi a’u cymeradwyo gan restr drawiadol o noddwyr, a’u beirniadu gan banel o’r prif weithwyr proffesiynol mewn AD a busnes, mae ein henw da yn parhau i dyfu fel y lle i ddathlu cyfraniad AD a datblygu pobl ledled Cymru.

Mae tîm Datblygu Staff deinamig y Coleg, sydd bellach yn ymuno ag eraill yn y rownd derfynol o bob rhan o Gymru, ar y rhestr fer ar gyfer y Categori Menter Dysgu a Datblygu/Datblygu Sefydliadol. Mae’r categori hwn yn cydnabod tîm sydd wedi dangos cysylltiadau cryf rhwng cyflawni nodau busnes a gweithgarwch datblygu sefydliadol, a/neu strategaethau dysgu a datblygu i hybu sgiliau a gwella perfformiad.

Eu gwaith yn datblygu hyb adnoddau, gweithdai byw, diwrnodau DPP a chyflwyno Hyrwyddwyr Dysgu o Bell i gefnogi staff, gan deilwra popeth i anghenion unigol trwy gydol y pandemig, a gipiodd sylw’r beirniaid ac ennill lle iddynt yn y rownd derfynol.

Bydd y gwobrau rhithiol yn cael eu cynnal ddydd Iau 25 Tachwedd, gan alluogi mwy o bobl nag erioed i fod yn bresennol a dathlu’r goreuon mewn arferion adnoddau dynol a datblygu pobl ledled Cymru.

Roedd Eleanor Glew, Is-Bennaeth: Gwasanaethau Gweithredol ar gyfer Grŵp Colegau NPTC wrth ei bodd â’r cyhoeddiad: ”Gan fod fy ngyrfa bob amser wedi cynnwys adnoddau dynol a datblygu pobl, mae darganfod bod gwaith tîm datblygu staff y Coleg yn cael ei gydnabod ar lefel mor fawreddog yn wych.  Mae’n dyst nid yn unig i ddatblygiad staff, ond mae’r prosiect hwn wedi gweld cydweithredu ar draws y coleg gyda’r timau sgiliau TGD a digidol. Mae hyn yn tynnu sylw at sut mae’r Coleg wedi addasu ei ffordd o weithio trwy’r pandemig i ddarparu safon uchel o addysgu a chefnogaeth yn barhaus.

Pob Lwc !!