Darlithwyr Dan a Will yn mynd yr ail Filltir Werdd ar gyfer Grŵp Colegau NPTC

Mae gwaith caled ac ymroddiad wedi talu ar ei ganfed i ddau ddarlithydd o Grŵp Colegau NPTC sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Cyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Moduro y Sefydliad Diwydiant Moduro (IMI) – yn dathlu rhagoriaeth fodurol.

Mae’r darlithwyr Cerbydau Modur Dan Pritchard a William Davies o Goleg y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog ym Mhowys, wedi darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu arloesol trwy gydol y pandemig i gannoedd o fyfyrwyr a busnesau cerbydau modur yn y DU a thramor. Roedd yr hyfforddiant yn gofyn am ddull hyblyg o ddiwallu anghenion dysgu ar y safle ac ar-lein.

 nhw wedi ymrwymo i gyflawni’r safonau uchaf, datblygwyd ganddynt raglen rithwir newydd ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’. Gwnaethant hyn trwy ailddatblygu’r rhaglen hyfforddi Cerbydau Trydan (EV) bresennol. Wedi’i threfnu’n wreiddiol i fod yn rhaglen wyneb yn wyneb yn y wlad hon, fe’i haddaswyd yn gyflym i’r modd rhithwir yn addas ar gyfer y diwydiant ceir rhyngwladol. Gan ddefnyddio technolegau rhithwir, maent wedi hyfforddi a pharatoi cynrychiolwyr o India â’r sgiliau addysgol sydd eu hangen i ddatblygu Cerbydau Trydan (EVs) ac Addysgeg Addysgu Technegol. Mae pedair rhaglen ryngwladol ar-lein eisoes wedi’u darparu, gyda rhagor ar y gweill ar gyfer 2022.

Mae’r Coleg wedi cyflwyno cyrsiau Cynnal a Chadw a Diogelwch Cerbydau Trydan/Hybrid Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI), o ganlyniad i’r angen am fecanyddion moduro rhyngwladol a chrefftwyr cysylltiedig i ddod yn gymwys yn y diwydiant ac i helpu i baratoi ar gyfer symud oddi wrth betrol a diesel i drydan a hybrid.

Mae Gwobrau Sefydliad y Diwydiant Moduro 2022,yn dathlu goreuon y diwydiant modurol, ac yn arddangos yr unigolion a’r sefydliadau hynny sydd wedi mynd yr ail filltir ac wedi rhagori wrth gwrdd â heriau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r ‘Wobr Cyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Moduro’ yn cydnabod egni a brwdfrydedd y rhai sy’n ymroddedig i’r sector yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Dan Pritchard: ‘Mae hyn yn newyddion hollol wych. Rwy’n teimlo mor falch fy mod wedi cael fy enwebu am wneud fy swydd hyd eithaf fy ngallu tra’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i’r fasnach foduro a’r amgylchedd.  Rydym i gyd yn gweithio’n ddiflino i godi proffil yr adran ar draws pob campws a bydd hyn yn rhoi hwb i’n strategaeth i gynyddu myfyrwyr, ymgeiswyr masnachol a nifer y lleoliadau prentisiaeth ymhellach.’

Rhannodd William Davies ei ymateb i’r cyhoeddiad hefyd gan ddweud: ‘Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion am yr enwebiad. Mae’r diwydiant moduro yn mynd trwy drawsnewidiad sylweddol i dechnolegau carbon isel ac rydym yn awyddus i arddangos a hyfforddi technegwyr y dyfodol i wneud diagnosis, gwasanaethu ac atgyweirio’r systemau hyn. Rwy’n gyffrous i fod yn hyfforddi’r genhedlaeth gyntaf o dechnegwyr EV a gwybod ein bod yn cefnogi angen hyfforddi mawr yn y diwydiant moduro, ac mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ar yr un pryd yn newyddion gwych.’

Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey: ‘Rydym yn hynod falch o’r gwaith y mae ein hadran Cerbydau Modur wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi ein rhoi ar flaen y gad o ran darparu’r hyfforddiant diweddaraf mewn cerbydau trydan ac maent yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer un o’r newidiadau mwyaf a welwyd erioed gan y diwydiant Modurol mewn dros 50 mlynedd. Mae Dan a Will wedi gweithio’n ddiflino i yrru’r agenda EV yn ei blaen, gan helpu i gael offer, hyfforddiant ac adnoddau i wneud y coleg yn arweinydd mewn hyfforddiant EV. Da iawn i’r ddau ohonyn nhw a phob lwc.’

Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yng Nghinio IMI ddydd Iau 17eg Mawrth yn yr InterContinental, Park Lane.