Keira Bevan yn rhan o Hanes Rygbi Cymru

Mae cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Keira Bevan, wedi creu hanes yr wythnos hon drwy arwyddo cytundeb proffesiynol gydag Undeb Rygbi Cymru (URC). Mae Keira yn un o ddeuddeg o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru y maen nhw yw’r menywod cyntaf i gael cynnig cytundebau proffesiynol amser llawn yng Nghymru.

Mae’r mewnwr yn ymuno â chwaraewyr fel yr Olympiad Jasmine Joyce, capten Cymru Siwan Lillicrap a’i phartner o hanerwr Elinor Snowsill wrth droi’n broffesiynol. Dechreuodd y cytundebau deuddeg mis yr wythnos hon gyda’r chwaraewyr bellach wedi’u lleoli yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yng ngwesty’r Vale, gan rannu’r cyfleusterau gyda thîm y dynion.

Astudiodd Keira yn Academi Chwaraeon Llandarcy, gan gwblhau Prentisiaeth Hyfforddwr Personol Lefel 3, ac mae bellach yn Hyfforddwr Personol cwbl gymwys. Mae hi bellach yn 24 oed, ac roedd ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Eidal yn 2015. Mae wedi cynrychioli ei gwlad 38 o weithiau ers hynny. Mae’n chwarae rygbi clwb dros Bont Hafren gyda Bristol Bears, lle mae llond llaw o gyd-chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn ymuno â hi.

Dyma ddywedodd Keira wrth URC am y cyfle: “Mae cael un o’r cytundebau amser llawn cyntaf yn golygu cymaint. Mae’n golygu y gallwn geisio cyrraedd ein llawn botensial. Rwyf wedi bod yn gweithio tuag at y diwrnod hwn ers amser maith. Mae’n arbennig iawn i fod yn un o’r chwaraewyr amser llawn cyntaf, dw i eisiau parhau i wella bob dydd nawr.”

Dyma oedd gan bennaeth menywod Cymru, Ioan Cunningham, i’w ddweud am y broses ddethol a chynnwys Keira: “Mae wedi bod yn broses anodd ond pleserus. Rhaid canmol yr holl chwaraewyr sydd wedi rhoi cur pen i ni wrth ddethol. Rydyn ni i gyd nawr yn llawn cyffro i ddechrau’r rhaglen. Talent a gallu oedd yr elfen gyntaf yn ein proses ddethol ac yna twf posib y chwaraewr unigol ynghyd â’i hagwedd.”

“Roedden ni eisiau cynnwys dwy fewnwr amser llawn yn y grŵp, ac rydyn ni’n teimlo y bydd Keira Bevan a Ffion Lewis yn ategu ac yn herio’i gilydd o fewn yr amgylchedd. Mae Keira yn graff iawn, mae Ffion yn adnabod cyfleoedd rhedeg ac rydym am ddatblygu’r ddwy i fod yn ddwy o fewnwyr gorau’r byd.”

I gael gwybod rhagor am y chwaraewyr proffesiynol amser llawn dan gontract, cliciwch ar y ddolen i wefan URC

Undeb Rygbi Cymru

I gael gwybod rhagor am yr ystod o gyrsiau Chwaraeon yng Ngrŵp Colegau NPTC, cliciwch yma

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus