Elin Protheroe Dysgwr y Flwyddyn gan Lantra 2021

Mae myfyriwr o Goleg y Drenewydd, Elin Protheroe, wedi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn gan Lantra 2021. Mae’r wobr o fri hon yn cael ei rhoi i fyfyrwyr o dan 20 oed sy’n datblygu gyrfa o fewn i’r diwydiannau amgylcheddol a seiliedig-ar-dir sydd wedi dangos ymrwymiad i addysgu galwedigaethol a hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol.  Mae Elin yn ail flwyddyn ei chwrs HND mewn Amaethyddiaeth y mae hi wrthi’n ei gyflawni yn Fferm Fronlas, Coleg y Drenewydd.

Cafodd Elin, sy’n dod o Feulah ei hannog ers yn ifanc iawn i gymryd rhan ym mhob math o weithgareddau ffermio. Yn y lle cyntaf, fel merch ifanc, roedd hi’n arfer gwylio’n gysurus wedi’i lapio mewn blanced wlân, wrth i’r defaid gael eu cneifio, nes iddi gael ei symud ymlaen i farcio a thagio defaid wrth iddu dyfu.  Erbyn hyn, y mae ei rolau yn cwmpasu bwydo gwartheg a defaid, tasgau cyffredinol a’r holl ddogfennau a ffurflenni sy’n rhan o ffermio modern.  Mae Elin yn hoff iawn o ddod â bywyd newydd i mewn i’r byd gan ofalu am yr anifeiliaid hyn nes iddynt adael y fferm.

Cafodd Elin ei dethol ar gyfer yr Academi Amaeth Farming Connect ychydig o flynyddoedd yn ôl, cyfle y bydd hi bob amser yn ei werthfawrogi ac yn uchafbwynt penodol o’i gyrfa amaethyddol hyd yn hyn. Dros y blynyddoedd nesaf ar ôl raddio o Goleg y Drenewydd, mae Elin yn gobeithio teithio ar draws y byd i brofi profiadau newydd wrth weithio yn Awstralia a Seland Newydd cyn dychwelyd at y fferm deuluol yn y Canolbarth.

Enwebwyd Elin ar gyfer y wobr gan Katherine Jones, darlithydd mewn Amaethyddiaeth a dywedodd: ” Mae Elin wedi dangos ymrwymiad ardderchog i’w chwrs er gwaethaf yr holl heriau yr ydym i gyd wedi eu hwynebu dros y deunaw mis diwethaf.  Mae hi’n rhan annatod o’i fferm deuluol ac yn ysgrifenyddes o’i grŵp YFC lleol.  Yn y coleg, mae hi’n yn cyfrannu’n llwyr ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau yn y dosbarth trwy holi cwestiynau diddorol a chyflwyno damcaniaethau.”

I gael rhagor o fanylion am ein cyrsiau Amaethyddiaeth cliciwch isod:

Amaethyddiaeth