Diwrnod Llesiant a Therapïau Amgen yng Ngholeg Afan

Yn ddiweddar cynhaliwyd Diwrnod Llesiant a Therapïau Amgen yng Ngholeg Afan. Bu myfyrwyr o raglenni Addysg Uwch yn ymwneud â llesiant yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a sesiynau blasu trwy gydol y dydd.

Cyflwynwyd y gweithgareddau a’r sgyrsiau gan ymarferwyr lleol sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o wahanol therapïau gan gynnwys Aciwbigo, Meddygaeth Tsieineaidd, a Therapi Anifeiliaid Anwes. Cafodd myfyrwyr hefyd ddysgu am therapïau llai adnabyddus fel Reiki, Bydwreigiaeth yr Enaid ac ymarferion Delweddu Crisial.

Dywedodd y Darlithydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Claire Rees, a drefnodd y digwyddiad: “Mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu am wahanol fathau o therapïau gan ymarferwyr profiadol i’w helpu i ehangu eu dealltwriaeth a datblygu eu sgiliau. Roedd y diwrnod yn caniatáu i’r myfyrwyr weld sut mae dulliau yr oeddent wedi’u dysgu yn y coleg yn cael eu gweithredu mewn sefyllfaoedd ymarferol. Rhoddodd y wybodaeth a gafwyd yn ystod y dydd wybodaeth bellach i fyfyrwyr am eu rhaglen. Roedd hefyd yn cefnogi’r ethos sy’n ymwneud â gofal cyfannol a’r angen am hunanofal wrth weithio fel rhan o’r diwydiannau Iechyd, Cymdeithasol a Gofal.”

Mae’r adborth a dderbyniwyd gan y myfyrwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol a theimlent fod y diwrnod wedi bod o fudd iddynt ac wedi’u helpu i ehangu eu dealltwriaeth o therapïau amgen, nid yn unig yn academaidd ond hefyd o ran eu llesiant personol eu hunain. Roedd myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’u hysgogi i ddysgu mwy am y therapïau hyn a sut y gallant helpu gyda hunanofal a llesiant.

Roedd gan Dee Williams, sy’n astudio yng Ngholeg Afan, hyn i’w ddweud am y profiad dysgu: “Roedd yn ddiwrnod gwych ac fe ddysgais i gymaint. Mae gen i ddiddordeb mawr ym mhob un o’r pynciau, ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y wybodaeth a ddysgais yn ystod y dydd.”

Mae Claire Rees yn gobeithio trefnu rhagor o ddigwyddiadau fel hwn i helpu myfyrwyr i ehangu eu dealltwriaeth a’u profiadau mewn lleoliad ymarferol.