Mae Saith Myfyriwr Grŵp Colegau NPTC Yn Aelodau o Dîm Ieuenctid Sydd Heb Golli Gêm

Mae saith o chwaraewyr o Glwb Pêl-droed Rygbi Llanfair-ym-muallt yn rhan o’r tîm o’r enw Young Bulls sydd wedi ennill ei le yn rownd derfynol Cwpan Ieuenctid Cymru, wrth ennill yn erbyn Penarth 17 – 11 ar 26 Mawrth ym Mharc de Pugh, Aberhonddu.

Mae pob un o’r saith myfyriwr yn dod o’r Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig a’r Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu Grŵp Colegau NPTC – mae pedwar ohonynt yn astudio yng Nghampws Bannau Brycheiniog sef Morgan Price, Daniel Mcgoughlin, Rhys Davies a’r Capten Ryan Hughes.  Ac mae’r tri arall wedi’u lleoli yn Y Drenewydd sef Dylan Jones, Rowan Coyle ac Oakley Middleton.

Cynhelir y rownd derfynol yn y Stadiwm Principality, gyda lle i 74,500, ar 23 Ebrill 2022 yn erbyn Bridgend Ravens.

Roedd Young Bulls yn ennill am y rhan fwyaf o’r gêm yn Aberhonddu, ond enillodd Penarth y blaen gyda chic gosb a oedd yn arwain at sgôr o 11-10. Sut bynnag, gyda 70 munud wedi mynd heibio ac wedyn amser ychwanegol yn cael ei chwarae, ildiodd amddiffynwyr blinedig Penarth gyda symudiad gan y canolwr Williams tuag at y cornel i ennill – llwyddodd Rhys Davies’ i gicio’r trosiad, gan roi sioc i’r gwrthwynebwyr wrth iddynt sylweddoli beth fydd eu tynged.

Bydd y frwydr yn y brifddinas yn gweld y Bulls yn rhuthro ymlaen- heb golli o gwbl yn y 17 o gemau y maent wedi eu chwarae ym mhob cystadleuaeth yn ystod 2021/22.

“Rydyn ni i gyd yn un tîm mawr ar y cae ac oddi arno ac am fod llawer ohonon ni yn astudio gwahanol gyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd mae hyn wedi helpu gyda’r rhwymyn hwnnw.  Mae’n neis bod fy nhiwtor Richard Jones a’r holl staff eraill yn adran Adeiladwaith Coleg Bannau Brycheiniog yn edrych ymlaen yn frwd at gemau’r Cwpan ac mae’r ffordd y maent yn ein hannog yn golygu cymaint i ni,” dywedodd y Capten Ryan Hughes.

Yn ôl yn y Coleg, rhannodd Oakley Middleton ei gyffro wrth ddweud: ‘Dwi mor falch o’r holl dîm ac mae’n ffantastig ein bod ni wedi mynd mor bell, dwi wedi bod wrth fy modd ers y gêm a dwi wir yn edrych ymlaen at y rownd derfynol ar 23 Ebrill. Mae fy nhiwtor Steve Palmer a’r holl fechgyn ar fy nghwrs plymio hefyd wedi bod yn dilyn ein cynnydd sydd hefyd yn rhoi hwb i fi.’