Mae Coleg Y Drenewydd ar flaen y gad o ran hyfforddiant Cerbydau Trydan a boddhad cwsmeriaid

Mae Grŵp Colegau NPTC ar flaen y gad o ran hyfforddiant Cerbydau Trydan (EV).  Gan gynnig cyrsiau sy’n bodloni anghenion hyfforddi mecaneg drydanol gyfoes, gall Coleg Y Drenewydd rhoi hwb i’w lwyddiant ar ôl bod y cyntaf yng Nghymru ac un o’r cyntaf (os nad yr un cyntaf) yn y DU i gael gafael ar gyfarpar hyfforddi trydan a hybrid yn ôl yn 2019.  Darparir cyrsiau cynnal a chadw ac atgyweirio Cerbydau Trydanol, lleol a rhyngwladol, a hynny er 2020.

Mae’r cyrsiau yn cynnwys Dyfarniad IMI Lefel 2 mewn Atgyweirio Cerbydau Trydan/Hybrid a Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Amnewid Cerbydau Trydan/Hybrid gyda Lefel 4 ar y gweill. Mae’r Coleg hefyd yn darparu cwrs mewn Gosod Mannau Gwefru Domestig, Masnachol a Diwydiannol.

Dywedodd y darlithydd Dan Prichard: “Mae’r ffordd y mae’r byd cerbydau modur yn newid yn syfrdanol ac mae’n hynod o bwysig ein bod yn bodloni anghenion y diwydiant mecaneg sydd amdani yn ogystal ag anghenion ein myfyrwyr heddiw a fydd mecanyddion yfory.”

Mae Uned Datblygu Busnes Grŵp Colegau NPTC yn cydweithio â busnesau a sefydliadau lleol gan hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi fel yr Hyfforddiant Cerbydau Trydan a Hybrid, gan helpu i gefnogi eu hanghenion hyfforddi.

“Mae’n wych i ni allu gwireddu syniadau cyflogwyr, i’w cefnogi gyda’u hanghenion datblygu a sgiliau a darparu’r cyfleoedd hyn a ariennir yn llwyr trwy gyfrwng Cyfrifon Dysgu Personol (PLA’s) ynghyd ag opsiynau cyllido eraill ar draws y Canolbarth,” dywedodd Karen Harris-Vernon Cynghorydd Ymgysylltu â Busnesau’r Canolbarth.

Mae busnesau ym Mhowys wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cymorth a dderbyniwyd ganddynt gan Uned Datblygu Busnes y Coleg a’r hyfforddiant EV.

“Diolch i chi Karen, am drefnu’r hyfforddiant Lefel 2 i fi a fy nghydweithiwr dros yr wythnosau diwethaf.  Roedden ni wrth ein bodd gan ddysgu llawer am gerbydau trydan. Fe wnaeth Dan yn wych wrth gyflwyno’r cwrs hwn, felly a wnewch chi ddweud diolch iddo fe hefyd.  Mae’r ddau ohonon ni yn awyddus i fynd ar y cwrs Lefel 3 nesaf.  Diolch am eich holl gymorth.
Chris Yorke, Richard Yorke Ltd

Ar ôl cyflawni’r cwrs Lefel 2, dywedodd myfyriwr dan hyfforddiant arall.

“Roedd y cwrs yn hynod o ddefnyddiol ac roedd y cyfleusterau a’r tiwtor yn ardderchog yn fy marn i.  Dwi’n edrych ymlaen at wneud Lefel 3 nesa.” Phil Griffiths, Wynnstay Group Ltd.

“Mae’n wych cael y cwrs ardderchog hwn reit wrth law ac mae dull Dan o’i ddarparu yn llawn cymhelliant.”  Richard Morgan, Electric Classic Cars.

I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau sydd ar gael gennym neu er mwyn erfyn cymorth gan ein Huned Datblygu Busnes, cliciwch ar y linc isod.

Busnesau a Chyflogwyr