Mae Nigel Owens yn Siarad yng Ngholeg Bannau Brycheiniog am Iechyd Meddwl

“Mae cael mwy a mwy o sgyrsiau am iechyd meddwl yn beth braf”

Siaradodd Nigel Owens sef dyfarnwr rygbi rhyngwladol a seren y byd teledu, yn blwmp ac yn blaen o flaen cynulleidfa yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu am ei broblemau gyda dibyniaeth a’i iechyd meddwl a sut roedd y pethau hyn oll yn rhan o’i stori dod allan.

Wrth siarad mewn Cynhadledd Iechyd Meddwl ar gyfer Grŵp Colegau NPTC, siaradodd Owens, sy’n dal y record am ddyfarnu yn y nifer fwyaf o gemau proffesiynol erioed, yn agored gan nodi “her fwyaf fy mywyd oedd derbyn pwy oeddwn i.”

Gan dynnu ar ei brofiadau ei hun, roedd thema gyson trwy gydol ei gyflwyniad sef angen cymunedau cefnogol i sicrhau llesiant pobl ifanc – dywedodd Owens fod rhai agweddau ar ei blentyndod yn “hen ffasiwn,” rhywbeth a oedd wedi achosi problemau wrth dderbyn ei fod yn ddyn hoyw. Roedd hyn yn cwmpasu’r syniad bod eich amgylchedd, gan gynnwys eich sgyrsiau gyda phobl sy’n agos atoch, yn cael effaith enfawr ar eich hunanhyder.

Esboniodd Owens: “Roedd dyfarnu yng Nghwpan Y Byd Rygbi yn Twickenham yn enfawr gyda miliynau o bobl yn gwylio ac yn cwestiynu a oeddwn i’n gwneud y penderfyniadau iawn. Ond roedd hyn yn ddim byd o gwbl wrth gymharu â’r her o dderbyn fy hunan.  Yr hyn sy’n creu’r broses hon o dderbyn yw awyrgylch lle ‘rydyn ni’n teimlo bod modd i ni fod yn naturiol.”

Roedd Owens yn brwydro am flynyddoedd heb gael y fath amgylchedd a dioddefodd gyfnodau o salwch meddwl a dibyniaeth a achoswyd i raddau gan ei bryderon a’r cyfrinachedd mewn perthynas â’i rhywedd.  Roedd hyn yn cynnwys bwlimia, dibyniaeth ar steroidau a chais i ladd ei hunan yn 26 oed.

Ar un adeg, roedd cadw ei rhywedd yn gyfrinach hefyd yn effeithio’n sylweddol ar ei awydd i ddyfarnu, gan olygu bod yr yrfa yr oedd yn ei charu mewn perygl. Gan gredu ‘na ddylai fod yn gorfod poeni am hyn bellach’, daeth allan fel dyn hoyw yn 2007 yn ystod y misoedd cyn gêm bwysig rhwng Yr Ariannin a Samoa – gêm a fyddai’n rhoi ei yrfa yn y fantol.  Ar ôl cael cefnogaeth ei mam ac wedyn ei dad ac wedyn Undeb Rygbi Cymru, aeth i Buenos Aires ‘yn berson gwahanol’ gan achub ei gyrfa fel dyfarnwr rhyngwladol o ganlyniad.

Gyda chefnogaeth yr Undeb, daeth y blynyddoedd o ofni “Beth fydd yn digwydd os ydynt yn ffeindio allan? A fyddaf i’n colli fy swydd?” at eu pen, gan neud i rygbi “y gêm fwyaf croesawgar” gan ddarparu’r awyrgylch cadarnhaol yr oedd ei angen arno er mwyn iddo deimlo’n gysurus. Ychwanegodd “Oni bai am y gêm, neu’n bwysicach oll y bobl sy’n rhan ohoni, ni fyddwn i’r person fy mod i heddiw.”

Wrth i’r gynulleidfa ofyn iddo am ei gyngor gorau o ran rheoli iechyd meddwl eich cydweithwyr neu bobl yr ydych yn eu hadnabod, atebodd “Gwnewch yn siŵr bod pobl sydd ddim yn hwylus yn gwybod bod eich drws wastad ar agor iddyn nhw gwrdd â chi.  Os mae rhywun fel arfer yn llawn hwyl a sbri ond yn mynd yn dawel o dipyn i beth, mae rhywbeth yn bod mwy na thebyg.  Ond os ydych chi’n gofyn os ydyn nhw’n oce, bydden nhw bob amser yn dweud ‘ydw’.

“Peidiwch â bothran a dweud “Mae rhywbeth yn bod yn bendant” neu bydd y drysau yn cau i lawr. Ond gadewch i’r bobl hyn wybod eich bod chi yno os oes angen unrhyw beth arnyn nhw ac wedyn bydden nhw’n teimlo’n gysurus yn dod atoch chi.”

“[Mae siarad yn agored am iechyd meddwl] yn dal yn rhywbeth newydd. Mwy o sgyrsiau, mwy o gyfle i rannu ac rydyn ni’n teimlo’n well o’i herwydd.”

Wrth sôn am y cyflwyniad ysbrydoledig, dywedodd Rheolwr Adnoddau Dynol Grŵp Colegau NPTC, Stephanie Rees:

“Mae wedi bod yn bleser mawr croesawu Nigel yn ein Cynhadledd Iechyd Meddwl gyntaf erioed yng Ngrŵp Colegau NPTC.  Fe aeth hi fel y bedd wrth wrando ar ei stori mor emosiynol.  Mae ein tîm o Gynorthwywyr Cymorth Cyntaf wedi cael eu hysbrydoli wrth glywed am y cyfnodau da a drwg a sut daeth Nigel drwy’r cyfnodau anodd.  Bydd treulio amser wrth wrando ar anawsterau pobl eraill a’r diweddglo da yn bendant o gymorth i’r Cynorthwywyr Cymorth Cyntaf wrth iddynt gyflawni’r rôl bwysig hon o fewn i’r Coleg.”