Myfyriwr Mewn Trin Gwallt Libby yn Cael ei Rhoi yn y Lle Cyntaf yn Rowndiau Cymhwysol Cenedlaethol World Skills

Aeth pedwar o fyfyrwyr trin gwallt o Goleg Y Drenewydd ymlaen at Gam 2 o Rowndiau Cymhwysol Cenedlaethol World Skills yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam.

Bydd rhaid i’r myfyrwyr aros tan fis Medi cyn darganfod a ydych wedi bod yn llwyddiannus ac wedi sgorio ddigon o bwyntiau i gamu ymlaen i’r rownd derfynol yn Belfast ym mis Tachwedd.

Roedd 30 o gystadleuwyr ar y diwrnod a gwnaethpwyd dau brawf gan bob myfyriwr:  Steilio Gwallt Hir Menywod – Steil Gwallt i Lawr, Steil Masnachol gyda Thonnau a Symudiad (1 awr) a Thorri, Lliwio a Steilio Gwallt Menywod mewn Dull Masnachol (3 awr).

Ar ôl i’r broses farnu gael ei chwblhau, arhosodd y myfyrwyr yn y theatr lle y rhoddwyd y canlyniadau iddynt.

Dywedodd y darlithydd trin gwallt Hannah Pritchard: “Roeddwn i wrth fy modd i glywed bod Libby Cadman sef myfyriwr Y Drenewydd wedi cael ei rhoi yn y lle cyntaf ar y diwrnod.  Mae Libby wrthi’n astudio Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt i Fenywod Dysgu Carlam.  Dwi mor falch o’r holl waith a gafodd ei greu gan ein myfyrwyr ar y diwrnod.  Dyma eu cystadleuaeth fyw gyntaf a gwnaeth pawb yn hynod o dda gan gynrychioli’r coleg i’r dim.”

Ychwanegodd Hannah: “Mae Libby yn fyfyriwr dymunol a gweithgar ac fe wnaeth hyn oll heb drafferth, gan weithio’n hyderus ac yn dangos sgiliau ardderchog trwy gyfuno’r ryseitiau Lee Stafford yn ei gwaith. Da iawn Libby dwi’n hynod o falch ohonot ti a phopeth dy fod ti wedi ei gyflawni.”