Car Trydan ar ei ffordd i Goleg Bannau Brycheiniog

Bydd olion cerbyd trydan newydd sbon yn cychwyn ar y daith i Goleg Bannau Brycheiniog cyn bo hir. Mae’r Coleg (rhan o Grŵp Colegau NPTC) newydd brynu  Peugeot e208 newydd (llun ar y chwith) i’w ddefnyddio ar gyfer sesiynau hyfforddi mewn Atgyweirio Cerbydau Trydan sydd ar y gweill.

Gyda chynlluniau i gychwyn ar hyfforddiant yn ystod tymor yr Hydref 2022, mae’r Ysgol Peirianneg Fodurol yn ehangu ei darpariaeth o’r dyfarniadau Lefel 1-3 mewn Atgyweirio Cerbydau Trydan a ddysgir ar hyn o bryd yng Ngholeg Y Drenewydd. Wrth gynnig y cyrsiau i garejis a myfyrwyr yn Aberhonddu a’r fro, gobeithio y gall atebion gwyrdd ecogyfeillgar a chynaliadwy fod o les i’r gymuned gan foderneiddio’r cyrsiau o fri tra adnabyddus mewn Cerbydau Modur y mae’r Coleg eisoes yn eu cynnal.

Prynodd y car blwyddyn 22 e208, sydd yn mynd i gyrraedd y Coleg dros fisoedd yr haf, o Antony Motors yn Aberystwyth. Aeth y tiwtor mewn Peirianneg Fodurol, Daniel Pritchard (chwith), ar y daith i brynu’r car a dywedodd:

“Mae’n deimlad da nawr bod gyda ni Car Trydan i’w ddefnyddio yn ein cyrsiau ym Mannau Brycheiniog.  Byddwn ni’n gosod hyn oll yn ogystal â rig i Gerbydau Trydan yng Ngholeg Bannau Brycheiniog dros y misoedd nesaf. Hoffwn ddweud diolch yn fawr i fy nghyd-weithiwr, William Davies, a fydd yn dysgu gyda’r rheiny yn Aberhonddu cyn bo hir a’r Rheolwr Gwerthiant Kevin Payne yn Antony Motors, sydd wedi chwarae rhan annatod yn y broses o archebu ein Peugeot e208s ym Mannau Brycheiniog a’r Drenewydd dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Mae’r cyrsiau mewn Cerbydau Trydan yn para am wythnos yn unig ac maent yn cael eu darparu trwy Uned Datblygu Busnes y Coleg (BDU). Darparir hyfforddiant gan yr Uned ar gyfer busnesau, yn ogystal ag unigolion sydd am uwchsgilio a gall y cwrs gael ei ariannu’n llwyr i chi trwy gynllun Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru os ydych yn 19 oed neu drosodd, yn byw yng Nghymru ac yn ennill llai na £30,000 yn y gwaith.

Pwysleisiodd Maya John, Cynghorydd Ymgysylltu â Busnesau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog: “Mae’r cyrsiau newydd mewn Cerbydau Trydan yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn gyfle i uwchsgilio gweithwyr i raddau helaeth yn y Diwydiant Modurol yn y Canolbarth a thu hwnt.  Bydd cynnal sesiynau hyfforddi byr a hygyrch yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn rhoi hwb i wybodaeth y garejis lleol ynglŷn â thechnolegau cerbydau trydan newydd a gwyrdd gan eu helpu i ymbaratoi ar gyfer y dyfodol.”

Capsiwn Llun: Mae tiwtor Peirianneg Fodurol, Daniel Pritchard (chwith), yn casglu’r allweddi ar gyfer EV newydd Coleg Bannau Brycheiniog gan Kevin Payne, Antony Motors (de).