Mae cystadleuwyr o gymru yn dathlu eu llwyddiant wrth i 130 ohonynt ennill lle i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol Worldskills y DU

Mae myfyrwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC yn deffro heddiw fel terfynwyr yng Nghystadleuaeth Sgiliau fwyaf y DU – Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills UK.

Hyd yn hyn mae naw o’n myfyrwyr yn rhan o’r 130 o derfynwyr o Gymru gyda’r canlyniadau yn dal i gyrraedd.

Dyma’r terfynwyr o Grŵp Colegau NPTC:

Ymarferydd Therapi Harddwch Ariyarnna Tidbury Coleg Y Drenewydd
Adeiladwaith Sammy Young Coleg Castell-nedd
Her Tîm Gweithgynhyrchu Lien Parry Coleg Castell-nedd
Her Tîm Gweithgynhyrchu Levi Harris Coleg Castell-nedd
Her Tîm Gweithgynhyrchu Kane Chadwick Coleg Castell-nedd
Peintio ac Addurno Paul Mason Coleg Castell-nedd
Plastro Jack Holmes Canolfan Adeiladwaith Abertawe
Plastro Jonathan Donaldson Canolfan Adeiladwaith Abertawe
Weldio Morgan Eley Coleg Castell-nedd

Mae Cymru yn dal ar y brig gyda’r nifer fwyaf o gystadleuwyr wrth gymharu â phob ardal arall yn y DU ac hynny ers 2015. Eleni, mae un allan o bob pedwar o’r terfynwyr yn dod o Gymru a chyda dau gategori heb ei gyhoeddi eto, mae’n debygol y bydd y nifer ohonynt yn cynyddu.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol a gynhaliwyd dros Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan groesawu llu o bobl ifanc talentog.

Mae WorldSkills yn cefnogi pobl ifanc ar draws y byd i gymryd rhan mewn hyfforddiant cystadlu, asesu a meincnodi, gyda’r cystadleuwyr o dimau cenedlaethol yn profi eu gallu i gyflawni safonau dosbarth cyntaf mewn cystadleuaeth ar ddull Olympaidd.

Mae dros 5,000 o bobl ifanc wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cystadlaethau WorldSkills eleni ac wedi bod yn cystadlu ers mis Ebrill, gyda chystadleuwyr yn dangos eu sgiliau i safon uchel trwy’r Rowndiau Cymhwysol Cenedlaethol.

Mae’r cystadlaethau yn herio cystadleuwyr i gael eu henwi fel y gorau mewn pum sector amrywiol gan gynnwys Adeiladwaith a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Dull o Fyw, TG a Menter a’r Cyfryngau a Disgyblaethau Creadigol.

Cynhelir Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ar draws chwe lleoliad yn y DU sef, Coleg Barking a Dagenham, Coleg Metropolitanaidd Belfast, Coleg Blackpool & The Fylde, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Caeredin, a Choleg Middlesbrough.

Dywedodd Edward Jones, Llysgennad Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Unwaith eto, rydyn ni wrth ein bodd gyda champau ein myfyrwyr. Mae wedi bod yn brofiad ffantastig iddyn nhw ac yn gyfle i ddangos eu sgiliau a chystadlu ac mae’n braf ail-ddechrau’r gystadleuaeth ar ôl y pandemig. Mae’r myfyrwyr hyn wedi llwyddo i fynd trwyddo i’r rowndiau terfynol rhanbarthol i gyrraedd brig y gystadleuaeth a bydd hyn yn eu helpu yn y dyfodol. Yn ogystal ag edrych yn dda ar eu CVs wrth ymgeisio am swyddi, mae hefyd yn dangos bod ganddyn nhw lu o sgiliau a doniau a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu llwybrau gyrfa o ddewis.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein cenedlaethau yn y dyfodol. Wrth roi cyfleoedd i’n pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau newydd, rydyn ni’n rhoi’r arfau iddyn nhw i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol. Bydd hyn yn eu cefnogi i fod yn llaw yn llaw gyda’n busnesau yng Nghymru gan eu helpu i arloesi a thyfu.

“Mae cystadlaethau WorldSkills yn dod â rhai o’r bobl fwyaf creadigol, medrus ac ysbrydoledig yng Nghymru at ei gilydd gan helpu i godi ymwybyddiaeth o rym sgiliau i drawsnewid bywydau, economïau a’r gymdeithas. Felly, dwi wrth fy modd bod 130 o derfynwyr o Gymru wedi mynd trwyddo i’r rownd derfynol. Pob lwc i bob un o’r cystadleuwyr yn y gystadleuaeth bwysig hon ac ar gyfer eu dyfodol.”

Dywedodd Dirprwy Prif Weithredwr WorldSkills UK Ben Blackledge: “Hoffwn i ddweud llongyfarchiadau wrth bawb sydd wedi cofrestru am ein cystadlaethau eleni, yn arbennig y rheiny sydd yn camu ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol ym mis Tachwedd.

“Mae ein cystadlaethau a’n rhaglenni datblygu sy’n seiliedig ar gystadlaethau yn rhoi’r sgiliau o’r dosbarth cyntaf i brentisiaid a myfyrwyr a fydd yn para gydol oes ac yn helpu i gynyddu cynhyrchiant ac ysbryd cystadlu yn y DU”

Wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda rhwydwaith o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, wedi’u neilltuo ar y llyw, mae WorldSkills UK yn anelu at ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol trwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc ar yr un pryd â dathlu eu cyflawniadau.

Mae cystadlaethau yn dechrau ar lefel ranbarthol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru a arweinir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau a chyfle wedyn i gamu ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Am fwy o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i gychwyn ar eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i https://inspiringskills.gov.wales