Partneriaethau newydd ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach wrth i’r colegau a Phrifysgol Cymru ddod at ei gilydd i arwyddo Cytundeb cydweithredu

Mae’r broses o ffurfio rhwydwaith o Sefydliadau Prifysgol Technegol, sy’n dod ag addysg uwch ac addysg bellach ynghyd, wedi cymryd cam yn nes at ddod yn realiti wrth i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a cholegau Addysg Bellach blaenllaw ddod i bartneriaeth newydd. Bydd y Sefydliadau Prifysgol Technegol yn cyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol a bydd yn cael ei llywio gan anghenion cyflogwyr.

Bydd y sefydliadau yn rhan o strwythur prifysgolion cydffederal newydd a wnaethpwyd yn bosibl trwy Siarter Frenhinol Prifysgol Cymru a bydd yn cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, grŵp prifysgol sector deuol Cymru sy’n cwmpasu Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Yn ymuno â’r brifysgol gydffederal mae Grŵp CAVC, Grŵp Colegau NPTC, a Choleg Sir Benfro a bydd pob un yn parhau i fod yn sefydliadau addysg bellach annibynnol.

Cafodd y cynlluniau i greu’r rhwydwaith eu hamlinellu gan yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn seremoni raddio ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl. Yn dilyn y seremoni, dywedodd yr Athro Hughes:

“Mae’r cytundeb hwn yn garreg filltir yn nhaith addysg uwch ac addysg bellach wrth i’r prifysgolion a’r colegau ymateb gyda’i gilydd i fesur Llywodraeth Cymru i greu un sector addysg ôl-orfodol i Gymru.”

Yn dilyn llofnodi’r cytundeb cydweithredu yn ffurfiol, bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nawr yn partneru â’r colegau i ddatblygu dull newydd o ddylunio, darparu a sicrhau ansawdd cymwysterau technegol lefel uwch.

Dywedodd Mark Dacey Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC:

“Bydd y bartneriaeth yn sicrhau ein bod ni yn bartneriaid effeithiol a gweithredol o fewn Prifysgol Cymru ac yn eistedd ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae gwaith eisoes ar y gweill i gydgynllunio a chyd-guradu’r ystod newydd o gymwysterau technegol a galwedigaethol. Bydd hyn yn darparu parch cydradd gwirioneddol a chyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gyrfaoedd tra’n cefnogi cyflogwyr lleol.”