Graddau Gwych i Fyrwyr Chwaraeon Coleg y Drenewydd

Mae Coleg y Drenewydd yn dathlu canlyniadau rhagorol ar ôl i fyfyrwyr orffen gyda’r graddau uchaf yn eu hastudiaethau galwedigaethol.

Derbyniodd y myfyrwyr chwaraeon Laura Shinton a Jennifer Jarvie y radd uchaf y gellir ei chyflawni,sef D* driphlyg mewn BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae’r canlyniad yn gyfwerth â 3 chymhwyster A* ac yn golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau UCAS.

Dywedodd Laura, nofwraig ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am 50 metr dull broga yn y gemau cenedlaethol a’r 15 uchaf am 100 metr dull broga yng Nghymru: “Rwyf mor falch iawn gyda fy nghanlyniadau sy’n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Gwyddor Iechyd, Maeth ac Ymarfer Corff.”

Dywedodd y darlithydd chwaraeon Amy Watkins: “Mae Laura wedi dangos ymroddiad mawr trwy gydol ei hastudiaethau ac mae ganddi agwedd gyffredinol dda tuag at chwaraeon, astudio a gweithio gydag eraill a’u cefnogi. Mae ganddi’r holl botensial ar gyfer gyrfa wych o’i blaen.”

Mae gan Jennifer Jarvie angerdd am chwaraeon ac mae’n defnyddio ei phrofiad hyfforddi fel tystiolaeth i gyflawni rhagoriaeth ym mhob agwedd ar ei gwaith.  Mae Jennifer yn aelod o Glwb Pêl-droed Merched TNS sy’n cystadlu yn Uwch Gynghrair Adran Cymru. Mae hi hefyd yn hyfforddwyr gwirfoddol yng Nghlwb Pêl-droed Aberriw a CPD merched dan 14 Y Drenewydd. Mae Jennifer wedi ei derbyn i Brifysgol Birmingham i astudio BSc Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Gwyddor Hyfforddi.

Dywedodd Amy, y darlithydd chwaraeon: “Mae Jen yn llysgennad gwych ac yn arweinydd naturiol. Mae’n llawn cymhelliant ac mae ganddi ddyfodol gwych o’i blaen yn y diwydiant chwaraeon. Rydyn ni i gyd yn dymuno pob lwc i Jen a’n holl fyfyrwyr yn y dyfodol.”

Os hoffech chi ddarganfod mwy am gyrsiau chwaraeon yng Ngrŵp Colegau NPTC ewch i’n tudalen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus