Dosbarth 2022 yn Dathlu yn dilyn Canlyniadau Campus

Wedi hir aros, mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau arbennig yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.

Dosbarth 2022 yw’r cyntaf i sefyll arholiadau ers y pandemig, ac er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi dangos gwytnwch anhygoel i gyflawni cyfradd lwyddo gyffredinol o bron i 99 y cant.  Roedd nifer y graddau A* – B yn uwch na rhai 2019 pan safodd myfyrwyr arholiadau ddiwethaf, gyda bron i 60 y cant o fyfyrwyr yn cyflawni’r graddau hynny. Llwyddodd bron i draean y myfyrwyr (32.2 y cant) i ennill graddau A*- A, a chafodd 83 y cant raddau A* – C. I’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE) mae rhagor o newyddion da, gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A* – A a 100 y cant yn derbyn graddau A* – B.

 

Cafwyd llwyddiant mawr hefyd gan y myfyrwyr oedd yn sefyll eu Tystysgrifau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 63 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth driphlyg, a 25 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl sef rhagoriaeth serennog driphlyg (D*D*D*) sy’n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.

At hynny, cyflawnodd 292 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 99.6 y cant, gyda 65 y cant yn cyflawni graddau A* i C.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau neu wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol. Mae’n bwysig nodi na fu eleni yn debyg i unrhyw flwyddyn arall. Mae staff wedi gwneud llawer iawn o waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i’r ystafell ddosbarth a’u paratoi ar gyfer arholiadau mewn amgylchiadau anodd iawn. Dywedodd Catherine Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro a Phennaeth Dros Dro Grŵp Colegau NPTC:

“Mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol. Mae rhagori ar raddau A* – B 2019 (cyn-COVID) yn gyflawniad eithriadol. Rwy’n falch iawn o’n myfyrwyr a’n staff addysgu a chymorth am y gwaith caled iawn sydd wedi tanategu’r cannoedd o lwyddiannau sydd y tu ôl i’r ffigurau.”

Dywedodd yr AS Jeremy Miles, y Gweinidog sy’n gyfrifol am Addysg a’r Gymraeg, sydd wedi cefnogi myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC ers amser hir:

‘“Da iawn i’r holl fyfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw.  Rydych chi wedi cael amser heriol iawn, ond rydych chi wedi cario ymlaen a dylech chi fod yn hynod falch.  Pob lwc i bawb, beth bynnag yw eich cam nesaf, boed hynny drwy barhau mewn addysg, prentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith, mae llawer o opsiynau ar gael i chi.  Os ydych chi’n ansicr beth i’w wneud nesaf siaradwch â’r coleg neu edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru a phob lwc gyda beth bynnag y dewiswch ei wneud nesaf.”

Y Perfformwyr Gorau

Mae’r myfyriwr Safon Uwch arbennig Hermione Chammings o Gwmgwrach yn gyn-ddisgybl Llangatwg sy’n mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Hanes ar ôl cyflawni’n rhagorol gydag  A* mewn Astudiaethau Crefyddol, A* mewn Hanes, A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ac A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig.

”Mae’n braf iawn gwybod o’r diwedd sut wnes i ar ôl yr aros hir trwy’r haf, mae hyd yn oed yn well gweld fy ngwaith caled yn talu ar ei ganfed. Ar ôl peidio â sefyll arholiadau cyhyd, heb wybod a oedd fy adolygu yn gweithio, mae’n gymaint o ryddhad gwybod ei fod wedi talu ffordd ac rwy’n llawn cyffro i fynd i Rydychen.

Mae fy narlithwyr wedi bod yn gefnogol yn enwedig o ran fy nghais UCAS. Mae bod yn rhan o Raglen GATE (Rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog) ac ymgymryd â’r Cymhwyster Prosiect Estynedig hefyd wedi fy mharatoi’n academaidd ar gyfer y brifysgol.

Dwi’n drist fy mod yn gadael y coleg gan ei fod yn amgylchedd mor braf ond mae mynd i Rydychen yn beth mawr, mae’n eithaf brawychus ond rydw i hefyd yn wir edrych ymlaen.”

Mae’r myfyriwr Safon Uwch Ellie Sanders wedi cael cynnig ysgoloriaeth i Brifysgol
Aberystwyth i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes. Mae’n gobeithio dilyn yn ôl traed Gwleidyddion lleol fel yr AS presennol Jeremy Miles (Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg) a’r AS Christina Rees, ar ôl cyflawni canlyniadau anhygoel yn ei harholiadau Safon Uwch;
Almaeneg – A, Hanes – A*, Cymdeithaseg – A, Cymhwyster Prosiect Estynedig – A*.

Roedd Ellie wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau, a dywedodd:

“Rwy’ wrth fy modd gyda’m canlyniadau, ac rwy’n meddwl y gallaf siarad ar ran yr holl
fyfyrwyr fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn o aros, ond gyda chefnogaeth ein
darlithwyr a’r Coleg, mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gennym heddiw yn adlewyrchu’r gwaith caled yr ydym wedi ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r darlithwyr wedi bod yn gefnogol ac wedi gwneud yn siŵr ein bod yn gyfforddus gyda chynnwys y cwrs. Maent wedi cynnal sesiynau adolygu ychwanegol i ni ac ni allwn fod yn fwy diolchgar. Ni allwn fod wedi cyflawni’r canlyniadau hyn heb eu cymorth a’u cefnogaeth.”

Mae Erin Mckay, myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i Brifysgol Bath Spa i
astudio Astudiaethau Plentyndod Cynnar ar ôl cyflawni Rhagoriaeth Serennog Driphlyg.

Dywedodd, “Rwyf wedi bod yn astudio yng Ngholeg Castell-nedd ers tair blynedd ar ôl newid o Safon Uwch i Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwyf wedi gweld bod yr amgylchedd dysgu mor gefnogol.”

Mae’r myfyriwr Safon Uwch Aled Morgan wedi penderfynu dewis Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Sifil ar ôl cyflawni’n wych ac ennill A* mewn Ffiseg, A* mewn Mathemateg, A* mewn Cyfrifiadureg, A mewn Mathemateg Bellach a B yn ei Brosiect Cymhwyster Estynedig.

Cyflawnodd cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gellifedw, Katie Edwards A, A, A mewn Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth/Iaith, Seicoleg a Throseddeg. Mae hi’n mynd i Brifysgol Bryste i

astudio Troseddeg. Gyda hithau wrth ei bodd â’i chanlyniadau, dywedodd Katie fod ei blwyddyn gyntaf yn anodd wrth astudio ar-lein ond yn llawer gwell pan symudodd i waith wyneb yn wyneb. “Roedd yn frwydr yn y flwyddyn gyntaf, ond roedd y staff addysgu yn wych ac fe wellodd pethau yn fawr pan ddaethom yn ôl i’r Coleg.”

Mae Ffion Willis wedi derbyn Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) yn ei chymhwyster galwedigaethol Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddoniaeth Fiofeddygol) ac mae bellach yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Awdioleg.

”Dewisais Awdioleg gan fy mod wedi mwynhau ochr Bioleg y cwrs yn y Coleg yn fawr, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol mewn meddygaeth.”

Enillodd Alan Nicholls Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) mewn Technoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a dywedodd:

”Mwynheais y cwrs yn fawr. Roedd yn gyfle gwych. Doedd dim llawer o gefnogaeth TG yn yr ysgol, felly mae’r cymorth gan fy nhiwtoriaid yn y coleg, Helen a Linda, wedi bod yn anhygoel.”

”Rwy’n gobeithio symud ymlaen i brentisiaeth. Os gallaf, rwyf am weithio ym maes seiberddiogelwch. Mae’n bwysig iawn gweithio ym maes seiberddiogelwch i helpu i
amddiffyn pobl rhag ymosodiadau pridwerth a phroblemau eraill.”

Cafodd yr egin gyfreithiwr Alex Thomas A* yn y Gyfraith, A mewn Busnes, A* mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac A* yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig. Mae wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Caerwysg i astudio’r Gyfraith.

Enillodd y mabolgampwr Ethan Griffiths raddau arbennig, sef Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) yn ei gymhwyster Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon galwedigaethol ac mae nawr ar ei ffordd i astudio i fod yn geiropractydd ym Mhrifysgol Bournemouth. Ar ôl ymweld â cheiropractyddion i helpu gydag anafiadau yn dilyn chwarae rygbi, gwnaeth ei benderfyniad i fynd i’r yrfa honno.

”Mwynheais y Coleg yn fawr, rwyf wedi dioddef rhai anafiadau wrth chwarae rygbi a gwnaeth ymweliadau â’r ceiropractydd a gweld y dulliau a ddefnyddiwyd wneud i mi
benderfynu dod yn geiropractydd.”

Mae Zack Childs wrth ei fodd gyda’i ganlyniadau Safon Uwch ar ôl derbyn A* mewn
Mathemateg, A* mewn Ffiseg, A* mewn Cemeg, A* mewn Bioleg ac A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig. Mae wedi cael ei dderbyn i Goleg Imperial Llundain i astudio Biocemeg ac mae’n gobeithio mynd i wneud gwaith ymchwil.

 

Enillodd y myfyriwr Safon Uwch Oliver Jones A mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, A mewn Cymdeithaseg, ac A* trawiadol mewn Almaeneg. Yn gyn-fyfyriwr Llangatwg, mwynhaodd y Coleg ac mae’n mynd i’w golli’n fawr. Mae’n cymryd blwyddyn i ffwrdd ond mae eisiau mynd i’r brifysgol yn yr Almaen i astudio Almaeneg.

Derbyniodd y myfyrwyr chwaraeon Laura Shinton a Jennifer Jarvie y radd uchaf y gellir ei chyflawni, sef D* driphlyg (D*D*D*) mewn BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae’r canlyniad yn gyfwerth â 3 A* ar Safon Uwch ac yn golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau UCAS.

Dywedodd Laura, nofwraig ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am 50 metr dull broga a’r 15 uchaf am 100 metr dull broga yng Nghymru: “Rwyf mor falch iawn gyda fy nghanlyniadau sy’n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Gwyddor Iechyd, Maeth ac Ymarfer Corff.”

Mae gan Jennifer Jarvie angerdd am chwaraeon ac mae’n defnyddio ei phrofiad hyfforddi fel tystiolaeth i gyflawni rhagoriaeth ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae Jennifer yn aelod o Glwb Pêl-droed Merched TNS sy’n cystadlu yn Uwch Gynghrair Adran Cymru. Mae hi hefyd yn hyfforddwyr gwirfoddol yng Nghlwb Pêl-droed Aberriw a CPD merched dan 14 Y Drenewydd. Mae Jennifer wedi ei derbyn i Brifysgol Birmingham i astudio BSc Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Gwyddor Hyfforddi.

Enillodd Iris Shanahan o Goleg y Drenewydd D*D*D* mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Nyrsio Oedolion.

Cyflawnodd Ffion Rowlands D*DD yn y BTEC Lefel 3 mewn Busnes ac mae wedi sicrhau
cyflogaeth amser llawn yn Control Techniques mewn rôl Gweinyddu Busnes.

Enillodd Ruth Rees-Jones o Goleg y Drenewydd D*DD yn y BTEC Busnes Lefel 3 ac wedi dewis aros gyda ni yn y coleg, gan fynd ymlaen i astudio’r HND mewn Amaethyddiaeth.

Llwydddodd y myfyrwyr Peirianneg Fodurol o Goleg Bannau Brycheiniog, Ethan Long, Zoe Jones a Jade Turnham yn eu cymwysterau City & Guilds Lefel 3 Peirianneg Fodurol, gyda Zoe a Jade yn paratoi’r ffordd i ragor o ferched astudio a gweithio ym maes atgyweirio cerbydau. Mae’r tri myfyriwr yn bwriadu astudio cyrsiau Atgyweirio Cerbydau Trydan newydd y coleg yr hydref hwn.

Llwyddodd myfyrwyr Gofal Plant Aberhonddu hefyd yn eu hasesiadau galwedigaethol Lefel 3, gyda phedwar Teilyngdod a Rhagoriaeth* yn cael eu cyflawni gan fyfyrwyr.

Enillodd Maria Freeman o Goleg Bannau Brycheiniog Ragoriaeth* mewn Gofal Plant Lefel 3, a dywedodd: ”Rwy’ wrth fy modd gyda chanlyniad fy nghwrs coleg. Mae’n ganlyniad gwych, ac rwy’n falch iawn ohona’ i fy hun. Enillais Ragoriaeth*. Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol, ond rydym wedi llwyddo gyda’n gilydd.”

Enillodd Courtney Whitely Ragoriaeth, Teilyngdod a Theilyngdod ac mae bellach yn mynd i Sefydliad Celfyddydau Perfformio Bryste ym mis Medi.

Enillodd Beau Broome ragoriaeth yn ei chwrs UAL Celf a Dylunio Cynhyrchu ar gyfer Theatr a Ffilm. Aeth drwy’r broses ymgeisio am brentisiaeth greadigol a hwyluswyd drwy’r coleg ac mae wedi llwyddo i sicrhau prentisiaeth a bydd yn gweithio gyda Chwmni Theatr Hijinks yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.