Clod uchel i gyrsiau lefel prifysgol yng Ngrŵp Colegau NPTC

QAA UK Quality Assured Logo

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi’i ganmol ar ôl ennill y dyfarniad uchaf sydd ar gael ar gyfer ei gyrsiau lefel prifysgol yn dilyn adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA).

Daeth y panel i’r casgliad bod gan y Coleg ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad y myfyriwr’. Canmolwyd y Coleg am ei gyflawniadau mewn sawl maes, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg ddigidol.

Cynhaliwyd yr adolygiad, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan ASA. Yn gyffredinol, daeth y panel adolygu i’r casgliad bod Grŵp Colegau NPTC yn bodloni gofynion Rhan 1 Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) ar sicrhau ansawdd mewnol, a’i fod yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Mae ei ganmoliaeth yn cynnwys:

  • Ehangu gan y sefydliad y tîm staff addysg uwch (AU) i gydnabod hynodrwydd y ddarpariaeth AU ac i greu cymuned AU, er mwyn gwella profiad myfyrwyr
  • Ymrwymiad y sefydliad i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr i ddiwallu eu hanghenion academaidd a bugeiliol i’w galluogi i gyflawni eu potensial
  • Datblygiad a defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol ar draws y Coleg, o fewn amgylchedd cefnogol, gan alluogi gwelliant parhaus o ran dysgu ac addysgu
  • Ymrwymiad y sefydliad i ymgysylltu â myfyrwyr ac i wrando ar lais y myfyriwr ac ymateb iddo. Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i gyfrannu at ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth.

Ni wnaed unrhyw argymhellion, a dywedodd Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth, Dr Rhobert Lewis: ‘Mae canlyniadau’r adolygiad hwn yn rhagorol, gyda dim llai na chwe chanmoliaeth. Mae hyn yn dangos pa mor llwyddiannus yw staff o ran darparu ‘mwy nag addysg yn unig’, gyda chymorth i fyfyrwyr, ynghyd â llwyddiant myfyrwyr, yn brif flaenoriaethau i ni. Mae neges yr adolygiad yn glir iawn. Mae myfyrwyr yn cael cymorth ardderchog i astudio cyrsiau lefel prifysgol gyda ni sydd nid yn unig yn cael eu darparu ar garreg drws y myfyrwyr ond sydd hefyd yn fforddiadwy, yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar yrfa’.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kevin McStravock, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, y Wasg a Chyfathrebu ASA ar mcstravock@qaa.ac.uk. neu Fay Harris, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu yng Ngrŵp Colegau NPTC fay.harris@nptcgroup.ac.uk
  2. Mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod ar waith ers mis Awst 2013, pan ddigwyddodd yr uno rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys. Cyflwynir y ddarpariaeth addysg uwch ar bum safle: Coleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog, Academi Chwaraeon Llandarcy, Coleg Castell-nedd a Choleg Y Drenewydd. Mae’r Coleg yn cyflwyno rhaglenni Addysg Bellach ac Addysg Uwch (AU). Mae tua 550 o fyfyrwyr addysg uwch yn astudio ar draws ystod o raglenni sy’n cael eu cyflwyno naill ai fel darpariaeth freiniol neu wedi’i dilysu. Mae’r Grŵp Colegau yn gweithio gyda phedwar partner dyfarnu graddau: Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a Pearson.
  3. Bydd canlyniad adolygiad Grŵp Colegau NPTC ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/quality-assurance-reports/Neath-Port-Talbot-College o ddydd Mercher 7 Medi. Adolygiad Gwella Ansawdd (AGA) ydyw. Mae AGA yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cefnogi gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a’r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae AGA yn asesu darparwyr yn erbyn gofynion rheoleiddiol sylfaenol y cytunwyd arnynt a’r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/reviewing-higher-education/types-of-review/quality-enhancement-review.
  4. Ar gyfer 2021-22, roedd cwmpas yr Adolygiadau AGA yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd yn unol â newidiadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ofynion sicrwydd ansawdd allanol mewn ymateb i bandemig COVID-19. O ganlyniad, cyhoeddodd ASA atodiad i gyd-fynd â’r llawlyfr AGA sy’n esbonio’r addasiadau i’r dull cyflwyno. Ar gyfer 2021-22, mae darparwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â’r ASA ar wahân ar wella ansawdd.
  5. Mae tri chategori dyfarniad ar gyfer AGA: ‘yn bodloni’r gofynion hyn’, ‘yn eu bodloni ag amodau’, neu ‘ddim yn bodloni’r gofynion’. Mae Grŵp Colegau NPTC wedi sicrhau’r dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy’r broses AGA.
  6. Roedd y tîm arbenigol a adolygodd Grŵp Colegau NPTC yn cynnwys Ms Tessa Counsell, Dr Osian Rees a Dr Bradley Woolridge (adolygydd myfyriwr).
  7. Mae ASA (Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch) yn elusen a chorff annibynnol y DU sydd â’r cyfrifoldeb o fonitro a chynghori ar safonau ac ansawdd mewn addysg uwch yn y DU. Rydym yn gweithio gydag ac ar ran ein haelodau ar draws pedair gwlad y DU ac yn adeiladu partneriaethau rhyngwladol i wella a hyrwyddo enw da addysg uwch y DU ledled y byd. Mae rhagor o wybodaeth am ASA yng Nghymru ar gael yn https://www.qaa.ac.uk/about-us/where-we-work/our-work-in-wales.