Byd Wayne yw hi yng Ngemau’r Gymanwlad

Yr haf hwn cafodd Wayne Robson-Brown, un o’n darlithwyr Therapi Chwaraeon gyfle i weithio gyda rhai o athletwyr gorau’r byd tra’n helpu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham.

Roedd Wayne yn rhan o’r tîm meddygol yn cefnogi’r athletwyr yn y Gemau ac roedd wedi’i leoli yn y pentref pwrpasol i Athletwyr, lle bu’n helpu athletwyr i baratoi ac adfer yn dilyn eu cystadlaethau.

Dywedodd Wayne: “Cefais y fraint o weithio yn y tîm meddygol yn cefnogi athletwyr elitaidd o nifer o wledydd, gan gynnwys De Affrica, Canada, India, Nigeria, Jamaica, Kenya, Pacistan, a Barbados. Bu’r athletwyr hyn yn cystadlu mewn amrywiaeth o gampau gan gynnwys athletau a phara-athletau, beicio, gymnasteg, hoci, codi pwysau, nofio, a phara-nofio.”

“Uchafbwynt fy amser yn Birmingham oedd rhoi triniaeth i Tobi Amusan, sef deiliad Record y Byd ar gyfer y ras 100m dros y clwydi ag enillodd fedal aur yn y Gemau.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Wayne weithio ar ddigwyddiad proffil uchel, ar ôl bod yn rhan o’r tîm meddygol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012. Dywed mai gweithio ar ddigwyddiadau fel y rhain yw uchafbwynt gyrfa unrhyw therapydd chwaraeon ac mae’n wirioneddol falch o’r profiadau hyn.

Mae Wayne wedi’i leoli yng Ngholeg Afan ac mae’n addysgu ar y Diploma Lefel 3 mewn Atal a Rheoli Anafiadau Chwaraeon, Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon a Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon.

Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn ymfalchïo mewn cael darlithwyr sydd â phrofiad byd go iawn yn eu diwydiannau. Mae hyn yn caniatáu iddynt drosglwyddo’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn ystod eu gyrfaoedd i’r myfyrwyr, i’w paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae Wayne yn enghraifft wych o hyn gan y bydd yn gallu trosglwyddo’r hyn y mae wedi’i ddysgu wrth weithio ar y digwyddiadau byd-eang hyn i’w fyfyrwyr.

Ychwanegodd Wayne: “Mae’r cyrsiau hyn yn fy ngalluogi i rannu fy mhrofiad proffesiynol gyda’r myfyrwyr a datblygu eu hymwybyddiaeth o sut y gellir defnyddio’r sgiliau y maent yn eu dysgu yng Ngrŵp Colegau NPTC mewn amgylchedd gwaith gwerth chweil.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein cyrsiau Therapi Chwaraeon neu unrhyw un o’n cyrsiau Therapïau Cymhwysol, cliciwch ar y dolenni isod.

Therapi Chwaraeon

Therapïau Cymhwysol