Grŵp Colegau NPTC yn lansio Academi E-chwaraeon

Croesawyd sêr Cymreig y byd gemau John Jackson AKA Slayer a Lois Samuel AKA Kitsch gan Grŵp Colegau NPTC i agor yr ystafelloedd E-chwaraeon newydd sbon yng Ngholeg Castell-nedd.

Ymunodd Maer Castell-nedd Port Talbot, Cynghorydd Robert Wood a’r Faeres Mrs Sylvia John â staff a myfyrwyr y coleg, yn ogystal â Phrif Weithredwr E-chwaraeon Cymru John Jackson a Lois Samuel Llysgennad Benywaidd E-chwaraeon Cymru.

Mae Eira Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau dros yr Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol wrth ei bodd i gael academi E-chwaraeon ac ystafelloedd E-chwaraeon wedi’u neilltuo yng Nghastell-nedd. Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd 2021 ac mae myfyrwyr ar y cwrs Diploma Estynedig mewn TG wedi bod wrthi’n helpu o’r cychwyn cyntaf.

Esboniodd:

“Mae dau fyfyriwr sydd wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad y prosiect hwn sef John Hughes a Logan Munday. Mae’r ddau ohonynt wedi gweithio’n galed ac roeddent yn benderfynol o wneud eu gorau glas i lansio’r academi wrth gydweithio â dau aelod o’n tîm addysgu ffantastig o’r Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol, Chris Manley a Gwyn Perry, sydd wedi datblygu a meithrin y prosiect o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd John a Logan eu bod wedi meddwl am y syniad o sefydlu Academi E-chwaraeon ar ôl sylweddoli l y byddai’n ffordd wych o greu cymuned a chwrdd â phobl newydd.  Yr uchafbwynt hyd yn hyd oedd y tro cyntaf iddynt weld yr ystafelloedd gyda’r holl gyfarpar ac mae wir wedi rhoi teimlad o gyflawni iddynt.  Gadawodd Morgan a John y coleg y llynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau ond fe ddaeth y ddau ohonynt yn ôl i weld canlyniadau ei holl waith caled a’u hymdrechion.

Cymerodd timau’r coleg ran yn eu gemau e-chwaraeon cyntaf ar 26 Ionawr 2022, gyda’r tîm NPTC ‘Crimson Ravens’ yn chwarae ‘Overwatch’ a’r ‘NPTC Magic Missiles’ yn chwarae ‘Rocket League’.

Dywedodd John Jackson a oedd yn agor yr ystafelloedd yn swyddogol ei bod yn beth braf gweld y coleg yn cefnogi E-chwaraeon a helpu i ddatblygu cenhedlaeth nesaf chwaraewyr E-chwaraeon yng Nghymru. Hefyd, ychwanegodd:

“Mae’n bleser bod yma heddiw i agor yr ystafelloedd a gweld y myfyrwyr yn chwarae yn y Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydeinig yn erbyn colegau eraill ar draws y DU. Mae’n ffantastig gweld cynifer o dimau o Gymru sy’n cystadlu ar lefel uchel. Mae’n wych bod y coleg yn cefnogi’r timau hyn gan roi platform iddyn nhw ddatblygu gyda’r gobaith o ddod yn rhan o’r tîm cenedlaethol.”

Esboniodd John hefyd beth y mae E-chwaraeon yn ei olygu ar gyfer y rheiny nad oeddynt yn sicr: “Mae E-chwaraeon yn golygu chwarae gemau fideo yn gystadleuol ac mae wedi bod yn digwydd am nifer o flynyddoedd.  Gellir chwarae fel unigolyn neu mewn timau ac mae’r timau yn cyd-weithio fel y byddai timau mewn chwaraeon traddodiadol ac maent yn cystadlu yn erbyn chwaraewyr o bedwar ban y byd.”

Mae diwylliant E-chwaraeon yn golygu mwy na chwarae gemau, gall helpu unigolion i wella meddwl yn strategol, gweithio fel rhan o dîm, cyfathrebu, arwain, magu sgiliau perfformio ac adeiladu hyder.  Mae’r coleg wrth ei fodd i gyfrannu at ethos E-chwaraeon Cymru trwy eu gwerthoedd Dewrder, Hiwmor, Uniondeb, Rhagoriaeth, Teulu a Llwyddiant ac ymrwymiad i barchu rheolau a chystadleuwyr, ynghyd â gwrthod gwahaniaethu a thwyllo.

Mae gan Lois Samuel, sef Llysgennad Benywaidd E-chwaraeon Cymru a chyn-fyfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC, y neges hon ar gyfer unrhyw ferched sydd am fod yn rhan o E-chwaraeon:

“Ewch ati, sdim ots os ydych chi’n ferch jest ewch ati a’i wneud, fe wnes i eistedd i lawr a meddwl nad oedd modd i fi wneud dim byd ym maes E-chwaraeon am fy mod i’n ferch ac erbyn hyn, dwi’n llysgennad, hyfforddwr a hefyd yn chwarae ‘League of Legends’ bob dydd.  Os ydych chi’n hoff iawn o chwarae gemau, wedyn peidiwch â gadael i neb ddweud wrthoch chi nad ydy’n bosib, oherwydd ei bod hi wir yn bosib.”

Ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau chwarae E-chwaraeon gan anelu at gynrychioli Cymru, mae nifer o gyfleoedd i fynd amdani.  Mae E-chwaraeon Cymru yn awgrymu eich bod yn dod yn aelod o’r tîm E-chwaraeon yn eich coleg neu’ch prifysgol, ond maent hefyd yn cynnal sawl dwrnamaint drwy gydol y flwyddyn sy’n rhoi cyfle i E-chwaraeon Cymru gadw ei lygaid yn agored am yr unigolion mwyaf talentog ar draws Cymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio gyda’n hadran Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol, a wnewch chi ddilyn y linc isod.

Os hoffech ddod o hyd i fwy o wybodaeth am E-chwaraeon Cymru, cliciwch ar y linc isod.

Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

E-chwaraeon Cymru