Pump Cyn-fyfyriwr Enwog wedi’u Dewis ar gyfer Cwpan y Byd Rygbi

Mae pump o gyn-fyfyrwyr Academi Chwaraeon Llandarcy, Kerin Lake, Keira Bevan, Gwen Crabb, Kelsey Jones a Lowri Norkett i gyd yn gobeithio chwarae rhan allweddol yng Nghwpan Rygbi’r Byd y Menywod yn Seland Newydd. Mae pob un o’r pum chwaraewr bellach ar gytundebau proffesiynol llawn amser URC sy’n caniatáu iddynt ganolbwyntio ar eu gyrfaoedd rygbi.

Mae’r gystadleuaeth yn cychwyn ar yr 8fed o Hydref, flwyddyn ar ôl iddi gael ei threfnu’n wreiddiol. Bydd Cymru’n dechrau ei hymgyrch yn erbyn Yr Alban ar y 9fed o Hydref cyn wynebu Seland Newydd, deiliaid presennol Cwpan y Byd ac mae eu gêm grŵp olaf yn erbyn Awstralia.

Roedd gan Sali-Ann Millward, Dirprwy Bennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Grŵp Colegau NPTC hyn i’w ddweud am ei chyn-fyfyrwyr:

“Rydym wrth ein bodd i weld pump o’n cyn-fyfyrwyr Chwaraeon yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd y Menywod. Tra yn y coleg, cymerodd yr holl chwaraewyr ran mewn timau chwaraeon amrywiol gan gynnwys hoci, pêl-droed, pêl-rwyd ac wrth gwrs rygbi! Bu pob chwaraewr yn llwyddiannus yn eu campau gan fwynhau cystadlu mewn gwahanol ddigwyddiadau, gan gynnwys Rosslyn Park 7s, Eisteddfod yr Urdd, a chystadlaethau Colegau Cymru a Phrydain. Rydym fel adran yn hynod o falch; maen nhw ar binacl rygbi a dymunwn y gorau iddynt yng Nghwpan y Byd a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Mae Kerin Lake yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’i Chwpan Byd cyntaf, ar ôl gwella o anaf. Dyma’r hyn oedd ganddi i’w ddweud:

“Mae braidd yn swreal a dweud y gwir. Rwy’n gwybod bod yr hyfforddwyr wedi cymryd gambl arnaf gan fy mod wedi bod yn brwydro yn erbyn anafiadau am y rhan fwyaf o’r haf. Dw i am wneud popeth o fewn fy ngallu i fwrw ymlaen nawr a gobeithio mynd ar y cae i’r tîm. Fyddwn i ddim yma pe na bawn i wedi bod yn rhan o’r rhaglen amser llawn o safbwynt adsefydlu.”

Myfyriodd Lowri Norkett, sydd wedi derbyn cytundeb URC yn ddiweddar, ar y misoedd diwethaf:

“Mae popeth wedi digwydd mor gyflym, a dweud y gwir. O gael fy nghap cyntaf yng Nghanada, cael cytundeb hyd at fis Rhagfyr a sicrhau fy nhocyn i Seland Newydd, mae wedi bod yn fis anhygoel.

“Rwy’n meddwl bod hyfforddwyr yn gwobrwyo gwaith caled ac er na chefais gontract y tro cyntaf, fe wnes i barhau i weithio’n galed ac mae wedi talu ar ei ganfed.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwylio unrhyw rai o gemau Cymru, byddan nhw i gyd yn cael eu darlledu ar ITV yn ogystal ag S4C Clic ac S4C YouTube. Bydd gemau llawn yn cael eu hailchwarae ar S4C yn ddiweddarach yn y dydd. Dyma’r dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer holl gemau grŵp Cymru yng Nghwpan y Byd:

Dydd Sul 9 Hydref – Cymru v Yr Alban – y gic gyntaf am 5.45am amser y DU

Dydd Sul 16 Hydref – Cymru v Seland Newydd – y gic gyntaf am 3.15am amser y DU

Dydd Sadwrn 22 Hydref – Awstralia v Cymru – y gic gyntaf 2.15am amser y DU

Hoffai pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC ddymuno pob lwc i’r garfan gyfan ar gyfer y twrnamaint.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn yn ôl traed y pump enwog, beth am edrych ar y cyrsiau Chwaraeon sydd gennym i’w cynnig trwy glicio ar y ddolen isod.

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus