Chwifio Baner Cymru ar gyfer Gyrwyr Loris sy’n Fenywod

Mae Seren Jones yn mynd ar y ffordd ac yn chwifio’r faner ar ran menywod sy’n gyrru loris ymhobman, diolch i gefnogaeth gan Grŵp Colegau NPTC a Gatewen Training Services.

Yn 21 oed, o Wrecsam, mae Seren erbyn hyn yn yrrwr HGV cymwys, sy’n ymuno â mwy na 300,000 o yrwyr yn y DU, ond mae llai na thri y cant ohonynt yn fenywod.

Gyda diffyg gyrwyr loris, cadwynau cyflenwi wedi’u gohirio a silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw â nifer o golegau a chyflenwyr hyfforddi wedi bod yn gwneud cynnydd da i ddelio â’r sefyllfa a cheisio denu mwy o fenywod i’r rôl – rôl sy’n cael ei hystyried yn draddodiadol fel swydd a wneir gan ddynion yn bennaf oll.

Mae Seren, sy’n fam sengl, yn gweithio tuag at adeiladu gyrfa newydd gan obeithio cyfrannu at newid yr anghyfartaledd.  Siaradwr Cymraeg a oedd yn arfer adeiladu codyddion calibro electronig fel swydd, mae hi wastad wedi breuddwydio am yrfa ym maes gyrru.

Ar ôl gweld yr adroddiadau am ddiffyg gyrwyr yn y DU, meddyliodd Seren y byddai’n yrfa yr hoffai ei dilyn, ond mae hi’n cyfaddef bod y costau cychwynnol a oedd yn gysylltiedig â’r  hyfforddiant angenrheidiol i ddod yn yrrwr cymwysedig, yn ogystal â chostau gofal plan,t bron wedi ei pherswadio i beidio â’i wneud.  Ond gyda chymorth menter Cyfrif Dysgu Personol (PLA) Llywodraeth Cymru, mae Seren yn y sedd yrru erbyn hyn

“Roeddwn i’n ddigon lwcus i gael fy nghyfeirio at Gatewen Training Services yn Wrecsam a roddodd wybod i mi, mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC, roedd modd iddynt ddod o hyd i gyllid gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n talu am fy holl gostau hyfforddi.  Unwaith fy mod i wedi bodloni’r holl brofion cymhwyso, wnes i lofnodi i ymuno â’r fenter ar unwaith.”

Ychwanegodd Seren: “Mae’r syniad o fod ar y ffordd agored wastad wedi galw arna i ac rydw i bob amser wedi meddwl y byddai fy ngyrfa yn y dyfodol yn ymwneud â rhyw agwedd ar yrru ond alla i fyth wedi breuddwydio y byddwn yn gyrru lori 44 tunnell.”

Mae Grŵp Colegau NPTC eisoes wedi helpu tua 4,000 o bobl trwy’r cynllun PLA yn cynnwys  195 yn y sector logisteg yn benodol.

Dywedodd Julian Hughes, Rheolwr-gyfarwyddwr Gatewen y gallai fwy o bethau gael eu gwneud trwy ymgyrchoedd recriwtio i annog mwy o fenywod fel Seren i ddod yn yrrwr HGV, er enghraifft cynnig contractau parhaol heb orfod gweithio gyda’r hwyr neu dros y penwythnos

Ychwanegodd: “Y peth mwyaf unigryw yw nad oes bwlch cyflog rhwng y rhywiau o gwbl. Mae dynion a menywod yn cael eu talu’r un peth – rhywbeth sy’n anarferol iawn mewn llawer o ddiwydiannau eraill”.

Dywedodd Seren: “Gallai cwmnïau a swyddogion recriwtio fod yn fwy rhagweithiol wrth ddefnyddio menywod mewn hysbysebion recriwtio a chymryd camau ychwanegol i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael gyda gofal plant, patrymau gweithio hyblyg – a llesiant yn gyffredinol, pethau sydd efallai heb gael eu cysylltu â hysbysebion traddodiadol ar gyfer gyrwyr HGV yn y gorffennol. Mae unrhyw beth sy’n herio stereoteipiau digymwynas o ran y math o bobl a allai ddod yn yrwyr yn sicr o fod yn beth positif.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Nid yw pawb yn dod o hyd i’r yrfa fwyaf addas yn syth ac felly mae’n bwysig bod pawb yn cael y cyfle i ail-sgilio.  Mae Seren yn enghraifft wych o sut, gyda’r awydd a’r uchelgais priodol, y gallwch newid eich gyrfa i ddod o hyd i yrfa sy’n berffaith i chi.  Mae ein Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cyfleoedd ardderchog i bobl ar incwm is ail-hyfforddi i ddod o hyd i yrfa addas.  Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried newid gyrfa i ddysgu sgiliau newydd gyda’r posibilrwydd o wella’ch incwm, i gysylltu â Chymru’n Gweithio neu’ch coleg addysg bellach lleol i weld pa gyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol sydd ar gael.”