Coleg Bannau Brycheiniog yn Symud i Ddarparu Mwy o Gyfleoedd i Gyflogwyr Lleol

Mae adleoli Coleg Bannau Brycheiniog (sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC) i ganol tref Aberhonddu yn cynnig cyfle mawr i gyflogwyr lleol ennyn diddordeb myfyrwyr mewn lleoliadau gwaith a gweithgareddau lleol. Wrth siarad mewn digwyddiad Ymgysylltu â Chyflogwyr a gynhaliwyd gan y Coleg ddydd Iau, cyflwynodd Pennaeth Dros Dro Grŵp Colegau NPTC Catherine Lewis y cynlluniau adleoli i gynrychiolwyr lleol, ynghyd â darluniadau newydd gan artist o’r adeiladau.

Cred y Pennaeth Dros Dro fod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Gaer, “yn gyfle gwych i gysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys busnesau, yr awdurdod lleol, ysgolion a mudiadau gwirfoddol” cyn symud i ganol y dref, gan ychwanegu bod y digwyddiad “wedi gosod llwyfan ar gyfer cydweithio pellach i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion y gymuned a chyflogwyr lleol.”

Cyhoeddwyd ym mis Mai y byddai’r Coleg yn adleoli ac mae hyn yn golygu y bydd hen adeilad y llyfrgell ar Stryd y Llong a Watton Mount yn cael ei drosglwyddo i’r Coleg o Gyngor Sir Powys. Nod yr adeiladau ar eu newydd wedd fydd darparu campws ‘naws prifysgol’ gyda chyfleusterau addysgol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif a bydd yn ymuno â’r CWTCH (y Ganolfan Groeso gynt), a agorwyd yn 2020 fel ‘Hyb y Coleg yn y Gymuned.’

Daeth dros hanner cant o gynrychiolwyr busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol ym Mhowys ynghyd yn y Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflogwyr i glywed am fanteision y symud yn ogystal â sut y gall y Coleg gydweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio mewn busnesau lleol yn ystod ac ar ôl eu haddysg. Rhan allweddol o’r digwyddiad oedd cydnabod yn well sut y gall cyrsiau a myfyrwyr y Coleg wneud cyfraniad at sefydliadau lleol a dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw pobl gymwysedig yng ngweithlu Powys.

Gan roi ei safbwynt ar sut mae’r symud eisoes wedi cryfhau cysylltiadau a phrofiad myfyrwyr y Coleg, siaradodd Prif Diwtor Robin Flower am sut bu’r CWTCH yn lleoliad cymunedol ardderchog ar gyfer cydweithrediad diweddar gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu. Gan alw ar ddigwyddiad haf myfyrwyr Busnes a Rheoli gyda’r Ŵyl, aeth Robin â’r gynulleidfa drwy’r broses gydweithio, gan ddweud “Rwyf wedi profi o lygad y ffynnon pa mor gyffrous yw hi i’n myfyrwyr weithio gyda sefydliadau a chyflogwyr lleol ar leoliadau gwaith a gwaith cwrs, yn fwyaf diweddar drwy weithio gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu.”

I grynhoi, bu myfyrwyr BTEC Busnes a’r Gyfraith y Coleg yn cynorthwyo’r Ŵyl Jazz drwy reoli digwyddiad fideo a pherfformiad cerddorol y tu allan i’r CWTCH ym mis Mehefin. Daeth hyn yn sgil blwyddyn o gynllunio a chyfarfod yn Y Cwtch gyda chynrychiolwyr yr Ŵyl.

Wrth grynhoi ei gyflwyniad, ychwanegodd Robin: “Cynhaliwyd ein digwyddiad jazz cydweithredol yn Y CWTCH, ein Hyb Cymunedol, a olygodd ei fod yn hawdd i’r Ŵyl ddarganfod ein gwaith a chael mynediad iddo. Wrth i fwy o’r Coleg symud i’r dref, credaf y bydd mwy o gyfleoedd i gyflogwyr a sefydliadau cymunedol lleol weithio gyda’n myfyrwyr dawnus, gan sicrhau eu bod yn gwneud cyfraniad yn yr ardal.”

Roedd cydlynwyr Clwb Jazz Aberhonddu, Lynne a Roger, wedi ymuno â’r gynulleidfa hefyd ac roedden nhw’n frwdfrydig i weld pa mor dda yr oedd eu partneriaeth gyda’r Coleg wedi gweithio i bawb dan sylw, gan ddweud:

“Mae llawer o bobl wedi dweud mai Gŵyl Jazz mis Awst oedd un o’r goreuon yr oeddent wedi’i mynychu, ac roedd cyfraniad y myfyrwyr BTEC a gradd wrth greu cyflwyniad fideo a’u diwrnod ‘Blasu’ anhygoel, gydag ensemble jazz, sgrîn fawr, codi arian a chyfranogiad rhagweithiol, yn ffactor mawr wrth gyfrannu at hyn. Byddai’n wych parhau â’r gwaith hwn ar y cyd gyda phobl mor dalentog a rheolwyr y Coleg â’u hagwedd ‘gallu gwneud’ yn y dyfodol.”

Hefyd yn cyflwyno yn y digwyddiad Ymgysylltu â Chyflogwyr oedd Jacqui Gough, Cyfarwyddwr SWG Group, a fu’n arddangos glasbrint o ran sut gall y diwydiant adeiladu lleol ennyn diddordeb myfyrwyr Powys o oedran ifanc. Esboniodd Ms Gough waith Academi Adeiladwaith SWG Group, sy’n cynnig ymweliadau safle a gweithgareddau crefftau ymarferol mewn ysgolion. Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae gan yr Academi 24 o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gwaith Adeiladwaith lleol, ac roedd cynrychiolwyr yn y digwyddiad wedi’u hysbrydoli gan y cyflawniad hwn.

Ynghylch y cyflwyniad i’r cyd-gynrychiolwyr, meddai Jacqui Gough:

“Roedd yn wych gweld nifer anhygoel o fusnesau lleol, darparwyr addysg, a grwpiau cymunedol yn dod at ei gilydd i drafod sut i gefnogi pobl ifanc Powys i ffynnu yn eu taith addysgol ac wedyn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Roedd y positifrwydd a’r brwdfrydedd dros gyfoethogi addysg myfyrwyr yn amlwg ac rwy’n gyffrous i fod yn rhan ohono, a gweld y cyfleoedd hyn yn datblygu ac yn dwyn ffrwyth.”

Ar ôl cwrdd â chynrychiolwyr amrywiaeth o fudiadau lleol, y nod nawr yw i’r Coleg gyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid er mwyn cryfhau’r siawns y bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyflogaeth leol nawr ac ar ôl i’r Coleg symud i ganol y dref.

Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Gemma Charnock, Is-Bennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Grŵp Colegau NPTC, a ddywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu pellach a sefydlu grŵp ymgysylltu rhanddeiliaid De Powys.