Llysgennad Prentisiaethau, Catrin Morgan, yn Breuddwydio am Agor Meithrinfa Rhyw Ddydd

Catrin Morgan landscape photo

Mae’r Prentis Cymraeg ei hiaith, Catrin Morgan wrthi’n cyflawni ei huchelgais gyrfaol o weithio gyda phlant ifanc a hoffai agor ei meithrinfa ei hun yn y dyfodol.

Mae Catrin, 18, o Bontarddulais, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 ddwyieithog mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer) gyda City & Guilds, a ddarparir gan Hyfforddiant Pathways, rhan o Grŵp Colegau NPTC.  Mae hi’n gobeithio symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch i gefnogi ei huchelgais gyrfaol.

Dechreuodd weithio ar sail ran-amser i Gylch Meithrin Pontarddulais yn Eglwys Gymunedol Bont Elim ym mis Medi diwethaf, ar ôl cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal Plant yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyda lleoliad gwaith ym meithrinfa Prifysgol Abertawe.

O ganlyniad i’w gariad tuag at y Gymraeg a phrentisiaethau, penodwyd Catrin yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a’r Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws Cymru.

Catrin Morgan reading a book to children

“Rydw i wir yn mwynhau fy mhrentisiaeth yng Nghylch Meithrin Pontarddulais,” dywedodd Catrin, sydd hefyd yn gweithio rhan-amser fel cynorthwyydd manwerthu yn Primark. “Rydw i wastad wedi meddwl am weithio gyda phlant am fy mod i wrth fy modd yn eu gweld yn datblygu a chael y cyfle i’w helpu.

“Gobeithio y bydd modd i mi symud ymlaen i lefel uwch a swydd amser llawn yn y Cylch. Hoffwn i agor fy meithrinfa fy hunan rhyw ddydd.”

Wrth drafod ei rôl fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd ei bod hi am hyrwyddo’r buddion o fod yn brentis a buddion dwyieithrwydd.

“Mae gwneud prentisiaeth yn well o lawer oherwydd fy mod i’n gallu dysgu mwy mewn diwrnod nac mewn wythnos gyfan yn y coleg,” dywedodd Catrin. “Wrth fod yn llysgennad, rydw i’n gallu helpu i roi cyngor i bobl eraill am fuddion dysgu mewn gweithle trwy wneud prentisiaeth os nad ydynt yn siŵr o beth i’w wneud.

“Rydw i’n meddwl bod siarad Cymraeg yn rhugl yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi ac rydw i’n mwynhau siarad a dysgu Cymraeg yn y Cylch.”

Catrin Morgan and tutor reviewing forms

Mae Eira Mainwaring, rheolwr Cylch Meithrin Pontarddulais, yn un o bedwar aelod o staff sydd naill ai wedi cyflawni prentisiaeth neu sydd wrthi’n gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd.

“Mae Catrin wedi ffitio mewn yn dda iawn ac mae’r brentisiaeth yn garreg sarn ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol,” dywedodd. “Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill arian ar yr un pryd â gwneud cymhwyster a chyfle i ddeall y swydd i’r dim.

“Dechreuais wirfoddoli 10 mlynedd yn ôl ac wedyn es i ymlaen at brentisiaeth gyda Mudiad Meithrin a arweiniodd at Brentisiaeth Uwch. Roedd y cyfle i gyflawni prentisiaeth a chael profiad ymarferol go iawn mewn gweithle yn ffantastig.”

Dywedodd Claire Quick, tiwtor ac asesydd Catrin o Hyfforddiant Pathways: “Mae Catrin yng nghamau cynnar ei phrentisiaeth ac mae hi wedi gwneud yn hynod o dda yn ei hasesiadau.  Mae hi’n gweithio gyda phlant 2 a 3 oed ac yn datblygu ei sgiliau a’i hyder gyda chymorth gan Eira a’i staff.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, felly mae cyflawni prentisiaeth yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg yn gallu gwella hyder yr unigolyn i weithio trwy gyfrwng y ddwy iaith a’i gyflogadwyedd hefyd.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn fodelau rôl ardderchog ar gyfer prentisiaethau, yn pwysleisio buddion dysgu a gweithio’n ddwyieithog yn y gweithle.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol ein bod wedi penodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaeth ac rydym yn meddwl ei bod yn ddull allweddol o ddangos pobl ei bod yn bosibl parhau gyda’ch addysg ddwyieithog trwy ddilyn llwybr prentisiaeth.

“Gyda tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n bwysicach nag erioed i ddatblygu eich sgiliau dwyieithog a gwella’ch rhagolygon cyflogadwyedd.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd prentisiaeth ewch i Yrfa Cymru https://careerswales.gov.wales/apprenticeships neu ffoniwch 0800 028 4844.

Postiwyd yr erthygl wreiddiol gan Glamorgan Herald I weld yr erthygl wreiddiol, cliciwch yma.