Mae Gwobrau Prentisiaethau Academi Sgiliau Cymru yn dychwelyd am flwyddyn arall!

Mae’n wythnos Prentisiaethau a pha ffordd well o gydnabod ac anrhydeddu cyflawniadau gwych ein prentisiaethau drwy lansio ein Gwobrau Prentisiaid 2023. Cynhelir y noson wobrwyo fawreddog ar y 7fed o Tachwedd 2023 gan ddathlu llwyddiant ein prentisiaid a chydnabod cefnogaeth ddiwyro cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae Partneriaeth Dysgu Seiliedig ar Waith Academi Sgiliau Cymru, a arweinir gan Grŵp Colegau NPTC, yn cefnogi cyflwyno prentisiaethau ledled Cymru mewn amrywiaeth eang o sectorau galwedigaethol, gan helpu busnesau i lenwi bylchau sgiliau trwy dyfu eu talent eu hunain.

Ewch i www.skillsacademywales.co.uk i ddarganfod mwy am seremoni wobrwyo’r llynedd.