Y Coleg yn Cipio Medalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Unwaith eto, cafodd Grŵp Colegau NPTC ei ddewis fel lleoliad ar gyfer y Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau 2023 mawr eu bri.

Grŵp Colegau NPTC oedd un o’r is-ganolfannau a ddewiswyd i gynnal y gwobrau, a gyflwynwyd gan Mari Lovgreen ac Ameer Davies-Rana. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hybrid yn rhithwir, gyda chwe is-ddigwyddiad yn cael eu cynnal gyda darparwyr yng Nghymru, fel y gallai ffrindiau a theuluoedd o bob rhan o Gymru wylio.

Yr hyn a wnaeth y digwyddiad hyd yn oed yn well oedd nifer y medalau a enillwyd ar y noson gyda’r Coleg yn ennill pedair medal aur, pum arian a thair efydd.

Dychwelodd Gwyddor Fforensig i’r Gystadleuaeth Sgiliau mewn ffordd drawiadol gyda medalau ym mhob cystadleuaeth. Morgan Davies gipiodd y medal Aur yn y gystadleuaeth Technegydd Labordy. Enillodd Archie Phillips y medal Arian ac yna enillodd Robyn Hassini y medal Efydd yn y gystadleuaeth Gwyddoniaeth Fforensig.

Roedd hi’n noson dda i’r adran Ail-orffennu Cerbydau Modur ac Atgyweirio Cyrff Cerbydau, gyda Victoria Steele yn ennill Arian ar gyfer Ail-orffennu Cerbydau a Jordan Lingham yn ennill Arian arall yn y gystadleuaeth Atgyweirio Cyrff Cerbydau.

Enillwyd medalau hefyd mewn Codio gyda Leon Cook yn cipio’r Medal Aur mewn Dylunio’r We ac Emma Harris yn ennill yr Arian. Cipiwyd dwy fan uchaf y Sgiliau Cynhwysol: Datrysiad Meddalwedd TG ar gyfer Busnes gan Will Turner, Aur, a Kornchanut Uttamamoon gyda’r Arian.

Enillodd Joshua Miles fedal Arian yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol: Garddwriaeth, ac am yr ail flwyddyn yn olynol mae’r Coleg wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth plastro, gyda Kieran-Lee Phillips yn y lle cyntaf.

Mae’r cystadlaethau’n herio cystadleuwyr ar draws pum sector gwahanol i gael eu henwi orau yn eu sgìl, y rhain yw Adeiladwaith a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw, TG a Menter a Chyfryngau a Chreadigol.

At ei gilydd, mae 1096 o bobl ifanc wedi cystadlu dros y tri mis diwethaf, gyda 101 o fedalau aur, 104 arian ac 88 efydd wedi’u dyfarnu i gyd.

Yn amodol ar rownd arall o geisiadau, gallai cystadleuwyr y rownd derfynol symud ymlaen yn awr i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills international.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru drwy Ysbrydoli Sgiliau yw codi proffil sgiliau yng Nghymru a chynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cyfres o gystadlaethau sgiliau galwedigaethol lleol ar draws amrywiaeth o sectorau.

Mae’r Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau’n cynnig cyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’u llwyddiannau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ac yntau’n falch i’r Grŵp gael ei ddewis fel canolfan gynnal, meddai Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey:

”Mae’n anrhydedd mawr i Grŵp Colegau NPTC gael ei ddewis i fod yn is-ganolfan gynnal a medru clywed am lwyddiannau a chanlyniadau anhygoel yr holl gystadleuwyr, er gwaethaf blwyddyn heriol arall. Ni fyddai’r noson hon yn bosib heb waith caled a phenderfyniad pob myfyriwr a ddewisodd gystadlu, ond hefyd staff y Coleg a dreuliodd oriau lawer ar ben eu horiau dysgu arferol yn mentora ac yn hyfforddi ein cystadleuwyr wrth baratoi at y cystadlaethau.”

Meddai Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r ffaith bod cynifer o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer iawn nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w crefftau ond hefyd am ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant yn y Coleg. Rydym yn gyson yn llwyddo mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau’n dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf un ar draws holl safleoedd ein Coleg.

Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr, ac rwy’n gyffrous i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gymryd rhan yn WorldSkills.”

Meddai’r Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n llwyfan wych i bobl ifanc herio eu hunain a rhoi eu sgiliau ar brawf.

“A minnau wedi cefnogi a mynychu nifer o’r cystadlaethau yn y gorffennol, rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon y doniau anhygoel sydd gan Gymru i’w cynnig. Gwnaeth brwdfrydedd y cyfranogwyr argraff arbennig arnaf. Roedd eu hangerdd dros eu crefft yn amlwg wrth iddynt gamu i fyny a chystadlu am yr anrhydeddau gorau.

“Mae’n ysbrydoliaeth i weld pobl ifanc yn ymfalchïo yn yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn ymdrechu i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain y gallant fod. Mae rhaglenni fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu i hyrwyddo diwylliant o dwf a rhagoriaeth ar bob lefel.