Oisin yn profi bod ei ddyluniadau ‘Y Tu Hwnt i’r Byd Hwn!’

Art student Osian Morris stands alsongside his work, a giant metalic spider and a disembodied robot.

Yn ddiweddar fe wnaeth Oisin Morris, Myfyriwr Celf a Dylunio yng Ngholeg y Drenewydd ymgymryd â’r her i greu gweithiau celf a fyddai’n bodloni gofynion gosodwaith ffuglen wyddonol ar gyfer digwyddiad preifat.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Lefel 3 Celf a Dylunio gynhyrchu darn o waith ar gyfer briff byw.  Mae cyfyngiad amser ar y gwaith a rhaid iddo fodloni manylebau’r briff.  Fodd bynnag, roedd dewis cynhyrchu darn o waith ar gyfer cleient allanol yn golygu bod gan Oisin her bywyd go iawn i’w chwblhau.

Dywedodd y darlithydd celf Rob Loupart: ‘Roeddem mor falch bod Oisin wedi ymgymryd â’r her hon, gan roi cynnig bywyd go iawn iddo, gan weithio tuag at ddiddordeb y cleient a’r canlyniad dymunol. Mae gwneud y math hwn o brosiect gydag amserlen go iawn yn rhywbeth y gall artistiaid ei wynebu ac ymatebodd Oisin i’r her. Mae mwy i’w ystyried wrth greu gwaith i gleient nag efallai rhywbeth o’ch dewis eich hun. Nid yn unig disgwyliadau’r cleient a gwrando ar yr hyn y mae ei eisiau ond gweithio gyda therfyn amser gwirioneddol, gan ystyried maint, cludiant, diogelwch a goleuo er enghraifft.’

Dywedodd Oisin: ‘Roedd y canllawiau’n eithaf bras, a fy her gyntaf oedd edrych i mewn i’r mathau o gelf y gallwn weithio arnynt. Gweithiais gyda’r cleient i edrych ar arddulliau, lliwiau, maint a graddfa’r gwaith.  Yna fe gynhyrchais ychydig o ddiagramau ac aeth y prosiect ymlaen o hynny.’ Aeth ymlaen i egluro’r modelau a gynhyrchodd.  ‘Siaradais gyda’r cleient am y mathau o wrthrychau a chefais deimlad am greadur seibr 3D ar raddfa fwy. Addasais fy syniadau fel eu bod yn gallu cael eu symud i’r digwyddiad ac felly byddent yn ddiogel. Ar ôl dod o hyd i ddeunyddiau, y pwysau mwyaf oedd yr amser cyfyngedig a gefais i gynhyrchu’r gwaith.’

Yn dilyn y digwyddiad a gynhaliwyd ar ddechrau Chwefror derbyniodd Oisin e-bost i ddiolch iddo am ei waith caled a rhannu gydag ef pa mor dda y derbyniwyd ei ddau fodel.

Dywedodd Rob Loupart: ‘Gwnaeth Oisin ateb yr her ar y funud olaf gan greu dau fodel trawiadol ar raddfa fawr gyda llawer o nodweddion i gwrdd â’r briff. Roeddem mor falch o glywed bod y cleientiaid a’r gwesteion yn y digwyddiad wedi mwynhau gweld ei waith yn fawr a’i fod wedi bodloni’r holl ddisgwyliadau. Mae hefyd wedi profi y gall Oisin weithio i friff allanol a bodloni terfynau amser.’