Gwobrau am Anrhydeddau Chwaraeon yng Ngrŵp Colegau NPTC

Sports Awards 2023 student with their trophy

Brasgamodd y Gwobrau Chwaraeon yn ôl i Grŵp Colegau NPTC ar ôl cyfnod hir o aros a seibiant o ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig.

Aeth dwsinau o fyfyrwyr i’r digwyddiad a a gynhaliwyd yng Nghlwb Criced Castell-nedd a chyflwynwyd gwobrau iddynt a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth am anrhydeddau rhyngwladol ac anrhydeddau’r sir, cynrychioli’r Coleg, gwobrau ar gyfer y chwaraewyr sydd wedi gwella fwyaf oll; Mabolgampwr y flwyddyn (gwrwyaidd a benywaidd) a thystysgrifau i wobrwyo campau rhai o’r myfyrwyr chwaraeon elitaidd hefyd.

Dywedodd Joanna Williams-Jones, trefnydd a darlithydd Chwaraeon ei bod yn noson enfawr i bawb.

“Mae wedi bod yn anodd iawn i’r gafarn hon am sawl flwyddyn ac rydyn ni’n ymwybodol eu bod nhw wedi gwneud eu gorau glas er hynny o ran astudio a chwaraeon, felly dyma ffordd o ddangos ein bod yn gwerthfawrogi eu holl ymdrechion.  Rydyn ni’n ddiolchgar iawn fod modd cynnal y seremoni yn fyw wyneb yn wyneb unwaith eto.”

Tynnwyd sylw arbennig hefyd i’r myfyrwyr chwaraeon a oedd wedi cymryd rhan yn y daith Erasmus yn ddiweddar. Teithiodd y llysgenhadon ifanc i Sbaen i ddarparu sesiynau chwaraeon yn IES Sierra de Mijas, ysgol i ddisgyblion 14–21 oed.  Treuliodd y myfyfrwyr bythefnos yn hyfforddi chwaraeon yn cynnwys rygbi a phêl-rwyd a oedd yn hollol newydd i’r myfyrwyr Sbaeneg.  Cymerodd y myfyrwyr canlynol ran yn y daith: Elis Griffiths, Alfie Fairhead, Laicee John, Tacha Brooks a Luke Thomas.

“Roedd hi’n ffantastig eu gweld yn datblygu eu sgiliau mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwaith tîm.  Er gwaethaf y rhwystr ieithyddol am nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn siarad llawer o Saesneg, daeth pawb yn ffrindiau mawr.” dywedodd Lindsay Piper darlithydd Chwaraeon.

Cyflwynwyd gwobrau i’r myfyrwyr canlynol: Llun 37: Sports Awards 2023 students with their trophy's

Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn – Alfie Fleming-Powell; Y Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella fwyaf – Callum Sullivan; Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn – Beth Jones; Y Chwaraewr Pêl-rwyd sydd wedi gwella fwyaf  – Sophia Thomas;  Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn – Molly Dykes; Y Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella fwyaf  – Georgia Wilks; Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Lily Anne Roberts; Y Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella fwyaf  – Lexy Lee; Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Evan Hill;Y Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella fwyaf – Corey Westermark; Sbortswraig Y Flwyddyn – Millie Blake; Sbortsmon Y Flwyddyn – Evan Hill; Y Wobr Kieran Sparrow – Sam Davies;

Rhoddwyd Anrhydeddau Grŵp a thystysgrif Gyflawni i’r myfyrwyr canlynol:

Sports Awards 2023 student with their trophy

Dinas Abertawe o dan 19 – Katie Lee; Llansawel o dan 19Molly Dykes; Tîm Menywod y Gweilch o dan 18 – Lilly Roberts; Izzy Lewis; Maddison Hines;  Tîm Cymru o dan 20 – Evan Hill; Tim Dynion y Gweilch o dan 18 – Oliver Addis-Fuller; Evan Hill (Capten); Oliver Jones;  Brychan Wood; Charlie Thomas; Llewellyn Hawkes;  Cymru Premier –  Evan Hill (Clwb Rygbi Abertawe); Tarik Dabeh (Clwb Rygbi Castell-nedd); Llewellyn Hawkes (Clwb Rygbi Castell-nedd);  Pêl-rwyd Sir Afan Nedd Tawe  – Lilly Roberts; Pêl-rwyd ColegauCymru – Abbie Diiulio;  Gymnasteg – Josie Gittins-  Afan Nedd Tawe; Bocsio –Owen Thomas- British Amateur Boxing Council Pencampwr Iau Pwysau Canol; Mabolgampau – Sam Davies- Naid Uchel:Uwch Chwaraewr Cymru a Phencampwr o dan 20; Matthew Cox- Rhedeg Traws Gwlad, Afan Nedd Tawe; GolffSam Peet- Uwch Dîm Cymru; Criced ColegauCymru –Ben Williams; Tom Carrol; Sam Burton; Scott Evans; Lewis Henry; Luke Thomas; Lloyd Jones; Tom Evans; Joe Knoyle; Oliver Suter; Millie Blake; Codi Pwysau Cymru – Elin Haf Tossell.