Cychwyn Brysur i’r flwyddyn 2023 yn ein Hadran Ryngwladol

James Llewellyn - Head of International and Deputy CEO Catharine Lewis International Teacher Professional Development

Grŵp Colegau NPTC | Rhaglen Conexão Mundo | Education Together UK

Fel rhan o’r Rhaglen Conexão Mundo a hwyluswyd gan Education Together UK, consortiwm Grŵp Colegau, mae’r Coleg yn falch o groesawu myfyrwyr o Frasil i ymuno â ni i ddarparu profiad addysgol  bythgofiadwy.

Yn ystod eu hamser yma yng Nghymru, maent wedi cael y cyfle i ehangu eu gorwelion diwylliannol, adeiladu perthasnau gydal oes a datblygu sgiliau gwerthfawr ar hyd y ffordd.

Mae’r rhaglen hon wedi galluogi’r myfyrwyr hyn i brofi dull wahanol o ddysgu, ar yr un pryd â phrofi diwlliant a dull o fyw hollol newydd.  Fe’u croesawyd gan deuluoedd lleol a oedd yn gofalu amdanynt ac mae llawer o’r myfyrwyr yn eu gweld fel eu hail deulu erbyn hyn.  Mae’r perthnasau hyn wedi bod yn rhan annatod o’u holl brofiadau yng Ngrŵp NPTC.

Mae’r rhaglen hon wedi bod yn gyfle ardderchog i’r myfyrwyr hyn ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau gwerthfawr a fydd o les o safbwynt eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Roedd modd iddynt gymryd rhan mewn ystod o bynciau yn ein Campws Castell-nedd i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth bellach.

Roedd llawer ohonynt yn mynychu ein dosbarthiadau Safon Uwch, felly yr oedd modd iddynt gael blas go iawn ar fywyd fel myfyriwr yma yn y Coleg. Roedd rhai eraill yn mynychu cyrsiau BTEC, ond yn y pendraw, roedd cyfle i bob myfyriwr astudio’r pwnc o’u dewis

Roedd hefyd ganddynt gyfle i wella eu sgiliau Saesneg wrth fynd i ddosbarthiadau Saesneg a gynhaliwyd gan ein darlithwyr o fri yn y Coleg.

Mae’r rhaglen hon wedi galluogi’r myfyrwyr hyn i ymwreiddio mewn ffordd o fyw hollol wahanol gan neu harwain at ennill annibyniaeth helaeth, cael anturiaethau newydd ac archwilio i bethau newydd.

Roedd cyfle i’r myfyrwyr hyn hefyd gweld prydferthwch naturiol Cymru gyda theithiau diwylliannol bob wythnos i ymweld â Gerddi Fotaneg Naturiol Cymru, prifddinas Caerdydd a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.  Dyma ychydig o’r llefydd prydferth y maent wedi eu gweld un ystod eu cyfnod yma yng Nghymru.

Mae’r rhaglen hon wedi newid bywydau’r holl fyfyrwyr hyn ac rydym ni yng Ngrŵp Colegau NPTC yn teimlo balchder a braint wrth fod yn rhan o’r profiad hwnnw.

Hoffem ddymuno pob llwyddiant i bob un o’r myfyrwyr hyn yn eu hastudiaethau yn y dyfodol.

Brazilian students arrive in Neath College Brazilian students arrive in Neath College Brazilian students at a water fallin the Beacon Beacons

Cyngres y Byd 2023 yn Montréal

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o dderbyn y Wobr Ragoriaeth Arian o fri 2023 am ein rhaglenni  rhyngwladol Datblygiad Proffesiynol i Athrawon yn y Ffederasiwn Colegau a Cholegau Polytechnig y Byd (WFCP) ym Montréal.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cydnabod campau Grŵp Colegau NPTC ond hefyd yn arddangos ymrwymiad rhagorol ein cyfadran o fri sy’n darparu addysg o ansawdd wrth wella’r profiad dysgu drwyddi draw a safon sgiliau’n fyd-eang.

Derbyniwyd y wobr hon yn ystod ymweliad i Ganada gan y Dirprwy Bennaeth/Dirprwy Brif Weithredwr Catherine Lewis a James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol.

Maent wedi ymweld â Chyngres Flynyddol Ffederasiwn Colegau a Cholegau Polytechnig y Byd a Cholegau a Sefydliadau Canada, er mwyn ymchwilio i gyfleoedd i bartneriaethau a chydweithredu â mwy na 1,500 o gynrychiolwyr heddiw a thrwy gydol yr wythnos hon.

Rydym yn edrych ymlaen yn frwd at gydweithredu â’n partneriaid yng Nghanada yn y dyfodol.

 James Llewellyn - Head of International and Deputy CEO Catharine Lewis International Teacher Professional Development

Rhaglen Gyfnewid Cymru a’r Almaen am Bythefnos

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod wrth ei fodd yn croesawu myfyrwyr a staff o Wilhelm-Maybach-Schule Technisches Schulzentrum Heilbronn, Yr Almaen, am raglen gyfnewid sy’n para am ddwy wythnos. Aeth myfyrwyr o’r Adran Gwasanaethau Peirianneg Fusnes, Grŵp Colegau NPTC gan arbenigo ym meysydd Technoleg Werdd, Electroneg a datrysiadau y y dyfodol.

Roedd gan fyfyrwyr o Gymru a’r Almaen y cyfle i ddysgu gan ei gilydd ac archwilio gorwelion newydd. Rydym wrth ein bodd gyda’r prosiectau terfynol y cyflwynwyd ganddynt ac yn falch o’u cyflwyniadau.  Edrychwn ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol i gydweithio a chyd-dysgu, a dymunwn bob lwc i’r myfyrwyr hyn a’r dyfodol disglair sy’n aros amdanynt.

German Two-Week Exchange Programme lecturer and student German Two-Week Exchange Programme group photo German Two-Week Exchange Programme lecturers and students German Two-Week Exchange Programme lecturers and students

Rhaglen Gyfnewid Myfyrwyr o’r Swistir

Roedd cyfle ffantastig gan yr Uwch Swyddog Gweithrediadau Rhyngwladol a Dirprwy Bennaeth Academi’r Chweched Dosbarth i gwrdd â chafarn newydd o fyfyrwyr o’r Swistir. Roedd modd iddynt hefyd gwrdd â rhieni’r myfyrwyr hyn i rannu eu brwdfrydedd.

Bydd y myfyrwyr yn ymuno o fis Medi 2023 ymlaen i gyflawni blwyddyn o astudio yn ein Hacademi Chweched Dosbarth o fri. Bydd y myfyrwyr hyn yn ymdreiddio yn ein diwylliant a’n dull o ddysgu i’w helpu i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth. Mae hyn yn rhan o’u cymhwyster dwyieithog mewn Ffrangegea Saesneg sy’n para am 3 blynedd mewn Ysgolion Uwchradd yn y Swistir.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gyd ar y daith addysgol ffantastig hon.

Lecturers and students in a group photo in Switzerland