Grŵp NPTC yn Darparu Hyfforddiant i Athrawon yn Tsieina

Lecturer Christopher Manley delivering teacher training in China

Cafodd Grŵp Colegau NPTC ymweliad staff llwyddiannus â Tsieina yn gynharach yn ystod y mis. Aeth Christopher Manley, Uwch Ddarlithydd Gweithrediadau Rhyngwladol, a Linda Kelly, Darlithydd CDT, BTM a FACL, i ymweld â Choleg Economeg a Busnes Hainan. Roedd hyn mewn partneriaeth â CEBVEC, sef y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Addysg Alwedigaethol Brydeinig yn Tsieina. Mae Grŵp NPTC wedi gweithio’n agos gyda CEBVEC dros y blynyddoedd diwethaf i gynllunio a darparu rhaglenni hyfforddi athrawon yn Tsieina.

Pwrpas yr ymweliad hwn oedd cyflawni elfen wyneb yn wyneb y rhaglen, ar ôl cyflawni elfennau eraill y rhaglen ar-lein. Mae’r rhaglen hyfforddi athrawon hon wedi canolbwyntio ar ddatblygu dull addysgu newydd yn Tsieina. Mae ei nodweddion arloesol, uchel eu hansawdd wedi cyfrannu at lwyddiant ysgubol y rhaglen. Mae rhagor o athrawon yn Tsieina yn dymuno cymryd rhan yn y rhaglen bwrpasol hon i ddysgu sgiliau amhrisiadwy er mwyn gwella eu harddull addysgu yn gyffredinol.

Cafodd Chris a Linda brofiad ardderchog yn ystod y pythefnos o addysgu yn y wlad.

Doedd gan Linda Kelly ddim gair drwg i’w ddweud am y trip. Meddai: “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel addysgu yn Tsieina.  O’r dirwedd isdrofannol i’r bobl garedig a chyfeillgar, roedd y cyfan yn hudolus.  Roedd hi’n wych cael darparu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth ar ôl cynifer o sesiynau ar-lein. Roedd yr athrawon wedi mwynhau’r sesiynau addysgu, gan ddangos diddordeb a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd.  Uchafbwynt y daith oedd gwylio eu sesiynau addysgu micro a gweld yr holl ymarfer da yr oedden nhw wedi’i ddysgu yn cael ei roi ar waith.  Roedd safon uchel eu gwersi a’u brwdfrydedd wedi gwneud cryn argraff arna’ i.  Os daw cyfle i ddychwelyd i Tsieina, bydda i’n siŵr o fachu arno.”

Roedd Christopher Manley yn frwd ei ganmoliaeth o’r daith hefyd, gan ddweud: “Roedd y profiad addysgu’n un ardderchog ac i’n helpu ni i ddarparu, fe wnes i ofyn yn benodol am gael ymuno ag un o’u sesiynau addysgu i allu arsylwi athro’n gwneud yr hyn mae’n ei wneud orau, a chwilio am feysydd i’w gwella. Dyna pryd daeth yr her i’r golwg i fi ac roedd yn golygu bod angen ailysgrifennu deunydd, felly fe wnes i dreulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’r sesiynau nesaf – her hynod gyffrous. Yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am Tsieina oedd y bobl. Roedd pawb mor gyfeillgar a gofalgar, ac roedd y ddau ddiwrnod olaf yn uchafbwynt – diwrnod ‘dod â’ch plentyn i’r ysgol’ a diwrnod ‘dod â’ch anifail anwes i’r ysgol’. Wna i byth anghofio gweld rhywun yn dod â’i barot i’r campws yn ei fag cefn!

Yr hyn wnaeth argraff arna’ i o ran ein profiad addysgu yn Hainan oedd y croeso gawson ni gan bob aelod o staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd. Weithiau bydden ni’n mynd i’r stryd fwyd i fyfyrwyr a phan oedden ni eisiau archebu bwyd, byddai pobl ddieithr a oedd yn siarad mwy o Saesneg nag oedden ni’n ei siarad o’r famiaith yn dod draw i’n helpu ni i archebu. Roedd hynny’n nodweddiadol o agwedd pawb. Roedden nhw’n awyddus i dynnu lluniau ohona’ i – roedd Cymro’n crwydro’r campws yn olygfa ryfeddol mae’n rhaid!

Byddwn yn argymell y profiad i bawb”.

Mae Grŵp NPTC yn edrych ymlaen at barhau â’i waith gyda Tsieina ac at y cyfle am ymweliadau a rhaglenni yn y dyfodol.