Taith staff Colegau Cymru a Nexgen i Barcelona 2023

Staff at the Colegau Cymru and Nexgen Staff Mobility in Barcelona 2023

Yn gynharach eleni, aeth dau aelod o staff Grŵp NPTC, Naomi Davies a Helen Thomas, i Barcelona fel rhan o daith wedi’i hwyluso drwy raglen Taith a Cholegau Cymru. Aethant i Barcelona i wella a datblygu eu gwybodaeth am y sector addysg bellach yng Nghymru, gan gymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau â Nexgen i edrych ar ofynion Bagloriaeth Cymru o safbwynt ymarferol ac arweinyddiaeth.

Roedd y ddwy wedi mwynhau’r profiad yn fawr a dywedodd Naomi: “Roedd y daith wedi ein galluogi ni i gydweithio a chyd-greu profiadau dysgu symudedd rhyngwladol sy’n cyd-fynd â’r cymhwyster newydd, Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. Yn ystod ein taith, fe gawson ni gyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai ar hyd a lled y ddinas, gan gynnwys TeamLabs a 42 Barcelona, gan gymryd rhan mewn sesiynau dysgu drwy brofiad arloesol. Fe gawson ni brofiad o ddysgu drwy fethodoleg gydweithredol, heb athrawon a dosbarthiadau traddodiadol – roedd hynny wir yn unigryw ac yn dipyn o agoriad llygad. Ar ben hynny, fe gawson ni hwyl yn coginio rhywfaint o fwyd Catalanaidd traddodiadol”.

Roedd yr wythnos yn gyfle gwych i ddeall mwy o lawer am y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd ac roedd y trafodaethau ynghylch y cymhwyster newydd yn gynhyrchiol ac yn llawn gwybodaeth, a fydd yn cael effaith hynod gadarnhaol ar ddyfodol y cymhwyster newydd. Mae’n amlwg bod cryn botensial ar gyfer cydweithio ac addysgu a dysgu rhyngwladol ar draws y cymhwyster newydd.

Ychwanegodd Naomi: “Rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r partneriaethau hyn ac at y cyfleoedd cyffrous sydd ar y gorwel”.

Bydd cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Lefel 3 newydd CBAC yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a phrifysgolion ledled y DU a thu hwnt. Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu ar draws nifer o Ysgolion yng Ngrŵp Colegau NPTC o fis Medi 2023 ymlaen ac mae wedi cael ei ddylunio i ddysgwyr 16 i 19 oed ei ddilyn ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, gan gynnwys rhai Safon Uwch.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at edrych ar ragor o gyfleoedd symudedd staff rhyngwladol yn y dyfodol.