Dod at ein Gilydd er Lles ein Cymunedau

NPTC Group of Colleges staff, local dignitaries and Keep Wales tidy staff at the new Garden at Neath College

Mae Grŵp Colegau NPTC a Cadwch Gymru’n Daclus wedi dod at ei gilydd ac yn cydweithio i helpu i warchod yr amgylchedd am genedlaethau i ddod.

Mae’r bartneriaeth waith bellach yn swyddogol yn dilyn lansiad a gyda’i gilydd mae’r ddau fudiad yn gobeithio adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes a denu gwirfoddolwyr i helpu’r achos.

Mae’r Coleg a Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn cydweithio ar fentrau sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ac yn annog cyfranogiad cymunedol.

Gyda chefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus, mae Hybiau Casglu Sbwriel wedi’u hagor yng Ngholeg Castell-nedd, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd. Maent yn rhan o rwydwaith o bron i 200 o hybiau sy’n cynnig yr holl offer sydd ei angen i wneud gwaith glanhau diogel, gan gynnwys codwyr sbwriel, festiau gwelededd uchel a bagiau sbwriel. Gall unrhyw grŵp cymunedol neu unigolion gysylltu â’r Coleg i ddarganfod mwy a chasglu’r offer am ddim.

Yn ogystal, mae’r Coleg a Cadwch Gymru’n Daclus wedi sefydlu gerddi natur ar safleoedd Coleg Castell-nedd, Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd, lle mae cynnyrch ffres yn cael ei dyfu. Bydd y gerddi llysiau yn helpu i gyflenwi ceginau’r Coleg. Y gobaith yw y bydd gwirfoddolwyr yn helpu i ofalu am y gerddi a chynnig cymorth i’w helpu i ffynnu.

Mae staff a myfyrwyr eisoes yn cymryd rhan mewn cynlluniau gwirfoddoli ac yn ddiweddar lansiodd y Coleg ei bolisi gwirfoddoli ei hun sy’n caniatáu hyd at ddau ddiwrnod o wyliau â thâl i staff helpu i gefnogi elusennau ac achosion yn y gymuned.

Dywedodd Gemma Charnock, Is-Bennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned: “Mae’r Coleg yn awyddus i chwarae ei ran i warchod yr amgylchedd ac mae gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus o fudd enfawr. Gallwn dynnu ar brofiad yr elusen a bydd y berthynas hon nid yn unig yn cyfoethogi ein cwricwlwm a’n profiad myfyrwyr ond hefyd yn dod â budd i’r gymuned ehangach.”

Dywedodd Jake Castle, Rheolwr Rhanbarthol Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae ein partneriaeth ag NPTC eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae wedi bod yn wych gweld y gerddi natur yn datblygu, gan ddenu bywyd gwyllt a darparu hafan i staff a myfyrwyr.  A chyda’r Hybiau Casglu Sbwriel bellach ar agor, mae’n ei gwneud hi’n haws fyth i bobl lanhau’n ddiogel lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw.

“Dim ond y dechrau yw hyn, ac edrychwn ymlaen at ymuno â’r Coleg ar fwy o brosiectau dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae Canolfannau Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus wedi’u sefydlu fel rhan o fenter fwyaf erioed Caru Cymru yr elusen i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff. Mae Caru Cymru wedi derbyn arian drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru

Ar gyfer yr ardd a phrosiect codi sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch gysylltu â thimau’r dderbynfa yn y canlynol am fanylion:

kwt-neath@nptcgroup.ac.uk

kwt-newtown@nptcgroup.ac.uk

kwt-Brecon@nptcgroup.ac.uk