Ymweliad y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio Grŵp NPTC â’r India

Creative Visual and Performing Arts lecturers during their trip to India

Cafodd Grŵp Colegau NPTC y cyfle i anfon Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd a Phennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, Victoria Burroughs, a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Shayne Phillips i’r India yn gynharach eleni i ymchwilio i bartneriaethau a chydweithrediadau posibl.  Hwyluswyd yr ymweliad trwy’r rhaglen Taith a chymorth sefydliad yn Delhi o’r enw’r Legends of India.

Roedd Vicky a Shayne wrth eu bodd yn yr India yn cwrdd â phartneriaid o lawer o golegau a phrifysgolion amrywiol.  Dechreuodd y cyfarfod cyntaf yn New Delhi gyda Llysgennad Llywodraeth yr India Suresh Goel, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyngor Cysylltiadau Diwylliannol yr India a Chydlynydd Ddarlithoedd Legends of India a’i Gadeirydd o fri Dipayan Mazumdar. Trafodaeth hynod o lwyddiannus sydd wedi cyflwyno cyfleodd cyffrous i staff a myfyrwyr ar bob ochr.

Trwy gydweithredu, mae Grŵp Colegau NPTC a phartneriaid o’r India wedi cyflwyno syniadau arloesol newydd i greu rhaglenni trochi i fyfyrwyr o’r India a fydd yn dysgu mwy iddynt am ddiwylliant a hanes Celfyddydau Perfformio Cymru.  Awgrymwyd syniadau i hwyluso teithiau i’r India gan staff a myfyrwyr ac i ymgysylltu â gweithgareddau a rhaglenni er mwyn cyrraedd gwell ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a’i Chelfyddydau Perfformio ac iweithio law yn llaw i greu partneriaeth ddi-dor Cymru-Yr India. Mae hyn hefyd yn cynnwys llawer o gyfleoedd am brosiectau dawns a ffilmiau.

Yn yr India, ymwelodd y ddau aelod o staff â’r ganolfan y Celfyddydau o fri, Triveni Kala Sangam, lle yr oeddent wedi cwrdd â churadur ac artisitiaid arddangosfa Trimming the Light. Yn hyn o beth, roedd modd iddynt gael cipolwg ar ddulliau dawnsio amrywiol yr India a hyd yn oed cyfle i arsylwi ar ddosbarthiadau cerflunio.  At hynny, cafodd Vicky a Shayne y cyfle i wylio perfformiad gan yr artist a chyfansoddwr cerddoriaeth o fri Dishari Chakraborty. Roeddent hefyd yn ddigon lwcus gweld perfformiad gan y cerddorwr Sourabh Goho.

Ymwelodd Vicky a Shayne ag Ysgol Ryngwladol Calcutta i weld y celfwaith ffantastig yr oedd y myfyrwyr wedi’i gynhyrchu dan gyfarwyddyd ei Bennaeth Adran o fri, Subrata Ghosh.

Trafodwyd prosiectau cydweithrediadol ar gyfer y dyfodol, yn arbennig ar gyfer Ffotograffiaeth Safon Uwch ynghyd â rhaglen gyfewid i staff.

Bydd cydweithredu â staff ac artistiaid o’r India yn cynnig profiad cyfoethogi i fyfyrwyr a staff yng Ngrŵp Colegau NPTC a bydd yn creu trafodaeth ddiwylliannol ystyrlon rhwg y ddwy genedl. Dychmygwn y cynhelir perfformiadau, gweithdai ac ymweliadau cyfnewid diwylliannol ar y cyd i arddangos dawn a sgiliau ein myfyrwyr a chryfhau’r rhwymau rhwng Cymru a’r India.

Sylwadau cadarnhaol yn unig oedd gan Victoria Burroughs ynglŷn â’i hymweliad â’r India: “Roeddwn i’n lwcus iawn ymweld â’r India gyda fy nghyd-weithiwr Shayne Phillips, a cwrdd â swyddogion Llywodraeth yr India, artistiaid proffesiynol o ganolfannau creadigol New Delhi a Kolkata yn yr India a phobl pwysig o’r ysgolion a’r prifysgolion rhyngwladol.  Trefnwyd yr ymweliad gan sefydliad y Celfyddydau Indiaidd o’r enw Legends of India ac roedden ni wrth ein bodd gyda’n gilydd gan ddysgu sut gymaint yn ystod ein hamserlen llawn a chyffrous, gyda phrosiectau cydweithrediadol a phartneriaethau gwaith wrth wraidd popeth. Roedden ni wedi cael cymorth rhagorol gan dîm rhyngwladol Grŵp Colegau NPTC.

Roedd yr ymweliad wedi gwneud i ni adlewyrchu ar ein harferion yng Nghymru a bydd y profiad ffantastig hwn yn dod â llawer o gyfleoedd cyffrous i’n myfyrwyr a’n cyd-weithwyr”.

Canmolodd Shayne Phillips ei hymweliad i’r eithaf wrth ddweud: “Ces i fy mhrofiad cyntaf ym mis Ebrill 2023 o deithio’n rhyngwladol trwy Grŵp Colegau NPTC. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn cael y cyfle i ymweld â’r India gyda Pennaeth yr Ysgol Victoria Burroughs a chymorth ein tîm rhyngwladol proffesiynol iawn mewn cydweithrediad â Legends of India, a oedd yn ein cefnogi i’r eithaf, cyn, ac yn ystod ein taith. Dydw i byth wedi teithio mor bell, felly roeddwn i’n nerfus a thu allan i’m parth cysur, sut bynnag, dwi’n gallu dweud heb unrhyw amheuaeth, dyma fy mhrofiad gorau yn ystod 26 mlynedd o dysgu a darlithio.  Roedd ymweld â chanolfannau diwylliannol yn New Delhi a Kolkata yn rhoi cipolwg ffantastig i ni ar yr ystod amrywiol a chyfoeth o gelfyddyadau creadigol sydd ar flaen y gad ac wrth wraidd ethos diwylliannol yr India. Gydag amserlen brysur a oedd wedi’i chynllunio’n dda, roedd cyfle gennym ni i adeiladu perthynasau gydag ystod o artistiaid a chanolfannau addysgol a datblygu cynlluniau i gydweithredu yn y dyfodol.  Profiad ffantastig a fydd yn uchafbwynt allweddol fy ngyrfa ac yn fythgofiadwy. Diolch yn fawr i Vicky, ein Tîm Rhyngwladol a Legends of India, am ei wneud yn ymweliad mor arbennig gyda sut gymaint o gynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol.”

Mae Grŵp Colegau NPTC yn edrych ymlaen at barhau i fagu cyfnewidiadau diwylliannol a chydweithrediadau gyda phartneriaid yn yr India.