Dosbarth 2023 yn Dathlu Llwyddiant Arholiadau

NPTC Group of Colleges students on Results Day with certificated and speech bubbles.

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau arbennig yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.

Mae dosbarth 2023 wedi cyflawni cyfradd llwyddo gyffredinol o bron i 99 y cant.  Roedd nifer y graddau A* – B yr un peth â’r llynedd, gyda llawer mwy na hanner o fyfyrwyr yn cyflawni’r graddau hynny. Llwyddodd bron i draean y myfyrwyr i ennill graddau A*- A, a chafodd llawer mwy na tri chwarter ohonynt raddau A* – C. I’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE) mae rhagor o newyddion da, gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A* – A a 100 y cant yn derbyn graddau A* – B.

A Level 2023 results badges, green, yellow and pink in Welsh

Cafwyd llwyddiant mawr hefyd gan y myfyrwyr oedd yn sefyll eu cymwysterau Galwedigaethol Lefel 3, gyda 70 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth, a 24 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil gradd uchaf posibl o seren rhagoriaeth driphlyg sy’n gyfwerth â thair A* mewn Safon Uwch.

At hynny, cyflawnodd 376 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 100 y cant, gyda 58 y cant yn cyflawni graddau A* i C.

Vocational 2023 results badges, green, yellow and pink in Welsh.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau a gall eraill ddilyn eu llwybrau gyrfa o ddewis erbyn hyn ar ôl cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau:

“Mae hyn o ganlyniad i holl waith caled ein myfyrwyr a’n staff a dylid eu canmol i’r eithaf am yr holl ymdrechion a wnaethpwyd i gyflawni’r canlyniadau hyn.

“Mae’r canlyniadau unwaith eto’n anhygoel gyda chyfradd llwyddo gyffredinol o bron i 99 y cant a’r graddau A* yn un peth â’r llynedd*.  Roedd ein myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen GATE) hefyd yn hynod o lwyddiannus gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A*/A.

“Unwaith eto, cafwyd llwyddiant mawr gan ein myfyrwyr galwedigaethol gyda 70 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth a 24 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl sef rhagoriaeth serennog sy’n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.

“At hynny, cyflawnodd 376 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 100 y cant, gyda 58 y cant yn cyflawni graddau A* i C.”

Mae Katie Jones, myfyrwraig Safon Uwch, yn mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ar ôl cyflawni tair A* anhygoel mewn Mathemateg, Llenyddiaeth Saesneg a Seicoleg. Meddai, “Rwyf mor falch o gael fy nghanlyniadau o’r diwedd ac rwy’n gyffrous ynghylch yr hyn sydd gan gam nesaf fy addysg.”

Enillodd Eleanor Mogridge A* mewn Mathemateg, A* mewn Mathemateg Bellach ac A* mewn Ffiseg. Mae hi wedi cael ei derbyn i astudio Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.

Enillodd y myfyriwr Safon Uwch Scarlett Dunsford radd A* ardderchog mewn Cemeg,  A* mewn Bioleg ac A* mewn Seicoleg, ac mae wedi cael ei derbyn i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Manceinion.

‘’Roeddwn i wrth fy modd yn astudio Cemeg yn y Coleg, roedd y cymorth gan fy narlithwyr wedi bod yn anhygoel ac yn gwneud i mi eisiau barhau gyda hyn yn y brifysgol.  Doeddwn i erioed yn meddwl y byddai modd i mi gyflawni 3 A* ar Safon Uwch ond, gyda’u cymorth, rydw i wedi llwyddo yn hyn o beth!”

Student Scarlett portrait shot

Cyflawnodd Emily McManus 3 A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg ac mae nawr ar ei ffordd i astudio Ffiseg ac Astroffiseg.

Student Emily looking happy and shocked with her results.

Cyflawnodd Mila Collins A mewn Mathemateg, A mewn Ffiseg ac A mewn Drama.

Derbyniodd Olivia Cockwell, myfyriwr BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ragoriaeth driphlyg serennog syfrdanol. Mae hi’n aros yn y coleg i astudio HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Academi Chwaraeon Llandarcy.

Llwyddodd Megan King, myfyriwr hynod o hapus, i ennill y graddau sydd eu hangen arnynt i astudio Archeoleg a Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd gyda gradd B mewn Hanes yr Henfyd; A* mewn Saesneg Iaith, A* mewn Llenyddiaeth Saesneg ac A* yn ei Phrosiect Estynedig. Dywedodd Megan: “Mae’r Coleg wedi bod yn wych, ac rwy’n teimlo rhyddhad wrth dderbyn y canlyniadau angenrheidiol i astudio yn y brifysgol.”

Mae Grace Evans ar ei ffordd i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cyflawni graddau B mewn Cymdeithaseg, Seicoleg a Chelf. “Mwynheais Goleg Castell-nedd yn fawr ac mae’r cymorth gan y staff wedi bod yn wych,” dywedodd.

Roedd Neve Coombes wedi mwynhau ei gwersi Ffrangeg yn y coleg sut gymaint, penderfynodd astudio’r pwnc yn y brifysgol ac ar ôl cyflawni A mewn Addysg Grefyddol Safon Uwch, A mewn Drama ac A* mewn Ffrangeg ac mae hi wedi cael cynnig am le ym Mhrifysgol Caerdydd. Esboniodd:”Mwynheias fy ngwersi mewn Ffrangeg sut gymaint; roedd awyrgylch mwy ymlaciol na gwersi’r ysgol ac roedd fy narlithwyr wedi fy nghefnogi i’r dim i gyflawni i’r eithaf.”

Student Neve portrait shot

Mae Luke Thomas sef myfyriwr BTEC Lefel 3 mewn Hyfforddiant Chwaraeon wedi penderfynu aros yn Academi Chwaraeon Llandarcy i astudio HND mewn Hyfforddiant Chwaraeon ar ôl cyflawni gradd rhagoriaeth driphlyg serennog.

Roedd Megan Parfitt wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau sef 3 A ar Safon Uwch – cyflawnodd A* mewn Cyfrifiadureg, A*mewn Mathemateg ac A* mewn Mathemateg Bellach. Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Bryste i astudio Cyfrifiadureg.  Wrth fyfyrio ar ei hamser yn y coleg, dywedodd fod ei darlithwyr mor gefnogol ac ni fyddai hi wedi cyflawni canlyniadau fel hyn heb y darlithwyr.

Student Megan portrait shot

Enillodd Isabel Williams radd driphlyg A* ar Safon Uwch –  A* mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, A* mewn Mathemateg ac A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Mae ar ei ffordd nawr i Brifysgol Caerfaddon i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Ffrangeg.

Roedd Isabel wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau, a’i mam falch hefyd a oedd yn argymhell y Coleg i’r eithaf: “Mae Isabel wir yn haeddu ei chanlyniadau, mae hi wedi gweithio mor galed ac rwy’n mor falch ohoni hi. Fel rhiant, dim ond pethau cadarnhaol sydd gen i i’w dweud am y Coleg, mae ei darlithwyr ym mhob un o’r pynciau wedi bod yn ardderchog – yn gefnogol drwyddi draw ac mae ei chanlyniadau yn dyst o hyn oll.”

Student Isabel with her results.

Enillodd Jemima Gorman A* mewn Bioleg, A mewn Mathemateg, A mewn Cemeg ac A yn ei Phrosiect Estynedig. Roedd hi wrth ei bodd i dderbyn cynnig i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Student Jemima portrait shot.

Yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, cyflawnodd James Vaughan ragoriaeth driphlyg yn ei gymhwyster Lefel 3 yn y Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai. Mae James yn symud ymlaen i radd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Edge Hill, Ormskirk, gan obeithio symud ymlaen i Wyddor Fforensig Filfeddygol.

Students with certificates at Brecon Beacons College.

Mae myfyrwyr Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn camu ymlaen i gyrsiau nyrsio ar lefel gradd ar ôl llwyddo yn eu harholiadau, gyda Nicole Davies yn mynd i Brifysgol Abertawe a Laura Griffiths yn mynd i Brifysgol De Cymru.

Enillodd John Evans sef dysgwr aeddfed o’r cwrs Lefel 3 mewn Busnes a’r Gyfraith Gymhwysol, radd Rhagoriaeth Teilyngdod mewn Astudiaethau Busnes a gradd lwyddo yn y Gyfraith ac roedd ei bartner Sam wedi llwyddo i ennill ei thystysgrif yn y Gyfraith hefyd. Mae John a Sam yn symud ymlaen i Brifysgol De Cymru i astudio gradd yn y Gyfraith a gradd sylfaen.

Students John and Sam celebrating with balloons at Brecon Beacons College.

Yng Ngholeg Y Drenewydd, enillodd Eva Dimitriou Ragoriaeth mewn Diploma Estynedig  Lefel 3 UAL yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu. Mae hi’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd BA (Anrh) Theatr Gerddorol.

Llwyddodd Meggan Parkes, myfyriwr arall o’r cwrs Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3 UAL i gyflawni Rhagoriaeth hefyd ond bydd hi’n dychwelyd i’r coleg i astudio Diploma Proffesiynol mewn Perfformio Lefel 4 UAL.

Cyflawnodd Ruby Morgan Ragoriaeth mewn Celf ac mae hi’n mynd i Birmingham Met i astudio BA (Anrh) Celf Gain.

Yn gyfarwydd â bod ar y llwyfan, enillodd Nye Parton Ragoriaeth anhygoel yn y cymhwyster Diploma Estynedig UAL Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu ac mae ganddi le yn The Backstage Academy yn Bolton i astudio BA (Anrh) mewn Rheoli’r Llwyfan a Chynhyrchu.

Student Nye with his certifcate and balloons at Netwown College.

Enillodd Alex Willingham radd Teilyngdod yn y cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 UAL yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu. Bydd yn mynd i Academi’r Cyfryngau Lerpwl i astudio BA (Anrh) mewn Actio a Pherfformio.

Cyflawnodd Deilyngdod Triphlyg gan Tomas Roostan sef myfyriwr BTEC Diploma Estynedig mewn TG.

Student Thomas with his certifcate and balloons at Netwown College.