Wythnos Dysgu Oedolion gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot

Adult Learners Week graphic with a teacher helping adult learners and the words "Discover a range of free online and in-person learning opportunities throughout September. Search: Working Wales - Adult Learners Week'

Yn ôl yr ymadrodd adnabyddus, ‘dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu’, ac ni fu erioed amser gwell i gamu’n ôl i addysg, gyda dewis gwych o gyrsiau ar gynnig, a’r cwbl ar garreg eich drws.

Felly, p’un a ydych yn  chwilio am hobi newydd, am ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith neu angen cymwysterau i ddechrau gyrfa newydd, mae ystod eang o gyrsiau byr, rhan-amser a chyrsiau proffesiynol ar gael ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda sawl sefydliad partner i gynnig cyfleoedd i oedolion ddysgu sgiliau newydd neu i wella eu rhai presennol.

Fel rhan o wythnos Addysg Oedolion (18-22 Medi) byddwn yn cynnal digwyddiadau ledled Canolbarth a De Cymru. Gan weithio gyda’n partneriaid byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio, boreau coffi, a sesiynau blasu i alluogi darpar ddysgwyr i ddarganfod rhai o’r dosbarthiadau a ddarperir o fewn ein partneriaeth.

Mae gan ddysgu lawer o fanteision pwerus – gall newid bywydau yn gadarnhaol, cael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl a galluogi mwy o oedolion i symud ymlaen ac adeiladu dyfodol gwell yn hyderus.

Mae Julie Mercer, Pennaeth Dysgu Oedolion yn un o’n partneriaid Grŵp Colegau NPTC yn esbonio: ”Mae Dysgu Oedolion mor bwysig ar gyfer eich datblygiad proffesiynol, dysgu sgiliau newydd a chynnig cyfleoedd cyflogaeth gwahanol. Cynhelir ein cyrsiau mewn amgylchedd cefnogol gyda dosbarthiadau bach, sy’n golygu mwy o gefnogaeth un-i-un.”

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Drwy gydol mis Medi, bydd yr ymgyrch flynyddol yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod eu hangerdd a pheidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu a’i nod yw hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymru fel “Cenedl Ail Gyfle” ar gyfer dysgu gydol oes.

Am fwy o wybodaeth ar y gweithgareddau sydd gennym ar gael edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: chwiliwch PowysNPTALC neu ewch i Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Byddwn yn cynnal detholiad o gyrsiau blasu ar hyd a lled ein campysau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, dilynwch y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb.

Digwyddiadau Wythnos Addysg Oedolion

Cliciwch isod i ymweld â’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cymuned Dysgu Oedolion am y wybodaeth ddiweddaraf.

Instagram

Facebook

Twitter