Mae Ser y Coleg yn Disgleirio yn y Digwyddiad Gwobrau Myfyrwyr

Mae rhai o’r myfyrwyr mwyaf galluog ac addawol yng Nghymru wedi cael eu cybnabod yn  Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC a gynhaliwydyng Ngholeg Castell-nedd.

Roedd y noson yn ddathliad o lwyddiant academaidd a phersonol, gydag un myfyriwr o bob maes academaidd yn cael ei goroni fel Enillydd Gwobr yr Ysgo,l ynghyd â gwobrau arbennig eraill a gyflwynwyd yn ystod y noson, gan gynnwys Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Uwch, Prentis Iau’r Flwyddyn a Myfyriwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn.

Nid oedd y Coleg yn anghofio ei staff ychwaith wrth anrhydeddu nifer o aelodau o staff addysgu a staff cymorth am eu hymrwymiad wrth wneud profiad myfyrwyr yn y Coleg yn brofiad heb ei ail a’r Coleg yn lle mor bywiog a chyffrous.

Daeth y noson i’w phen gyda gwobr am Fyfyriwr y Flwyddyn drwyddo draw sef myfyriwr Safon Uwch o’r enw Katie Jones a ddewiswyd gan Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC.  Mae Katie a fin ddechrau astudio Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ar ôl cyflawni canlyniadau rhagorol sef pedwar A*.

Wrth drafod ei chyfnod yng Ngholeg Castell-nedd dywedodd Katie ‘’Dwi’n teimlo’n lwcus iawn, roedd yn hollol annisgwyl.  Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn wych, dwi wir wedi mwynhau astudio yma, mae fy narlithwyr wedi bod yn gefnogol iawn a dwi wedi cael nifer o gyfleoedd gwych, felly dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yma gyda hoffter.’

Kev Johns yr actor a chyflwynydd oedd wrth y llyw ar y noson a chyflwynwyd yr enwebedigion a’r gwobrau i’r enillwyr ganddo a rhoddwyd cyflwyniad ysbrydoliaethus gan Tori James y gyntaf a’r unig fenyw o Gymru i ddringo Mynydd Everest.

Roedd Tori yn aelod o’r tîm benywaidd cyntaf i sgio i Begwn Magnetaidd y Gogledd mewn her begynol 360-milltir, mae hi’n dal y record am y daith hiraf mewn caiac yn y môr agored a gyflawnodd gyda’r Tîm Prydeinig. Nid dyna’r cyfan am anturiwr gyda sut gymaint o gymhelliant; Mwynhaodd Tori a’i ffrind daith ar feic llawn adrenalin a oedd yn para am 2400km ar hyd Seland Newydd ac ar ben hynny, mae hi wedi codi miloedd o bunnoedd yn ystod ei gyrfa dros elusennau amrywiol a derbyniodd Wobr Points of Light y Prif Gweinidog   am ei gwaith rhagorol wrth wirfoddoli a chodi arian.

Rhoddwyd y cyngor hwn gan yr anturiwr Tori i’n myfyrywr:

‘’Breuddwydio’n fawr yw fy nghyngor i fyfyrwyr, dod o hyd i’r hyn yr ydych yn teimlo’n angerddol drosto, peidio ag ofni camu allan o’ch parth cysur am mai dyma’r union le i chi ddod o hyd i’ch potensial. Anwybyddu’r sgeptigiaid a deall bod mwy nag un llwybr i gyrraedd eich cyrchfan, os nad yw un llwybr yn llwyddiannus – byddwch yn ffeindio ffordd arall.’’

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn cyflawni canlyniadau rhagorol yn rheolaidd yn eu cymwysterau Safon Uwch a’u cymwysterau galwedigaethol. Yn 2023 cyflawnodd y Coleg radd llwyddo gyffredinol o fron 99 y cant. Mae’r nifer o raddau A* – B ar yr un gwastad â’r llynedd gyda mwy na hanner o’n myfyrwyr yn cyflawni’r graddau hyn. Cyflawnodd bron i draean o fyfyrwyr y graddau uchaf sef graddau A*- A a llwyddodd dros tri chwarter i gyflawni graddau A* – C. I’r myfyrwyr a oedd yn dilyn y rhaglen GATE (Galluog a Thalentog), roedd newyddion da hefyd, gyda 84 y cant yn cyflawni graddau A* – A a 100 y cant yn llwyddo i ennill graddau A* – B.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC fod y seremoni wobrwyo yn llwyddiant mawr: “Mae’n fraint i mi allu dweud llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr am y gwaith caled a’r ymrwymiad y maent wedi eu dangos. Mae’r Gwobrau Myfyrwyr yn dathlu’r ymdrech a roddwyd gan y myfyrwyr rhagorol hyn i’w hastudiaethau. Hoffwn ddweud diolch i bawb sydd wedi gwneud y digwyddiad hwn mor lwyddiannus, gan dynnu sylw arbennig at y noddwyr heno.

Ar ran yr holl staff yng Ngrŵp Colegau NPTC a Bwrdd y Gorfforaeth, dymunaf longyfarchiadau diffuant i’r holl enillwyr.”

Noddwyd gan RTL Group a Route Media.

 

Enillwyr Gwobrau:

Myfyriwr y Flwyddyn Academi’r Chweched Dosbarth – Katie Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu – Catrin Holmes

Myfyriwr y Flwyddyn Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth – Imran Haque

Myfyriwr y Flwyddyn Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol – Barnabas Mark Barna

Myfyriwr y Flwyddyn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig – Adam Badran

Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio – Ronan Rees

Myfyriwr y Flwyddyn Arlwyo, Garddwriaeth – Ellisha Butler

Myfyriwr y Flwyddyn Peirianneg – Scott Mille

Myfyriwr y Flwyddyn Astudiaethau Sylfaen – Lauren Parsons

Myfyriwr y Flwyddyn Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol – Marie Hudson

Myfyriwr y Flwyddyn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant – Natalie Richards

Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Alfie Fairhead

 

Gwobr Ysgol Ramadeg Glan Afan ar gyfer y Canlyniadau Gorau ar Safon Uwch mewn Pynciau Gwyddonol – Eleanor Mogridge

Gwobr Ysgol Sir Port Talbot ar gyfer y Canlyniadau Gorau ar Safon Uwch yn y Celfyddydau – Ellie Tarrant

Gwobr Fathemateg William Lewis Jones  – Max Tam

Gwobr Saraswati – Elena Cioata, Tayla- Lee Parry

Gwobr Haulfryn – Oliver Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant Pathways – Mohamed Rithwan Thangeswaran

Myfyriwr y Flwyddyn Prentis Iau – Ashton Williams, Amelia Smith

Gwobr Ysbryd Entrepreneuraidd – Jonathan Jones

Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn –  Stephanie Cottle

Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch – Abigail Everton

Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Uwch – Thomas Biffin

Gwobr John Brunt – Megan Amber, Grace Wilson

Gwobr Cymraeg yn y Gweithle – Ifan Wyn Williams

Gwobr Bwrdd y Gorfforaeth ar gyfer Staff Cymorth – Angela Gill

Gwobr Bwrdd y Gorfforaeth ar gyfer Staff Addysgu – Carolyn Davies

Gwobr Prif Weithredwr Myfyriwr y Flwyddyn – Katie Jones