Margaret Thorne CBE., OBE.

Honorary Fellow Margaret Thorne on stage in wheelchair in graduation robes.

Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth ein Cymrawd Anrhydeddus hynaf, Margaret Thorne, CBE., OBE.

Bu farw Mrs Thorne, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed ym mis Ionawr, yr wythnos diwethaf. Roedd hi’n adnabyddus am ei chyfraniad i’r gwasanaethau gwirfoddol, ac er anrhydedd a chydnabyddiaeth o’r cyfraniad a wnaeth, dyfarnwyd OBE iddi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym 1984. Cafodd y wobr hon ei huwchraddio yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed i CBE, am ei gwaith fel Cadeirydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS) a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Yn ei harddegau, datblygodd Mrs Thorne ymdeimlad o ddyletswydd gyhoeddus ac roedd ei hymdrechion cyntaf i wirfoddoli ym 1938 yn cynnwys casglu arian ar gyfer llaeth sych i helpu babanod yr effeithiwyd arnynt gan Ryfel Cartref Sbaen.

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, dechreuodd ei bywyd gwasanaeth cyhoeddus o ddifrif. Daeth yn aelod o staff y Caldecott Community – ysgol breswyl i blant o gefndiroedd cythryblus. Yn ystod y blynyddoedd hyn, dioddefodd a rhannodd lawer o brofiadau gyda’r gymuned, gan deithio gyda nhw o Gaint i Dorset i osgoi ymosodiadau.

Ar ddiwedd y rhyfel, dychwelodd Mrs Thorne i Gaint ac yn 1949 priododd Ivor, cyfreithiwr mewn llywodraeth leol, a oedd wedi gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y rhyfel. Ym 1951, ar ôl symud ddwy waith a genedigaeth y cyntaf o’u dau blentyn, daeth y cwpl i Gastell-nedd. Yma, dechreuodd ymwneud â’r sector gwirfoddol yn fuan. Yn benodol, bu’n gweithio gyda’r Groes Goch Brydeinig ac yn y pen draw daeth yn Llywydd Cangen Gorllewin Morgannwg. Dyfarnwyd medal iddi hefyd am drigain mlynedd o wirfoddoli gyda nhw.

Mrs Thorne oedd y person cyntaf i dderbyn Cymrodoriaeth gan Grŵp Colegau NPTC yn 2017. Roedd ei hanrhydedd yn cynrychioli llawer iawn o ymrwymiad i’w dyletswyddau gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Roedd Mrs Thorne yn wraig hynod, ac roedd yn fraint i ni ei chael yn Gymrawd y Coleg hwn. Roedd hi’n arbennig iawn ac yn uchel ei pharch gan bawb oedd yn ei hadnabod. Gwasanaethodd y gymuned gyda balchder ac urddas a bydd colled fawr ar ei hôl. Rydym yn meddwl am ei theulu ar yr adeg drist hon.”