Rysáit ar gyfer Llwyddiant yn Academi Addysg Lee Stafford Grŵp Colegau NPTC

Croesawyd Michael Saunders, Hyfforddwr Addysg Lee Stafford, i Goleg Afan gan staff a myfyrwyr Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol ar gyfer dau ddiwrnod o weithdai a hyfforddiant ymarferol.

Mae Michael, sy’n gyd-sefydlwr Academi Addysg Lee Stafford, yn rhannu brwdfrydedd am berffeithio ei grefft ac ymgodi myfyrwyr. Ei athroniaeth yw bod amgylchedd dysgu diogel, rhyngweithiol yn hanfodol i alluogi myfyrwyr i ymsugno i fyd gwallt Addysg Lee Stafford yn llwyr! Mae e’n credu os bydd modd i ni ymchwilio, dysgu a mwynhau, i gyd ar yr un pryd, wedyn bydd hud yn dechrau digwydd!

Treuliodd Michael ddau ddiwrnod yn gweithio gyda staff a myfyrwyr yn yr unig Academi Addysg Lee Stafford Education Academy yng Nghymru, gan weld sut y maent wrthi’n gweithredu ryseitiau trin gwallt enwog Lee Stafford ac roedd wrth ei fodd gyda’r hyn a welodd.

Dywedodd: “Dwi newydd dreulio dau ddiwrnod yn gweithio yng Ngholeg Afan ac i fod yn onest mae canlyniadau’r tîm wedi gwneud argraff fawr arna i. Mae pob aelod o’r tîm wedi cofleidio ALS yn gyfangwbl gan ei defnyddio i ddarparu dosbarthiadau cynhyrchiol, cadarnhaol a llawn cymhelliant.  Darparwyd dosbarthiadau gydag egni ffantastig, mae dysgwyr yn frwdfrydig ac eisiau dysgu.”

Ychwanegodd: “Mae’r dosbarthiadau Lefel 2 yn eu pedwaredd wythnos ac mae myfyrwyr eisoes wedi meistroli Twisted Tong, Big and Bouncy, One Length Below a Long Grad. Mae’r safon yn uchel iawn ac yn hedfan i fyny. Roedd y grŵp Lefel 3 o’r un safon ac roeddynt yn trin gwallt fel gweithwyr proffesiynol ac eisiau dysgu, roedd y dosbarth yn llawn egni ac roedd y dysgwyr yn cael eu cymhell.”

Treuliodd Michael hefyd ychydig o amser gyda’n Prentisiaid Iau a’u tiwtor Pam a chafodd ei ysbrydoli gan yr hyn a welodd: “Roedd gen i gyfle i alw heibio i ddosbarth arall gyda Pam a’i myfyrwyr o’r ysgolion sy’n 15 oed yn unig ac a oedd yn cyflawni canlyniadau ffantastig gyda rholeri poeth ac  wedyn roedd un myfyriwr o’r dosbarth yn ymarfer One Length Below ar fodel byw, yn dilyn y llyfr ryseitiau ac wedi cyflawni canlyniad y byddai unrhyw driniwr gwallt yn falch ohono”

“Mae’r tîm yn cyflawni hyn oll i’r eithaf ac mae’n edrych yn hawdd felly, ond rydyn ni’n gwybod bod hyn yn ganlyniad o weithio’n galed a chynllunio’n dda.”

Grŵp Colegau NPTC yw’r unig goleg yng Nghymru i fod mewn partneriaeth â Lee Stafford, arweinydd yn  diwydiant trin gwallt, i ddarparu hyfforddiant rhagorol yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd.

Mae myfyrwyr yn ymarfer trwsiadau a technegau gwallt ar flaen y gad, wedi’u dylunio gan Lee a steilwyr arweiniol eraill ar draws y diwydiant mewn salonau wedi’u teilwra’n bwrpasol ac sy’n agored i’r cyhoedd.

Mae Lee yn esbonio ei gymhelliant wrth greu Addysg  Lee Stafford: “Mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i fyfyrwyr.  Dwi’n hoff iawn o roi’r cyfle gorau i bobl profesiynol ifanc gael addysg dda, yn arbennig ym maes trin gwallt.”

“Dwi wastad wedi bod yn angerddol am addysg ac fy niben erbyn hyn yw anfon y lifft i lawr i’r cenedlaethau talentog nesaf fel y gallwch chi hefyd fyw bywyd o awch.

“Yn bennaf oll, dwi wrth fy modd i weithio gyda myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu technegau cryf iawn ac agweddau gwych mewn parodrwydd am yrfa yn y diwydiant trin gwallt.”

Os hoffech wybod mwy am Academi Addysg Lee Stafford yng Ngrŵp Colegau NPTC neu eisiau cychwyn ar eich gyrfa Trin Gwallt gyda ni, cliciwch ar y botwm isod fel man cychwyn.

Academi Addysg Lee Stafford